Raül Romeva i Rueda

Oddi ar Wicipedia
Raül Romeva i Rueda
GanwydRaül Romeva i Rueda Edit this on Wikidata
12 Mawrth 1971 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
Man preswylSant Cugat del Vallès Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Catalwnia Catalwnia
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, academydd, awdur ysgrifau, analyst, casteller Edit this on Wikidata
SwyddAelod Senedd Ewrop, Aelod o Senedd Catalwnia, Minister for Foreign Affairs, Institutional Relations and Transparency of the Government of Catalonia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod Senedd Ewrop, Aelod o Senedd Sbaen, cadeirydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolInitiative for Catalonia Greens Edit this on Wikidata
PriodDiana Riba Giner Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.raulromeva.cat Edit this on Wikidata

Gwleidydd o dras Catalwnaidd yw Raül Romeva i Rueda (ganwyd 12 Mawrth 1971 ym Madrid) sy'n gyn-wleidydd y blaid werdd Iniciativa per Catalunya Verds yn Senedd Ewrop. Roedd ar brif bwyllgor Materion Tramor Ewrop yn ogystal â bod ar Bwyllgor Hawliau Merched a Chydraddoldeb Rhyw. Yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015 bydd ar frig rhestr y cynrychiolwyr sydd dros annibyniaeth.

Plentyndod ac addysg[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed ym Madrid a'i fagu yng Nghatalwnia. Graddiodd yn 1989 mewn economeg ym Mhrifysgol Annibynnol Catalwnia (Universitat Autònoma de Barcelona).[1] Yn 2002 derbyniodd Ddoethuriaeth (PhD) mewn Cydberthynas Gwledydd (international relations) yn y brifysgol honno.[2]

Y gwleidydd[golygu | golygu cod]

Rhwng Hydref 1995 ac Awst 1996 bu'n Brif Cynorthwyydd Cynrychiolydd UNESCO yn Bosnia-Hertsegofina, ble roedd yn gyfrifol am raglen addysg ac am hyrwyddo UNESCO a'i chynllun dros ddiwylliant heddwch mewn ysgolion. Bu hefyd yn arsylwi etholiadau'r wlad yn 1996 ac yn 1997.[3]

Bu'n ddirprwy Athro prifysgol yn UAB rhwng (1994-1995 ac yna yn 1996-2002) a chydlynydd yr ymgyrch i ddiarfogi ac atal ymosodiadau milwrol ar ran Oxfam (1998-1999). Mae'n awdur toreithiog i'r wasg ac mae'n cyfrannu'n helaeth i raglenni radio a theledu.

Ymaelododd gyda phlaid Iniciativa Catalunya Verds (neu'r 'ICV') yn Caldes de Montbui yn 1989. Safodd ar eu rhan yn etholiad Senedd Ewrop yn 1994 ac yn 1999 ac etholaeth Sbaen yn 2004, a bu'n llwyddiannus, gan ddal ei sedd hyd at 2014.[4]

Yn ystod y cyfnod hwn ystyrir ef fel yr ASE prysuraf, gan ofyn mwy o gwestiynau a chynnig mwy o gynigion na'r un aelod arall: 1,600 o weithiau.[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Picazo, Sergi. "Algú pensa que Londres o Berlín ens ajudaran?". El Punt Avui. El Punt Avui. Cyrchwyd August 29, 2013.
  2. Bella, Emili. "El candidat europeista". El Punt Avui. Cyrchwyd Mai 31, 2009.
  3. "Raül Romeva i Rueda". Enciclopèdia.cat. Grup Enciclpèdia Catalana.
  4. "Raül Romeva, un home fet a Europa i amb una trajectòria dedicada a la pau". Diari ARA.
  5. "Raül Romeva, former Eco-Socialist MEP, will top the unitary pro-independence electoral list". Catalan News Agency. 14 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2015.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]