Ralph Maud
| Ralph Maud | |
|---|---|
| Ganwyd | 24 Rhagfyr 1928 Swydd Efrog |
| Bu farw | 8 Rhagfyr 2014 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, ysgolhaig |
| Cyflogwr | |
| Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim |
Ysgolhaig llenyddol o Ganada oedd Dr Ralph Maud (24 Rhagfyr 1928 – 8 Rhagfyr 2014)[1] er iddo gael ei fagu yn Swydd Efrog, Lloegr. Treuliodd gyfnodau yng Nghymru yn ymchwilio i hanes y wlad a'i llenyddiaeth.[2] Bu'n athro Saesneg ym Mhrifysgol Simon Fraser ac fe'i hystyriwyd yn arbenigwr ar waith y beirdd Dylan Thomas a Charles Olson. Bu'r bardd a'r dramodydd R. Bryn Williams yn gweithio'n agos gydag ef am gyfnod, tra bu'n ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan ei ysbrydoli i gyfansoddi'r ddrama Dafydd Dywysog, fel gwaddol ffrwyth eu hymchwil.[2] Cyhoeddwyd peth o'i waith gan Wasg Prifysgol Cymru.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Enillodd ei raddau B.A. a Ph.D. ym Mhrifysgol Harvard.[1]
Tra'n dysgu yn Buffalo, cyhoeddodd argraffiad o The Notebooks of Dylan Thomas yn seiliedig ar lawysgrifau yn llyfrgell y brifysgol. Ymhlith ei lyfrau sy'n ymwneud â Dylan Thomas mae Entrances to Dylan Thomas’ Poetry (Gwasg Prifysgol Pittsburgh, 1963), Dylan Thomas in Print (Gwasg Prifysgol Pittsburgh, 1970), ac argraffiadau newydd o Collected Poems (Dent, 1995) ac Under Milk Wood (Dent, 1988) – y ddau ohonynt wedi'u golygu ar y cyd â Walford Davies.[1]
Dysgodd yn Ysgol Dylan Thomas yng Nghymru, a daeth i adnabod y bardd Charles Olson yn ystod cyfnod o ddwy flynedd ym Mhrifysgol Talaith Efrog Newydd yn Buffalo, lle'r oedd Olson hefyd yn aelod o'r staff.[1]
Ym 1989 cyhoeddodd J. M. Dent and Company ei argraffiad o gerddi llyfr nodiadau Dylan Thomas : The Notebook Poems 1930–34. Ym 1996 cyhoeddodd Southern Illinois University Press waith Maud ar Charles Olson : Charles Olson's Reading: A Biography.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Gwasanaethodd Maud fel golygydd ar gyfer sawl blodeugerdd a gyhoeddwyd gan Talonbooks yn Vancouver, Canada:[1]
- 1963: Entrances to Dylan Thomas’ Poetry (Gwasg Prifysgol Pittsburgh)
- 1964: Dylan Thomas’s Choice (New Directions) — gydag Aneirin Talfan Davies
- 1978: The Salish People: The Local Contribution of Charles Hill-Tout
- 1982: A Guide to B.C. Indian Myth and Legend ISBN 0889221898
- 1987: The Chilliwacks and Their Neighbors
- 1993: The Porcupine Hunter and Other Stories (Talonbooks)
- 1994: Wales in His Arms: Dylan Thomas’ Choice of Welsh Poetry (Gwasg Prifysgol Cymru)
- 2000: Transmission Difficulties: Franz Boas and Tsimshian Mythology (Talonbooks, 2004)
- 2003: Where Have the Old Words Got Me? Explications of Dylan Thomas’s Collected Poems (McGill-Queen’s University Press)
- 2004: Poet to Publisher: Charles Olson’s Correspondence with Donald Allen
- 2008: Charles Olson at the Harbor (Talonbooks)
- 2010: Muthologos: Lectures and Interviews, Revised Second Edition (gan Charles Olson) golygydd Ralph Maud ISBN 978-0-88922-639-5
- 2014: After Completion: The Later Letters of Charles Olson and Frances Boldereff cyd olygydd gyda Sharon Thesen ISBN 978-0-88922-706-4