Rebecca Hall
| Rebecca Hall | |
|---|---|
Hall yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Berlin, yn 2010 | |
| Ganwyd | 3 Mai 1982 Llundain, Lloegr |
| Enwau eraill | Rebecca Maria Hall |
| Yn enwog am | Vicky Cristina Barcelona |
| Galwedigaeth | Actores |
Mae Rebecca Maria Hall (ganed 3 Mai 1982)[1] yn actores Seisnig-Americaniadd. Yn 2003, enillodd Wobr Ian Charleson ar gyfer ei pherfformiad debut ar y llwyfan mewn cynhyrchiad o Mrs. Warren's Profession.[2] Mae wedi ymddangos yn y ffilmiau The Prestige, Vicky Cristina Barcelona, The Town, Frost/Nixon, Iron Man 3, Transcendence, a The Gift.
Ym mis Mehefin 2010, enillodd Hall wobr Actores Gefnogol BAFTA am ei rôl fel Paula Garland yng nghynhyrchiad 2009 Channel 4 Red Riding: In the Year of Our Lord 1974.[3] Yn 2013, fe'i henwebwyd am wobr Brif Actoresr BAFTA ar gyfer ei rôl fel Sylvia Tietjens yn Parade's End ar BBC Two.
Cynnwys
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd Hall yn Llundain, Lloegr, yn ferch i'r cyfarwyddwr llwyfan Seisnig Peter Hall, a sefydlodd Cwmni Brenhinol Shakespeare, a'r cantores opera Americanaidd Maria Ewing. Mae gan ei mam linach Iseldiraidd, Albanaidd, Sioux, ac Affricanaidd Americanaidd.[4][5][6][7] Gwahanodd ei rhieni pan oedd yn ifanc, yn ysgaru yn 1990.[4] Mae ganddi ddau frawd a thair chwaer,[4] gan gynnwys Edward Hall, cyfarwyddwr theatr, Lucy Hall, dyluniwraig setiau, Christopher Hall, cynhyrchydd, Emma Hall, actores, a'r actores Jennifer Caron Hall, o briodas gyntaf ei thad i'r actores Ffrengig Leslie Caron.[8]
Mynychodd Hall Ysgol Roedean School, lle ddaeth yn brif ferch.[4] Astudiodd Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg y Santes Catrin, Caergrawnt, cyn gadael yn 2002 ar ddechrau ei blwyddyn olaf.[4][9][10] Yn ystod ei chyfnod yng Nghaergrawnt, roedd yn aelod brwd o'r sîn theatr i fyfyrwyr gan sefydlu ei chwmni ei hun.[11] Roedd yn aelod o'r Gymdeithas Marlowe yn serennu ar bwys Dan Stevens, a oedd yn fyfyriwr Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt, mewn sawl cynhyrchiad a dderbyniodd clod eang.[12][13]
Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ystod 2003 a 2004, roedd Hall yn canlyn ei chyd-seren As You Like It Freddie Stevenson.[14] Roedd mewn perthynas gyda'r cyfarwyddwr Sam Mendes o 2010 i 2015. Ym mis Medi 2015, priododd Hall ei chyd-seren Machinal Morgan Spector.[15][16]
Mae gan Hall ddinasyddiaeth ddeuol Brydeinig ac Americanaidd.[17]
Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Ffilmiau[golygu | golygu cod y dudalen]
| Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 2006 | Starter for 10 | Rebecca Epstein | |
| 2006 | The Prestige | Sarah Borden | Enwebwyd – Gwobr Empire ar gyfer Actores Newydd Orau
Enwebwyd – Gwobr Gylch Beirniaid Ffilmiau Llundain ar gyfer yr Actor/Actores Brydeinig Newydd y Flwyddyn |
| 2008 | Vicky Cristina Barcelona | Vicky | Gwobr Gotham ar gyfer y Cast Ensemble Gorau
Enwebwyd – Gwobr Glôb Aur ar gyfer yr Actores Orau - Ffilm, Sioe Gerdd neu Gomedi |
| 2008 | Frost/Nixon | Caroline Cushing | Enwebwyd – Cymdeithas yr Actorion Sgrîn ar gyfer Perfformiad Rhagorol gan Gast mewn Ffilm |
| 2008 | Official Selection | Emily Dickinson | Ffilm fer |
| 2009 | Dorian Gray | Emily Wotton | |
| 2010 | Please Give | Rebecca | Gwobr Robert Altman
Gwobrau Cymdeithas Feirniaid Ffilmiau San Diego ar gyfer Darn o Waith |
| 2010 | The Town | Claire Keesey | Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol ar gyfer yr Actio Gorau gan Ensemble
Enwebwyd – Gwobr Gymdeithas Feirniaid Ffilmiau Ddarlledu ar gyfer yr Actio Gorau gan Ensemble |
| 2010 | A Bag of Hammers | Mel | |
| 2010 | Everything Must Go | Samantha | |
| 2011 | The Awakening | Florence Cathcart | Enwebwyd – Gwobr Ffilm Annibynnol Brydeinig ar gyfer yr Actores Orau |
| 2012 | Lay the Favorite | Beth Raymer | |
| 2013 | Iron Man 3 | Maya Hansen | |
| 2013 | Closed Circuit | Claudia Simmons-Howe | |
| 2013 | A Promise | Charlotte Hoffmeister | |
| 2014 | Transcendence | Evelyn Caster | |
| 2015 | Tumbledown | Hannah | |
| 2015 | The Gift | Robyn | |
| 2016 | Christine | Christine Chubbuck | |
| 2016 | The BFG | Mary | Ôl-gynhyrchu |
| 2017 | The Dinner | Barbara Lohman | Ffilmio |
Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]
| Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 1992 | The Camomile Lawn | Young Sophie | |
| 1993 | The World of Peter Rabbit and Friends | Lucie | |
| 1993 | Don't Leave Me This Way | Lizzie Neil | |
| 2006 | Wide Sargasso Sea | Antoinette Cosway | |
| 2007 | Rubberheart | Maggie | |
| 2007 | Joe's Palace | Tina | |
| 2008 | Einstein and Eddington | Winifred Eddington | |
| 2009 | Red Riding: In the Year of Our Lord 1974 | Paula Garland | Gwobr BAFTA ar gyfer yr Actores Gefnogol Orau |
| 2012 | Parade's End | Sylvia Tietjens | Enwebwyd – Gwobr Satellite ar gyfer yr Actores Orau – Mini-gyfres neu Ffilm deledu
Enwebwyd – Gwobr Deledu Dewis y Beirniaid ar gyfer yr Actores Orau mewn Ffilm/Mini-gyfres |
| 2015 | Codes of Conduct | Rebecca Rotmensen | Peilot |
| 2016 | Horace and Pete | Rachel |
Fideos cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
| Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 2012 | "A Case of You" | Ei hun | Fideo James Blake |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Births, Marriages & Deaths Index of England & Wales, 1916–2005.
- ↑ Lathan, P. (20 April 2003). "Another Hall Hits the Heights". The British Theatre Guide. http://www.britishtheatreguide.info/news/N200403.htm. Adalwyd 9 November 2006.
- ↑ "Awards Database – The BAFTA site". Bafta.org. http://www.bafta.org/awards-database.html?sq=Rebecca+Hall. Adalwyd 8 May 2011.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 Hattenstone, Simon (12 June 2010). "Who, me? Why everyone is talking about Rebecca Hall". The Guardian (London). http://www.guardian.co.uk/film/2010/jun/12/rebecca-hall-interview. Adalwyd 27 September 2010.
- ↑ Isenberg, Barbara (8 November 1992). "MUSIC No-Risk Opera? Not Even Close Maria Ewing, one of the most celebrated sopranos in opera, leaps again into the role of Tosca, keeping alive her streak of acclaimed performances while remaining true to herself". Los Angeles Times. http://articles.latimes.com/1992-11-08/entertainment/ca-1_1_maria-ewing. Adalwyd 8 May 2011.
- ↑ McLellan, Joseph (15 November 1990). "Article: Extra-Sensuous Perception;Soprano Maria Ewing, a Steamy `Salome'". The Washington Post. http://www.highbeam.com/doc/1P2-1158782.html. Adalwyd 6 February 2010.
- ↑ Marsh, Robert C. (18 December 1988). "Growth of Maria Ewing continues with `Salome' // Role of princess proves crowning achievement". Chicago Sun-Times. http://www.highbeam.com/doc/1P2-3919649.html. Adalwyd 6 February 2010.
- ↑ "Rebecca Hall Relationships:". TV Guide. http://www.tvguide.com/celebrities/rebecca-hall/bio/285461. Adalwyd 10 May 2014.
- ↑ "Former Cambridge student takes her first leading role". The Cambridge Student. 3 November 2011. p. 06. http://www.tcs.cam.ac.uk/download/TCS_Volume13_Michaelmas_Issue6.pdf.
- ↑ Farber, Jim (20 February 2005). "For Rebecca Hall, it's all in the family business". The San Diego Union-Tribune. http://www.signonsandiego.com/uniontrib/20050220/news_1a20rebecca.html. Adalwyd 8 May 2011.
- ↑ "The Prestige production notes" (pdf). Archifwyd o y gwreiddiol ar 30 September 2007. https://web.archive.org/web/20070930212132/http://media.movieweb.com/galleries/3728/notes.pdf. Adalwyd 9 November 2006.
- ↑ "Macbeth". Marlowe Society. 2002. http://www.societies.cam.ac.uk/marlowe/showarchive/macbeth/press.htm.
- ↑ "Rebecca Hall takes the lead". Daily Telegraph. 29 October 2011. Archifwyd o y gwreiddiol ar 15 October 2014. https://web.archive.org/web/20111029142805/http://www.telegraph.co.uk/culture/film/starsandstories/8852878/Rebecca-Hall-takes-the-lead.html.
- ↑ Cripps, Charlotte (15 July 2004). "Rebecca Hall: My art belongs to Daddy". The Independent (London). http://www.independent.co.uk/arts-entertainment/theatre-dance/features/rebecca-hall-my-art-belongs-to-daddy-553169.html. Adalwyd 4 June 2011.
- ↑ "Rebecca Hall on her film career so far: ‘I’ve played too many repressed neurotics’". The Independent. 19 July 2014. http://www.dailymail.co.uk/tvshowbiz/article-3251287/Rebecca-Hall-weds-Broadway-star-Morgan-Spector-year-splitting-Bond-director-Sam-Mendes.html. Adalwyd 11 April 2015.
- ↑ Griffiths, Charlotte (11 July 2015). "GIRL ABOUT TOWN: Sam Mendes and Rebecca Hall 'split as she falls for co-star in bed scene'". Daily Mail. http://www.dailymail.co.uk/tvshowbiz/article-3157606/GIRL-TOWN-Mendes-Hall-split-falls-star-bed-scene.html.
- ↑ Rebecca Hall in, The New York Times
|