Rakhi Singh
Rakhi Singh | |
---|---|
Alma mater | |
Galwedigaeth | fiolinydd, cyfansoddwr ![]() |
Mae Rakhi Singh yn chwaraewr ffidil a chyfansoddwr o Gymru.
Sefydlodd y Manchester Collective yn 2016. Mae'n ensemble cerddoriaeth siambr arloesol, ac maent yn chwarae llawer o gerddoriaeth sydd wedi ei gomisiynu. Yn 2021, chwaraeon nhw yng Nhŵyl BBC Proms am y tro cyntaf yn Neuadd Frenhinol Albert.[1]
Yn 2025, cyhoeddodd yr Urdd ynghyd â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru chwech gwobr newydd sbon i gystadleuwyr sy'n serennu ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Gwobr Rakhi Sing oedd y gwobr offerynnol.[2][3]
Yn 2023, cyhoeddwyd bod Singh yn un o bump cymrawd er anrhydedd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[4]
Bywyd personol ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd yng Nghymru i fam Saesneg a tad o India. Mae ganddi chwaer, Simmy, a brawd, Davinder, sydd hefyd yn chwarae'r ffidil.[5]
Mynychodd Coleg Brenhinol y Gogledd (RNCM), Manceinion a graddiodd o'r Academi Gerdd Frenhinol, Llundain.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Manchester Collective/Mahan Esfahani review – high energy Proms debut". The Guardian (yn Saesneg). 18 Awst 2021. Cyrchwyd 25 Mai 2025.
- ↑ "Chwech o sêr y dyfodol i dderbyn gwobrau". Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 29 Ionawr 2025. Cyrchwyd 25 Mai 2025.
- ↑ "Urdd Gobaith Cymru / Gwobrau'r Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru". www.urdd.cymru. Cyrchwyd 25 Mai 2025.
- ↑ "Violinist Rakhi Singh named honorary fellow of Royal Welsh College". The Strad (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Mai 2025.
- ↑ "Y Singhs | Simmy Singh". simmysinghviolinist (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Mai 2025.
- ↑ "To techno and Bach", Life & Arts: FT Weekend (19-20 Ebrill), t13