Radu Lupu
Radu Lupu | |
---|---|
Ganwyd | 30 Tachwedd 1945 Galați |
Bu farw | 16 Ebrill 2022 Lausanne |
Label recordio | Decca Records |
Dinasyddiaeth | Rwmania |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pianydd, cerddor |
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Priod | Elizabeth Wilson, Delia Bugarin |
Gwobr/au | CBE, Urdd seren Romania |
Pianydd o Rwmania oedd Radu Lupu CBE (30 Tachwedd 1945 - 17 Ebrill 2022) sy'n cael ei gydnabod fel un o bianyddion mwyaf y byd. [1] [2] [3]
Cafodd Lupu ei eni yn Galați, Rwmania. Dechreuodd ef astudio piano yn chwech oed. Roedd ei athrawon yn cynnwys Florica Musicescu, Dinu Lipatti, a Heinrich Neuhaus (athro Sviatoslav Richter). Rhwng 1966 a 1969, enillodd dair o gystadlaethau piano mwyaf mawreddog y byd: Cystadleuaeth Piano Ryngwladol Van Cliburn (1966), Cystadleuaeth Piano Ryngwladol George Enescu (1967), a Chystadleuaeth Pianoforte Ryngwladol Leeds (1969).
Priododd â'r sielydd Elizabeth Wilson (ganwyd 1947), merch y diplomydd Syr Duncan Wilson, ym 1971.[4] Bu'n byw yn Lausanne, y Swistir, gyda'i ail wraig Delia, feiolinydd.[5] Bu farw yn 76 oed.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gramophone (30 Tachwedd 2015). "Happy 70th birthday, Radu Lupu!". www.gramophone.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2018.
- ↑ Duncan, Scott. "A Cache of Rare Gems". Chicago Tribune. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2018.
- ↑ "Maestro di color che sanno". Alex Ross: The Rest Is Noise. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2018.
- ↑ Rusbridger, Alan (17 Medi 2013). Play It Again: An Amateur Against the Impossible (yn Saesneg). Farrar, Straus and Giroux. t. 318. ISBN 978-0-374-71062-0.
- ↑ Buluc, Magdalena Popa (1 Awst 2012). "Radu Lupu atinge vibraţiile infinitezimale ale poeziei". Cotidianul RO. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2018. (Rwmaneg)
- ↑ Anastasia Tsioulcas (18 Ebrill 2022). "Radu Lupu, celebrated Romanian pianist, dies at age 76". Georgia Public Broadcasting (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Ebrill 2022.