Ramblers

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aelodau'r Ramblers ar lwybr fferm, Dyfnaint

Mae Ramblers, neu, weithiau Y Cerddwyr yn Gymraeg, (The Ramblers, neu'n furfiol The Rambler's Society) yn sefydliad dros hawliau cerddwyr. Dyma'r corff mwyaf o'i bath ym Mhrydain Fawr, a'i nod yw cynrychioli buddiannau cerddwyr (neu gerddwyr). Ceir cangen Gymreig a elwir yn Ramblers Cymru. Mae'n elusen sydd wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr ac yn yr Alban,[1] gyda thua 123,000 o aelodau.[2]

Mae Cymdeithas Edward Llwyd yn gorff uniaith Gymraeg ar gyfer cerddwyr a naturiaethwyr.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ochr ogleddol Kinder Scout, safle'r tresmas dros hawliau cerdded

Yn 1931, ffurfiwyd National Council of Ramblers' Federations gan fod cerddwyr yn teimlo bod angen corff i gynrychioli eu diddordebau.[3] Ar 24 Ebrill 1932, cynhaliodd British Workers' Sports Federation, grŵp a ysbrydolwyd gan Gomiwnyddion, a oedd yn teimlo'n rhwystredig ar ddiffyg ymroddiad y Ramblers newydd-ffurfiedig i weithredu dros hawliau pobl i gerdded dros dir agored, dresmasiad torfol o Kinder Scout, y pwynt uchaf yn y Peak District yn Lloegr. Yn ystod y tresmasiad torfol, bufan-ymladd rhwng y protestwyr a chiperiaid Dug Devonshire ac arestiwyd pum cerddwr. Nid oedd Cyngor Cenedlaethol Ffederasiynau'r Cerddwyr yn cefnogi tactegau'r tresbaswyr.[4]

Ystyrir y tresmasiad torfol hwn yn aml fel trobwynt canolog yn hanes y Cerddwyr. Yn 1934 penderfynodd y Cyngor newid ei enw, gan arwain at sefydlu The Ramblers' Associationyn swyddogol ar 1 Ionawr 1935.[5] Ar 21 a 22 Ebrill 2007, dathlodd y Cerddwyr 75 mlynedd ers tresmasu'n anghyfreithlon Kinder Scout a charchariad y rhai a gymerodd ran.[6]

Ar 28 Mawrth 1946, ymunodd Cymdeithas y Cerddwyr â Gwasanaethau Cymdeithas y Cerddwyr Cyfyngedig, y bwriadwyd iddi weithredu fel adain fasnachol Cymdeithas y Cerddwyr; yn benodol, i reoli gwerthiannau, i ddarparu gwasanaethau swyddfa, i sefydlu tai gwadd ac i drefnu teithiau cerdded ar gyfer aelodau gartref a thramor. Yn y pen draw daeth Gwasanaethau Cymdeithas y Cerddwyr yn endid ar wahân o Gymdeithas y Cerddwyr, gan ddod yn RWH Travel Ltd. yn y pen draw. O 1948 ymlaen Tom Stephenson oedd ei hysgrifennydd, a oedd yn ymgyrchydd blaenllaw ar gyfer mynediad cefn gwlad ac ar gyfer y llwybr troed pellter hir Prydeinig, y Pennine Way.[7]

Gwasanaethodd y gwleidydd Llafur Hugh Dalton, gŵr awyr agored brwd, dymor fel llywydd Cymdeithas y Cerddwyr.[8] Roedd Dalton yn amgylcheddwr cyn i'r tymor ddod i ffasiwn. Fel Canghellor yn 1946, dechreuodd y Gronfa Tir Cenedlaethol i ddarparu adnoddau ar gyfer parciau cenedlaethol, ac ym 1951 fel Gweinidog Cynllunio Gwlad a Thref, cymeradwyodd y Pennine Way, a oedd yn cynnwys creu saith deg milltir ychwanegol o hawliau tramwy.

Amcanion y Cerddwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan y Ramblers bump prif amcan elusennol fel a nodir yn Comisiwn Elusennol y Ramblers. I grynhoi:

Hybu cerdded
Cadwedigaeth llwybray
Cynyddu mynediad i gerddwyr
Amddiffyn y cefn gwlad
Addysgu'r cyhoedd

Ramblers Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir cangen Gymreig o'r mudiad, 'Rambler's Cymru'.[9] Maent yn trefnu digwyddiadau cerdded ac yn cynhyrchu ymchwil a dogfennaeth sy'n ymwneud â'r maes gan ymateb i bolisïau Llywodraeth Cymru a dylanwadu ar strategaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Maent yn cyflogi chwech aelod o staff.[10]

Ar ddydd Gŵyl Dewi 2017 fe lansiodd y mudiad Weledigaeth 10 Mlynedd i Gymru.[11][12]

Er mai 'Ramblers Cymru' yw'r term a ddefnyddir, mae'r ebost wedi ei gyfeirio fel cerddwyr@ramblers.org.uk

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]