Rachel Heal

Oddi ar Wicipedia
Rachel Heal
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnRachel Heal
Dyddiad geni (1973-04-01) 1 Ebrill 1973 (51 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd, Trac a Cyclo-cross
RôlReidiwr
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol
2004
2005
2006
2007
Farm Frites
Team SATS
Team Victory Brewing
Team Webcor
Golygwyd ddiwethaf ar
12 Gorffennaf, 2007

Seiclwraig broffesiynol Seisnig ydy Rachel Heal (ganwyd 1 Ebrill 1973 yn Bebington, Yr Wirral[1]). Enillodd safle ar dîm WCPP (World Class Performance Plan) Prydain yn 2001 a rhoddodd y gorau i'w gwaith a daeth yn seiclwraig llawn-amser. Trodd yn broffesiynol gan reidio i dîm 'Farm Frites-Hartol' o Wlad Belg ar ôl ennill gradd mewn Peirianneg Cemegol o Brifysgol Birmingham. Mae wedi cymryd rhan ym Mhencampwriaethau'r Byd Gemau'r Gymanwlad a'r Gemau Olympaidd. Mae wedi ennill rasys ffordd rhyngwladol a medalau ym Mhencampwriaethau Prydain ar y Ffordd, Treial Amser, Trac a Cyclo-cross. Mae wedi cyflawni cymhwyster Hyfforddwr Seiclo Lefel 2 'British Cycling' ac mae hi'n astudio i ennill cymhwyster 'Hyfforddwr Personol' ar y funud.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

2001
2il Cam 6, Quebec Stage Race, Canada
4ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
2002
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
2il Ras 2 ddiwrnod WCRA (Womens Cycle Racing Association), Swydd Gaerlŷr
3ydd Ras Ffordd, Gemau'r Gymanwlad
3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Prydain
1af Cam 5, Gracia Orlova Stage Race, Gweriniaeth Tsiec
2003
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
1af Treial Amser Tîm, Holland ladies tour, Yr Iseldiroedd
2il Cam 3, Ronde van Drenthe Stage Race, Yr Iseldiroedd
2il Cam 4, Emakumeen Bira, Sbaen
2il Cam 3, Giro della Toscana, Yr Eidal
3ydd Ronde van Drenthe, Yr Iseldiroedd
4ydd Cam 2, Ras sawl cam Thuringen, Yr Almaen
2004
1af Cam 7, Tour de l'Aude Feminin, Ffrainc
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Cyclo-cross Prydain
6ed Cam 3, Giro della Toscana, Yr Eidal
7fed Cwpan y Byd Geelong, Awstralia
2005
1af Aztec Track meet, Womens Omnium
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Ras Scratch 15km
3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Ras Bwyntiau
13ydd Tour de Toona, Yr Unol Daleithiau
5ed Cam 5, Tour de Toona
5ed Cam 6, Tour de Toona
2006
1af Tri Peaks Stage race, Arkansas, Yr Unol Daleithiau
2il Cam 1, Tri Peaks
2il Cam 2, Tri Peaks
3ydd Cam 3, Tri Peaks
1af Tour of Elk Grove Crit, Yr Unol Daleithiau
2il Cystadleuaeth y Mynyddoedd, Tour de Toona, Yr Unol Daleithiau
4ydd Tour of the Gila, Mexico Newydd, Yr Unol Daleithiau
2il Cam 3, Tour of the Gila
2il Cam 5, Tour of the Gila
5ed Treial Amser, Gemau'r Gymanwlad
5ed Ras Ffordd, Gemau'r Gymanwlad
2007
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
2il Tour of The Gila, Yr Unol Daleithiau
1af Cam 1, Tyrone (ITT), Tour of The Gila
2il Cam 3, Inner Loop Road Race, Tour of The Gila
4ydd Cam 2, Silver City - Mogollon Road Race, Tour of The Gila
7fed Women's Cycling Criteriums, Ffrainc (Ras UCI 1.2)
4ydd Cam 2, Trophée des Cyclistines - Chateaudun, Women's Cycling Criteriums
35ed Tour de Toona, Yr Unol Daleithiau
1af Cam 1, Treial Amser Tîm, Tour de Toona
3ydd Cam 1, Galleria Mall - Logan Valley Mall, Tour de Toona

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]