Rajiv Gandhi

Oddi ar Wicipedia
Rajiv Gandhi
Ganwyd20 Awst 1944 Edit this on Wikidata
Mumbai Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mai 1991 Edit this on Wikidata
o ffrwydrad Edit this on Wikidata
Sriperumbudur Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIndia, y Raj Prydeinig, Dominion of India Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, amateur radio operator Edit this on Wikidata
SwyddMinister of External Affairs, Prif Weinidog India, member of the Lok Sabha, Arweinydd yr Wrthblaid, President of the Indian National Congress, Member of the 9th Lok Sabha, Member of the 7th Lok Sabha, Member of the 8th Lok Sabha, Minister of External Affairs Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCyngres Genedlaethol India Edit this on Wikidata
TadFeroze Gandhi Edit this on Wikidata
MamIndira Gandhi Edit this on Wikidata
PriodSonia Gandhi Edit this on Wikidata
PlantRahul Gandhi, Priyanka Vadra Edit this on Wikidata
PerthnasauNehru–Gandhi family Edit this on Wikidata
LlinachNehru–Gandhi family Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of Augusto César Sandino, Gwobr Indira Gandhi, Bharat Ratna Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Rajiv Ratna Gandhi (20 Awst 194421 Mai 1991) yn wleidydd o Indiad a fu'n brif weinidog ei wlad o 1984 hyd ei farwolaeth yn 1991.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Roedd Rajiv Gandhi yn fab hynaf Indira Gandhi (1917 - 1984), hithau'n brif weinidog India, ac yn ŵyr i Jawaharlal Nehru, prif weinidog cyntaf y wlad yn 1947. Cafodd ei addysg mewn ysgol breifat yn Dehra Dun ym mryniau'r Himalaya ac ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle methodd gael gradd mewn peirianaeth.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Yn 1968 priododd yr Eidalwraig Sonia Maino. Doedd ganddo ddim llawer o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a chymerodd swydd fel peilot sifil i Indian Airlines. Ond yn sgîl marwolaeth ei frawd Sanjiv mewn damwain awyren bu rhaid iddo lenwi ei le fel darpar arweinydd Congress.

Enillodd sedd yn senedd India trwy gipio sedd seneddol ei frawd yn Amethi yn 1981 a chafodd ei apwyntio'n ysgrifennydd cyffredinol Congress yn 1983.

Yn sgîl llofruddiaeth ei fam yn 1984 fe'i penodwyd yn brif weinidog India. Llwyddodd i sicrhau mwyafrif ysgubol i Congress yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn ar ôl hynny ac am gyfnod cafwyd cyfnod llewyrchus. Ond roedd wedi addo glanhau ei blaid o lwgrwobrwyaeth a chafodd anawsterau mawr y tu mewn ac y tu allan i'w blaid wrth geisio gwneud hynny. Y canlyniad fu i Congress golli'r etholiad yn Nhachwedd 1989.

Cafodd Rajiv ei lofruddio gan derfysgwraig yn perthyn i grŵp Teigrod Rhyddhau Tamil Eelam ar 21 Mai, 1991, tra'n canfasio ar ran Congress yn ne India. Mae ei wraig Sonia yn arwain y blaid heddiw.