Radoje Domanović

Oddi ar Wicipedia
Radoje Domanović
Ganwyd4 Chwefror 1873 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Ovsište Edit this on Wikidata
Bu farw4 Awst 1908 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Beograd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Serbia Serbia
Alma mater
  • Prifysgol Belgrade
  • First Kragujevac Gymnasium Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, athro, awdur ffuglen wyddonol, newyddiadurwr, golygydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Leader Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://domanovic.org/ Edit this on Wikidata

Roedd Radoje Domanović (16 Chwefror 187317 Awst 1908) yn ysgrifennwr, gohebydd ac athro Serbiaidd, yn enwog yn bennaf am ei straeon byr ddychanol.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Radoje Domanović ym mhentref Ovsište yng nghanolbarth Serbia, yn fab i athro lleol a mentrwr Miloš Domanović, a Persida Cukić, disgynydd o Pavle Cukić, un o gadlywyddion milwrol Y Gwrthryfel Gyntaf a’r Ail yn Serbia. Gwariodd ei blentyndod ym mhentref Gornje Jarušice ger Kragujevac, lle’r aeth i ysgol gynradd. Fe raddiodd ysgol ganol yn Kragujevac, a’r gyfadran athroniaeth yn Prifysgol Belgrade, lle astudiodd yr iaith Serbiaidd a Hanes.[1]

Yn 1895, cafodd Domanović ei apwyntiad gyntaf, swydd fel athro, yn Pirot, yn Ne Serbia, ardal a oedd newydd gael ei ryddhau o’r Ymerodraeth yr Otomaniaid. Yn Pirot, cyfarfodd Jaša Prodanović (1867–1948), athro ac actifydd bu’n helpu siapio ei safbwyntiau gwleidyddol. Yna hefyd, fe gyfarfodd ei ddarpar wraig, Natalija Raketić (1875–1939), athrawes dlawd o Sremski Karlovci, a fyddai yn ei gefnogi drwy gydol ei fywyd byr a chythryblus, cafodd y ddau tri o blant gyda’i gilydd.

Ers pan ymunodd Plaid Radical y Bobl gwrthwynebol, fe wrthdarodd efo’r cyfundrefn llinach Obrenović, a chafodd ei drosglwyddo i Vranje erbyn diwedd 1895, ac yna yn 1896 ei drosglwyddo eto i Leskovac. Dechreuodd ei yrfa ysgrifennu yn ystod ei ddyddiau fel athro, cyhoeddwyd ei stori fer gyntaf yn 1895. Ar ôl ei ymddangosiad cyhoeddus gyntaf yn erbyn y llywodraeth yn 1898, fe gafodd ef a’i wraig eu diswyddo o wasanaeth cyhoeddus, ac fe symudodd Domanović hefo’i deulu i Belgrade.[2]

Yn Belgrade fe gychwynodd weithio gyda ysgrifenwyr eraill ar “Zvezda” (Seren), cyhoeddiad wythnosol, a’r papur newydd gwrthwynebol “Odjek” (Atsain). Yn ystod yr adeg yma fe ddechreuodd ysgrifennu a chyhoeddi ei straeon dychanol gyntaf, fel “Cythraul” ac “Abolition of Passions”. Tyfodd ei enwogrwydd hefo cyhoeddiad ei straeon enwocaf, “Arweinydd” (1901) a “Stradija” (1902), lle bu yn ymosod ar ac yn datgelu rhagrith a diffygion y drefn.[3]

Wedi’r trosfeddiant a orffenodd teyrnasiad Aleksandar Obrenović yn 1903, ar anterth poblogrwydd, derbynniodd Domanović swydd fel ysgrifennydd yn y Gweinidogiaeth Addysg, ac fe adawodd y llywodraeth newydd iddo ddychwelyd i’r Almaen am flwyddyn o arbenigedd, a dreuliodd yn Munich. Yn ôl yn Serbia, roedd Radoje yn siomedig hefo’r diffyg o unrhyw newid real cymdeithasol. Cychwynodd ei gyfnodolyn gwleidyddol wythnosol ei hun, “Stradija”, lle wnaeth barhau i feirniadu gwendidau’r democratiaeth newydd, ond nid oedd yr un cryfder na ysbrydoliaeth yn ei waith ag o’r blaen.[4]

Bu farw Radoje Domanović hanner awr wedi hanner nos ar Awst 17ed, 1908, yn 35 oed, ar ôl brwydr hir hefo niwmonia cronig a twbercwlosis. Claddwyd ef ym Mynwent Newydd Belgrade. Collwyd gweddill ei waith anghyhoeddedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[5]

Gwaith Llenyddol[golygu | golygu cod]

Mae rhai o weithoedd enwocaf Radoje Domanović yn cynnwys:

  • Arweinydd, 1901
  • Llosgnodi, 1899
  • Môr marw, 1902
  • Gwrthryfel modern, 1902
  • Stradija, 1902
  • Ymresymiad Ychen Serbiaidd cyffredin, 1902

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Vučenov, Dimitrije: Radoje Domanović: Život, doba i geneza dela (Rad, Belgrade 1959), p. 7-44
  2. Vučenov, Dimitrije: Radoje Domanović: Život, doba i geneza dela (Rad, Belgrade 1959), tt.45-69
  3. Vučenov, Dimitrije: Radoje Domanović: Život, doba i geneza dela (Rad, Belgrade 1959), p. 70-122
  4. Vučenov, Dimitrije: Radoje Domanović: Život, doba i geneza dela (Rad, Belgrade 1959), p. 123-153
  5. Vučenov, Dimitrije: Radoje Domanović: Život, doba i geneza dela (Rad, Belgrade 1959), p. 154-175

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Gweithiau Cyflawn Radoje Domanović (Cymraeg) (Serbeg)