Rees Arthur Rees (Rhys Dyfed)

Oddi ar Wicipedia
Rees Arthur Rees
FfugenwRhys Dyfed Edit this on Wikidata
Ganwyd1837 Edit this on Wikidata
Penbryn Edit this on Wikidata
Bu farw8 Gorffennaf 1866 Edit this on Wikidata
Llangynllo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymreig oedd Rees Arthur Rees (18378 Gorffennaf 1866), a adnabyddid wrth ei enw barddol Rhys Dyfed.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed y bardd rywbryd yn 1837 yn Felin Brithdir, Penbryn, Ceredigion. Daeth ymlaen yn dda yn yr ysgol, yn enwedig mewn mesuroniaeth (geometreg). Bu am gyfnod yn brentis mewn siop yn Rhydlewis, ac ymhen rhai blynyddoedd aeth i fyw a gweithio yn Lerpwl, ac oddi yno aeth yn ei flaen i Lundain. Ond yn 1860 dychwelodd gartref i Geredigion pan waethygodd ei iechyd a bu yno hyd ei farw ar yr 8fed o Orffennaf 1866. Cafodd ei gladdu yn eglwys Llangynllo.[1]

Llenydda[golygu | golygu cod]

Roedd yn awyddus am wybodaeth a llwyddodd i'w ddiwyllio ei hun. Dysgodd Saesneg yn ddigon da i gyfansoddi barddoniaeth a rhyddiaith yn yr iaith honno. Fel nifer yn ei oes roedd yn eisteddfodwr brwd. Cipiodd y wobr yn eisteddfod Llandudno (1864) am y farwnad 'Carn Ingli'. Roedd yn ail am gân ar 'Llywelyn ein Llyw Olaf' yn eisteddfod yr Hendy-gwyn ar Daf (1865).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]