Rachel Pollack

Oddi ar Wicipedia
Rachel Pollack
Ganwyd17 Awst 1945 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ebrill 2023 Edit this on Wikidata
o Hodgkin lymphoma Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylHudson Valley, Rhinebeck Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethawdur, nofelydd, awdur comics, ysgrifennwr, bardd, awdur ffuglen wyddonol, academydd, cyfieithydd, artist, darlithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Coleg Goddard
  • Prifysgol Talaith Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDoom Patrol Edit this on Wikidata
Arddullrealaeth hudol Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Arthur C. Clarke, Gwobr World Fantasy am y Nofel Orau Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.rachelpollack.com/ Edit this on Wikidata

Awdur ffuglen wyddonol Americanaidd oedd Rachel Pollack (17 Awst 19457 Ebrill 2023) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei nofelau, ac fel awdur comics a bardd. Mae'n aelod blaenllaw o symudiad ysbrydolrwydd y menywod.[1][2][3][4][5][6]

Fe'i ganed yn Brooklyn ac edi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Efrog Newydd a Phrifysgol Claremont. [7][8]

Cardiau tarot[golygu | golygu cod]

Mae Pollack wedi ysgrifennu llyfr sy'n esbonio pecyn Tarot Salvador Dali, gyda darlun lliw llawn ar bob cerdyn, a sylwebaeth ar y dudalen sy'n wynebu.[9] Mae ei llyfr 78 Degrees of Wisdom on Tarot reading yn cael ei weld fel clasur erbyn heddiw.[10] Creodd ei phecyn tarot ei hun, hefyd, o'r enw Shining Woman Tarot (Shining Tribe Tarot yn ddiweddarach).[11] Bu hefyd yn cynorthwyo i greu'r Vertigo Tarot Deck gyda'r darlunydd Dave McKean a'r awdur Neil Gaiman, ac ysgrifennodd lyfr i gyd-fynd gyda'r pecyn.[12]

Comics[golygu | golygu cod]

Mae Pollack yn adnabyddus am ei chyfres o rifynau 64-87 (1993-1995) o'r comig-lyfr Doom Patrol, gan Vertigo DC Comics, sef parhad o gomic o'r 1960au a ddaeth yn ffefryn ac yn gwlt yn ddiweddar dan lygad Grant Morrison. Cymerodd drosodd y gyfres yn 1993 ar ôl cyfarfod â'r golygydd Tom Peyer mewn parti.

Yn ystod y cyfnod yma, ymdriniodd Pollack â phynciau anarferol fel y mislif, hunaniaeth rywiol a thrawsrywioldeb. Daeth golygyddiaeth Pollack i ben ddwy flynedd yn ddiweddarach, pan ganslwyd y llyfr.

Yn ogystal â Doom Patrol, ysgrifennodd Pollack ryfynau o'r flodeugerdd Vertigo Visions yn cynnwys Brother Power the Geek (1993) a Tomahawk (1998), yr 11fed rhifyn cyntaf o'r bedwaredd gyfrol o New Gods (1995), a'r gyfres pum rhifyn cyfyngedig Breakers Time (1996).[13]

Y nofelydd[golygu | golygu cod]

Mae tri o nofelau Pollack wedi ennill neu gael eu henwebu ar gyfer gwobrau mawr yn y maes ffuglen wyddonol a ffantasi. Enillodd Unquenchable Fire Wobr Arthur C. Clarke 1989; enillodd Godmother Night Wobr Fantasy y Byd 1997, fe'i rhoed ar restr fer Gwobr James Tiptree, Jr, ac fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Lambda; ac yn olaf, enwebwyd Asiantaeth Dros Dro ar gyfer Gwobr Nebula 1995 a'r Wobr Mythopoeic, ac fe'i rhoddwyd ar y rhestr fer y Tiptree.[14]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Arthur C. Clarke (1989), Gwobr World Fantasy am y Nofel Orau (1997) .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
  2. Dyddiad geni: "Rachel Pollack". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Rachel Pollack". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Rachel Pollack".
  3. Dyddiad marw: https://www.theguardian.com/books/2023/apr/08/rachel-pollack-trans-activist-and-comic-book-writer-dies-aged-77. The Guardian. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2023.
  4. Man geni: http://www.hachette.com.au/books/9780575118546/. http://www.internationaltarothouse.com/sun/hst/x4yv17w.htm.
  5. Achos marwolaeth: "Rachel Pollack, Trailblazing Doom Patrol Writer, Dies at 77".
  6. Crefydd: "New Worlds Article". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Gorffennaf 2007. Cyrchwyd 6 Medi 2008.
  7. Alma mater: http://www.internationaltarothouse.com/sun/hst/x4yv17w.htm. http://www.internationaltarothouse.com/sun/hst/x4yv17w.htm.
  8. Galwedigaeth: http://www.internationaltarothouse.com/sun/hst/x4yv17w.htm. http://blogs.westword.com/showandtell/2013/07/erica_walker_adams_on_fairy_ta.php. http://www.comicvine.com/forums/off-topic-5/female-comic-book-writers-and-artists-1624468/. http://www.tandfonline.com/doi/full/10.1080/00332920701681510. http://www.internationaltarothouse.com/sun/hst/x4yv17w.htm. http://www.internationaltarothouse.com/sun/hst/x4yv17w.htm. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 20 Rhagfyr 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 20 Rhagfyr 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 20 Rhagfyr 2022. http://www.rachelpollack.com/bio/bio.html. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2023.
  9. Pollack, Rachel (1985). Salvador Dali's Tarot. Salem, New Hampshire: Salem House. ISBN 0-88162-076-9.
  10. "Llewellyn.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-23. Cyrchwyd 2008-04-08.
  11. "Shining Tribe Tarot". Cyrchwyd 2008-04-15.
  12. "Vertigo Tarot". Cyrchwyd 2008-04-15.
  13. Pollack, Rachel (2019). ""Radical, Sacred, Hopefully Magical" Outspoken Interview with Rachel Pollack". The Beatrix Gates Plus... PM Press. t. 99-100. ISBN 978-1-62963-578-1.
  14. "sfadb : Rachel Pollack Awards". www.sfadb.com.