Radiwm
(Ailgyfeiriad oddi wrth Radium)
Jump to navigation
Jump to search

Plisg electronau radiwm.
Elfen gemegol ymbelydrol a geir mewn mwynau wraniwm yw radiwm (o'r Ladin radius, "pelydryn"). Mae'n un o'r metelau daear alcalïaidd ac mae ganddo'r symbol Ra a'r rhif atomig 88. Mae'n wyn fel arfer ond mae'n troi'n ddu ym mhresenoldeb aer. Mae gan ei isotop mwyaf cyffredin, 226Ra, hanner oes o tua 1,602 o flynyddoedd. Darganfuwyd radiwm ym 1898 gan Marie Curie a'i gŵr Pierre Curie.

Radiwm yn y tabl cyfnodol.