Ramón Piñeiro

Oddi ar Wicipedia
Cartŵn o Ramón Piñeiro gan Siro López Lorenzo

Athronydd, awdur a chenedlaetholwr o Galisia oedd Ramón Piñeiro (31 Mai 1915 - 27 Awst 1990). Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn yr ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi Rhyfel Cartref Sbaen. Fe'i carcharwyd rhwng 1946 a 1949 ac fe'i hystyrir yn un o ffigurau pwysicaf Galisia yn yr 20g. Sefydlodd y cylchgonau Galisieg Galaxia a Grail a bu'n flaenllaw yn yr ymgyrch i safoni'r Galisieg.[1]

Roedd yn aelod o'r blaid Galeguista a bu'n un o ddirprwyon annibynnol Senedd Galicia.

Plentyndod a llencyndod[golygu | golygu cod]

Ef oedd trydydd mab Fernandez Lopez a Salvador Pineiro Garcia. Yn 6 oed aeth i'r ysgol leol lle cafodd fraw o glywed popeth drwy gyfrwng y Sbaeneg am y tro cyntaf yn ei fywyd, a'i iaith frodorol, y Galiseg, yn cael ei dilorni a'i bychanu gan awdurdodau'r ysgol. Effeithiwodd hyn arno am weddill ei oes.[2]

Yn yr ysgol uwchradd ymunodd â'r Blaid Galeguista a chymerodd ran ym mhwyllgor y rhanbarth a'i waith dros Refferendwm Annibyniaeth Galisia, 1936. Wedi Rhyfel Cartref Sbaen (pan ymunodd â'r gwrthryfelwyr), astudiodd Athroniaeth yn Santiago de Compostela.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Bernárdez, Carlos L. y otros, Literatura gallega. Século XX, Edición A Nosa Terra, Vigo, 2001, págs. 210-211.
  2. Bywgraffiad Ramón Piñeiro: Da miña acordanza