Rachel Corrie
| Rachel Corrie | |
|---|---|
| Ganwyd | 10 Ebrill 1979 Olympia |
| Bu farw | 16 Mawrth 2003 o anafiadau o wasgu Rafah |
| Man preswyl | Olympia |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | dyddiadurwr, cofiannydd, ymgyrchydd heddwch, ysgrifennwr, amddiffynnwr hawliau dynol |
| Gwobr/au | Gwobr Ariannol Lennon Ono, Urdd Bethlehem |
Yymgyrchydd a dyddiadurwr di-drais o America oedd Rachel Aliene Corrie (10 Ebrill 1979 – 16 Mawrth 2003).[1][2] Roedd hi'n aelod o'r Mudiad Undod Rhyngwladol (ISM) o blaid Palesteina,[3] ac roedd yn weithgar yn y tiriogaethau Palesteinaidd dan feddiannaeth Israel. Yn 2003, roedd hi yn Rafah, dinas yn Llain Gaza lle roedd Israel yn achosi hil-laddiad ar y Palesteiniaid, a lle'r oedd tai Palesteinaidd yn cael eu dymchwel gan luoedd Israel, ar anterth yr Ail Intifada. Tra'n protestio yn erbyn y dymchwel a'r chwalu fe'i lladdwyd gan fwldoser arfog Israelaidd.[4][2][5]
Ganwyd Corrie yn Olympia, Washington, ym 1979. Ar ôl graddio o Ysgol Uwchradd Capital High, aeth ymlaen i fynychu Coleg Talaith Evergreen. Cymerodd flwyddyn i ffwrdd o'i hastudiaethau i weithio fel gwirfoddolwr yng Nghorfflu Cadwraeth Talaith Washington, lle treuliodd dair blynedd yn ymweld â chleifion meddwl, yn wythnosol. Tra oedd yng Ngholeg Talaith Evergreen, daeth yn "ymgyrchydd heddwch ymroddedig", gan drefnu digwyddiadau heddwch trwy grŵp lleol o'r enw "Olympians for Peace and Unity". Yn ddiweddarach ymunodd â sefydliad Mudiad Undod Rhyngwladol (ISM) er mwyn protestio yn erbyn polisïau byddin Israel yn y Lan Orllewinol ac yn Llain Gaza. Aeth Corrie i Gaza fel rhan o gynnig astudiaeth annibynnol blwyddyn olaf ei choleg i gysylltu Olympia a Rafah â'i gilydd fel dinasoedd efeilliol.[6] Tra oedd yn Rafah ar 16 Mawrth, 2003, ymunodd ag ymgyrchwyr ISM eraill a oedd yn ymdrechu i atal yr Israeliaid (drwy ddulliau di-drais) rhag dymchwel eiddo'r Palesteinaidd.[2][7][8] Tra'n gwneud hyn, cafodd ei lladd gan jac codi baw anferthol. Achosodd marwolaeth Corrie gryn ddadlau a sylw yn y cyfryngau rhyngwladol.
Dywedodd meddygon a oedd yn bresennol a chyd-ymgyrchwyr ISM fod Corrie yn gwisgo crys llachar, fflworesant ac i'r tarw dur ei lladd yn fwriadol. Ar y llaw arall, mynnodd byddin Israel mai damwain oedd oherwydd nad oedd gyrrwr y bwldoser wedi'i gweld.[9][10][11][12] Denodd y dyfarniad hwn feirniadaeth hallt gan sefydliadau fel Amnesty International, Human Rights Watch (HRW), B'Tselem, a Yesh Din.[13][14][15] Nododd HRW fod y dyfarniad yn cynrychioli patrwm arferol lluoedd Israel o beidio â derbyn eu bod ar fai.[13] Yn 2012, dywedodd Llysgennad yr Unol Daleithiau i Israel, Dan Shapiro, fod ymchwiliad Israel yn anfoddhaol, yn brin o drylwyredd, hygrededd a thryloywder, ac felly nad yw llywodraeth yr Unol Daleithiau yn fodlon cau'r ymchwiliad.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Corrie ar 10 Ebrill 1979, a'i magu yn Olympia, Washington, sef prifddinas y dalaith. Hi oedd yr ieuengaf o dri o blant Craig Corrie, swyddog yswiriant, a Cindy Corrie. Disgrifiodd Cindy ei theulu fel "Americanwyr cyffredin—rhyddfrydol yn wleidyddol, ceidwadol yn economaidd a dosbarth canol".[16][17][18] Ar ôl graddio o Ysgol Uwchradd Capital, aeth Corrie yn ei blaen i fynychu Coleg Talaith Evergreen, hefyd yn Olympia, gan astudio'r celfyddydau. Cymerodd flwyddyn i ffwrdd o'i hastudiaethau i weithio fel gwirfoddolwr yng Nghorfflu Cadwraeth Sifil. Yn ôl y Mudiad Undod Rhyngwladol (ISM; International Solidarity Movement), treuliodd dair blynedd yn ymweld yn wythnosol â chleifion gydag iselder meddyliol.

Tra roedd hi yng Ngholeg Talaith Evergreen daeth yn "ymgyrchydd heddwch ymroddedig",[2] gan drefnu digwyddiadau heddwch trwy grŵp lleol o blaid ISM o'r enw "Olympians for Peace and Solidarity". Yna, ymunodd â sefydliad ISM er mwyn protestio yn erbyn polisïau byddin Israel yn y Lan Orllewinol a Llain Gaza.[2] Yn ei blwyddyn olaf yn yr ysgol, "cynigiodd raglen astudio annibynnol lle byddai'n teithio i Gaza, yn ymuno â thîm ISM, ac yn cychwyn prosiect gefeillio rhwng Olympia a Rafah ".[19] Cyn gadael, trefnodd raglen cysylltu-dros-y-we hefyd rhwng plant yn Olympia a Rafah.
Gweithredu yn Gaza
[golygu | golygu cod]Tra roedd yn Rafah, safodd Corrie o flaen bwldosers arfog, mewn ymgais i rwystro dymchwel tai.[20] Cafodd y gweithrediadau milwrol hyn gan Israel eu beirniadu fel "cosb gyfunol" (collective punishment) gan lawer o grwpiau hawliau dynol.[21] Dywedodd awdurdodau Israel fod angen dymchwel yr holl adeiladau oherwydd bod "dynion Palesteinaidd gyda gynnau yn defnyddio'r adeiladau i lochesu er mwyn saethu at eu milwyr, neu i guddio twneli smyglo arfau o dan y ffin rhwng Gaza a'r Aifft."[2] Roedd Corrie yn aelod o grŵp o tua wyth o ymgyrchwyr o'r tu allan i diriogaethau Palesteinaidd a geisiodd atal gweithgareddau byddin Israel trwy weithredu fel tariannau dynol.
Llosgi baner U.D. America wrth brotestio yn erbyn Rhyfel Irac
[golygu | golygu cod]Tra roedd hi yn Gaza ar 15 Chwefror 2003, cymerodd Corrie ran mewn gwrthdystiad fel rhan o brotest yn erbyn goresgyniad Irac. Tynnwyd ei llun yn llosgi baner yr Unol Daleithiau.[19] [22] Ar ôl ei marwolaeth, cyhoeddodd yr ISM ddatganiad yn dyfynnu rhieni Corrie ar y llun a ddosbarthwyd yn eang o'r digwyddiad:
Yng ngeiriau rhieni Rachel: "Rhaid rhoi'r weithred, er y gallem anghytuno â hi, mewn cyd-destun. Roedd Rachel yn cymryd rhan mewn gwrthdystiad yn Gaza yn gwrthwynebu'r Rhyfel yn Irac. Roedd hi'n gweithio gyda phlant a luniodd ddau lun, un o faner America, ac un o faner Israel, i'w llosgi. Dywedodd Rachel na allai ddod â hi ei hun i losgi'r llun o faner Israel gyda Seren Dafydd arni, ond o dan amgylchiadau o'r fath, mewn protest dros ymgyrch tuag at ryfel a pholisi tramor ei llywodraeth a oedd yn gyfrifol am lawer o'r dinistr y bu'n dyst iddo yn Gaza, teimlai ei bod hi'n iawn llosgi'r llun o'i baner ei hun, baner yr U.D. Rydym wedi gweld ffotograffau o gofebau a gynhaliwyd yn Gaza ar ôl marwolaeth Rachel lle mae plant ac oedolion Palesteinaidd yn anrhydeddu ein merch trwy gario arch ffug wedi'i gorchuddio â baner America. Dywedwyd wrthym nad yw ein baner erioed wedi cael ei thrin mor barchus yn Gaza yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Credwn fod Rachel wedi dod ag wyneb gwahanol o'r Unol Daleithiau i bobl Palesteinaidd, sef wyneb o dosturi. Gobeithiwn y bydd y ddelwedd hon o Rachel gyda baner America yn cael ei chofio".[23]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Rachel Corrie "Letter from Palestine", yn Voices of a People's History of the United States, gol. Howard Zinn ac Anthony Arnove (Efrog Newydd: Seven Stories Press, 2004), tt.609–610
- Let Me Stand Alone: the Journals of Rachel Corrie, gol. teulu Corrie (Efrog Newydd: W.W. Norton & Company, 2008)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "American peace activist killed by army bulldozer in Rafah". Haaretz. 17 Mawrth 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd 8 Mai 2008.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 "Profile: Rachel Corrie". BBC News. 28 Awst 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 13 Medi 2012. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>annilys; mae'r enw "BBC_profile" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ Sherwood, Harriet (28 Awst 2012). "Rachel Corrie's death was an accident, Israeli judge rules". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2013. Cyrchwyd 8 Medi 2012.
- ↑ "Rachel Corrie: a memory that refuses to die". The Guardian. 28 Awst 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2013. Cyrchwyd 7 Medi 2012.
- ↑ "Court dismisses damages claim in Rachel Corrie case". The Times of Israel. 28 Awst 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Awst 2012. Cyrchwyd 16 Medi 2012.
- ↑ Gordon, Neve (September 5, 2012). "No justice for Rachel Corrie". Al Jazeera. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 13, 2012. Cyrchwyd September 13, 2012.
- ↑ Abu Hussein, Hussein (September 2, 2012). "Rachel Corrie: Blaming the victim". Haaretz. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 1, 2012. Cyrchwyd July 11, 2014.
- ↑ "Rachel Corrie verdict highlights impunity for Israeli military". Amnesty USA. 28 Awst 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 10, 2013. Cyrchwyd July 11, 2014.
- ↑ Urquhart, Conal (14 Ebrill 2003). "Israeli report clears troops over US death". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Awst 2013. Cyrchwyd 12 Ebrill 2010.
- ↑ Empty citation (help)
- ↑ "Rachel Corrie: A worldwide symbol of the Palestinian struggle". arabnews.com. 16 Mawrth 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2016. Cyrchwyd 8 Medi 2012.
- ↑ Tarnopolsky, Noga (1 Medi 2012). "Rachel Corrie's death: 'it's a no brainer that this was gross negligence'". Alaska Dispatch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Medi 2012. Cyrchwyd 8 Medi 2012.
- ↑ 13.0 13.1 "Rachel Corrie verdict highlights impunity for Israeli military". Amnesty International. August 29, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Medi 2012. Cyrchwyd 6 Medi 2012.
- ↑ Lynfield, Ben (August 2012). "Israeli court dismisses Corrie family's lawsuit, ending effort to put army on trial (+video)". Christian Science Monitor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Ionawr 2016. Cyrchwyd 26 Hydref 2015.
- ↑ Hass, Amira (August 23, 2012). "U.S.: Israeli probe into Rachel Corrie's death wasn't 'credible'". Haaretz. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 4, 2012. Cyrchwyd September 5, 2012.
- ↑ Banks, Gabrielle (Rhagfyr 2, 2005). "Parents speaking out to keep alive memory of child killed in Gaza". Pittsburgh Post-Gazette. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 4, 2006. Cyrchwyd May 12, 2012.
- ↑ Tizon, Tomas Alex; Marshall, Lynn (March 18, 2003). "Activist Had Soft Spot for Underdogs". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 7, 2011. Cyrchwyd Rhagfyr 12, 2008.
- ↑ Twair, Pat; Twair, Samir (2003). "Hundreds Salute International Solidarity Movement, Rachel Corrie's Parents". Washington Report on Middle East Affairs (July/August). tt. 62–64. ISSN 8755-4917. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 21, 2006. Cyrchwyd Rhagfyr 12, 2008.
- ↑ 19.0 19.1 Hammer, Joshua (September–October 2003). "The Death of Rachel Corrie". Mother Jones. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 1, 2017.
- ↑ Myre, Greg (March 17, 2003). "Israeli Army Bulldozer Kills American Protesting in Gaza". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Rhagfyr 29, 2017. Cyrchwyd September 8, 2012.
- ↑ Sherwood, Harriet (August 28, 2012). "Rachel Corrie lawsuit result 'dangerous precedent' say human rights groups". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 18, 2019. Cyrchwyd Rhagfyr 12, 2016.
- ↑ "'Rachel Corrie' play opens in London after NYC cancellation". CBC News. March 31, 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 20, 2008. Cyrchwyd September 8, 2012. See photo of burning of mock flag attached to article.
- ↑ "ISM statement on the killing of Rachel Corrie International Solidarity Movement (Press release)". ISM. 21 Mawrth 2003. Cyrchwyd 2 Mawrth 2004.