Randa Bessiso
Randa Bessiso | |
---|---|
Ganwyd | 1970 Coweit |
Dinasyddiaeth | Palesteina Libanus |
Galwedigaeth | academydd, person busnes |
Cyflogwr |
Cyfarwyddwr a sefydlydd Canolfan y Dwyrain Canol ym Mhrifysgol Manceinion yw Randa Bessiso. Mae hi'n ddinesydd o Libanus sydd o darddiad Palesteinaidd.
Dechreuodd Bessiso weithio ym maes addysg fusnes fel Is-lywydd Hyfforddiant ac Ymgynghoriaeth yn PROJACS Rhyngwladol. Wedi hynny, gweithiodd gyda menter eUniversities y DU. Yn 2006, sefydlodd Ganolfan Dwyrain Canol Prifysgol Manceinion yn Dubai, ac mae hi ar hyn o bryd yno'n Gyfarwyddwr.
Mae'r ganolfan yn rhan o raglen MBA ran-amser dwy flynedd Manchester Global, oedd yn 2019 wedi dysgu mwy na 2,500 o fyfyrwyr. Y ganolfan hon yw'r fwyaf a'r un sy'n tyfu gyflymaf o'r chwe chanolfan yn rhaglen MBA Manchester Global, ac sy'n cynrychioli mwy na hanner y myfyrwyr yn y rhaglen ledled y byd. Yn 2019, enwyd Prifysgol Manceinion yn Rhaglen MBA Orau gan Wobrau Addysg Uwch y Dwyrain Canol, Forbes. Mae Bessiso hefyd yn Gadeirydd Grŵp Addysg Uwch Cyngor Busnes yr Emiradau Arabaidd Unedig-DU.
Cydnabu Bessiso fel un o 100 o Fenywod Arabaidd Mwyaf Pwerus Forbes yn y Dwyrain Canol, a hynny bob blwyddyn rhwng 2014 a 2018. Yn 2019, cafodd ei henwi’n un o’r 30 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol yn y Byd Arabaidd gan Fusnesau Arabia, a derbyniodd wobr Cyflawniad Merched 2019 Entrepreneur y Dwyrain Canol mewn Addysg.