R. M. Lockley
Gwedd
| R. M. Lockley | |
|---|---|
| Ganwyd | 8 Tachwedd 1903 Caerdydd |
| Bu farw | 12 Ebrill 2000 Te Puke |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | adaregydd, ysgrifennwr |
| Plant | Martin Lockley |
| Gwobr/au | Medal Undeb yr Undeb Adaryddiaeth Prydeinig |
Roedd Ronald Mathias Lockley (8 Tachwedd 1903 – 12 Ebrill 2000) yn adarydd, naturiaethwr ac awdur o Gymru a dreuliodd ran olaf ei oes yn Seland Newydd. Fe'i maged yng Nghaerdydd.
Yn 1927 cymerodd Lockley drosodd y brydles ar Ynys Sgogwm, oddi ar arfordir de Penfro, a sefydlodd yr arsyllfa adar cyntaf yng yngwledydd Prydain yno yn 1933.
Roedd Lockley yn awdur toreithiog a ysgrifennodd dros hanner cant o lyfrau ar adar a bywyd gwyllt, poblogaidd a gwyddonol, gan gynnwys The Private Life of the Rabbit (1965), a ysbrydolodd Richard Adams i sgwennu'r llyfr adnabyddus Watership Down.