Ray Alan

Oddi ar Wicipedia
Ray Alan
Ganwyd18 Medi 1930 Edit this on Wikidata
Greenwich Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mai 2010 Edit this on Wikidata
o methiant anadlu Edit this on Wikidata
Galwedigaethventriloquist Edit this on Wikidata

Roedd Ray Alan (18 Medi 1930 - 24 Mai 2010) yn dafleisydd, difyrrwr, awdur, a chyflwynydd teledu Seisnig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Raymond Alan Whyberd, yn Greenwich, Llundain yn pedwerydd mab Albert William Whyberd, clerc llongau, a Rachel, (née Earwaker) ei wraig. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Morden Terrace, Lewisham. Cyflwynwyd Alan i fyd adloniant yn ifanc, gan gymryd rhan mewn cystadleuaeth dalent yn bump oed yn ei sinema leol.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gadawodd yr ysgol yn bedwar ar ddeg i weithio cefn llwyfan yn Lewisham Hippodrome wrth ddatblygu ei act ei hun, cymysgedd o ddynwarediadau, triciau hud, a chanu'r iwcalili. Penderfynodd arbenigo fel tafleisydd gan ddechrau gyda dol 'bachgen digywilydd' traddodiadol o'r enw Steve, y macwy. Teithiodd Alan mewn cabaret ledled y byd a pherfformiodd unwaith gyda Laurel a Hardy ym 1954. Laurel oedd yr ysbrydoliaeth tu nol i greadigaeth enwocaf Alan, Lord Charles,[3] a ymddangosodd gyntaf mewn sioe elusennol yng Ngharchar Wormwood Scrubs, Llundain.

Gwnaeth Alan ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu gyda Lord Charles ar raglen y BBC The Good Old Days yn y 1960au a bu'r pâr yn ail-ymddangos yn rheolaidd ar y rhaglen.[4] Yn y 1960au ymddangosodd hefyd ar raglen blant Tich and Quackers gyda Tich, bachgen bach, a'i hwyaid anwes Quackers. Fe greodd hefyd y cymeriad pyped Ali Cat ar gyfer gyfres HTV Magic Circle (1977). Bu hefyd yn gyflwynydd am ddwy flynedd o'r rhaglen Ice Show ar gyfer y BBC. Ym 1985 roedd yn westai arbennig ar gyfer sioe pen-blwydd Bob Hope yn Theatr Lyric, Llundain. Ym 1986 cyflwynodd sioe ar Channel 4 am daflu llais, o'r enw A Gottle of Geer.

Bu'n ysgrifennu deunydd ar gyfer Tony Hancock, Dave Allen ac ar gyfer sioeau Morecambe and Wise, The Two Ronnies a Bootsie and Snudge, fel arfer o dan yr enw Ray Whyberd.

Parhaodd Alan i berfformio i mewn i'w saithdegau, gan wneud teithiau a hefyd cynnal digwyddiadau cynadledda a chorfforaethol. Yn 1998/1999 diddanodd westeion ar y QE2. Ysgrifennodd hefyd ar gyfer nifer o sioeau, gan gynnwys y sioe ITV And There’s More ym 1985 a oedd yn serennu Jimmy Cricket.

Ysgrifennodd Alan bedair nofel: Death and Deception yn 2007 ac A Game of Murder yn 2008 (y ddwy wedi eu cyhoeddi gan Robert Hale), A Fear of Vengeance (2010, a gyhoeddwyd gan F. A. Thorpe) a Retribution (2011, a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth gan Robert Hale Ltd).[5]

Roedd ei ymddangosiad llwyfan olaf ym mis Tachwedd 2008 pan berfformiodd mewn cyngerdd elusennol arbennig yn Bridlington.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ym 1956 y berfformwraig Greta Maud Motherwell, daeth y briodas i ben trwy ysgariad ym 1972. Bu wedyn yn cyd-fyw gyda Barbie Hayes. Rhwng 1981 a 1986 cyd-gyflwynodd Alan a Hays Three Little Words i HTV. Ym 1991 priododd Alan ei ail wraig Jane Mary Laycock (née Harper) yn Gibraltar.[6]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw o niwmonia a ffibrosis yr ysgyfaint yn Ysbyty East Surrey, Redhill yn 79 mlwydd oed.[7]

Teledu[golygu | golygu cod]

  • The Tich and Quackers Show (1966)
  • Ice Show (1969)
  • Magic Circle (1977)
  • Three Little Words (1980)
  • Mike Reid's Mates and Music (1984)
  • Bobby Davro's TV Weekly (1987)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Alan, Ray [real name Raymond Alan Whyberd] (1930–2010), ventriloquist, writer, and television presenter". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/102467. Cyrchwyd 2020-10-17.
  2. "Obituary: Ray Alan". www.scotsman.com. Cyrchwyd 2020-10-17.
  3. "Ventriloquist Ray Alan dies at 79". BBC News. 2010-05-24. Cyrchwyd 2020-10-17.
  4. "Ray Alan obituary". the Guardian. 2010-05-24. Cyrchwyd 2020-10-17.
  5. "Ray(mond) Alan | British ventriloquist and writer". Encyclopedia Britannica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-18. Cyrchwyd 2020-10-17.
  6. "Ray Alan: Ventriloquist famous for his partnerships with Lord Charles,". The Independent. 2010-05-26. Cyrchwyd 2020-10-17.
  7. "Ventriloquist Ray Alan dies". The Telegraph. Cyrchwyd 2020-10-17.