R. Keao NeSmith
R. Keao NeSmith | |
---|---|
Ganwyd | Waimea |
Galwedigaeth | gwyddonydd |
Mae R. Keao NeSmith yn ieithydd, addysgwr, cyfieithydd, ac ymgyrchydd iaith Hawaieg o Hawaii. Mae wedi dysgu mewn gwahanol brifysgolion, megis Prifysgol Hawai'i yn Hilo, l'Université de la Polynésie française yn 'Outumaoro, Tahiti, Prifysgol Waikato yn Hamilton, Aotearoa, a Phrifysgol Hawai'i yn Mānoa yn Honolulu, Hawai'i[1]. Mae wedi dysgu cyrsiau i fyfyrwyr ar yr Hawaieg, Astudiaethau Hawäiaidd, pynciau ar adfywio iaith mewn perygl, ac iaith Tahiti.[2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Magwyd Keao yn Kekaha ar ynys Kaua'i, gan siarad Saesneg yn bennaf. Yn yr ysgol uwchradd, dewisodd astudio Japaneg, ac nid tan iddo fynychu Prifysgol Hawai'i yn Hilo y dechreuodd astudio ei iaith frodorol yn ffurfiol yn dilyn blynyddoedd o'i siarad gyda'i deulu ac yn ei dref enedigol. Yn ddiweddarach derbyniodd Gymrodoriaeth Mellon yr Unol Daleithiau - Hawai'i i astudio ym Mhrifysgol Waikato lle cwblhaodd ei PhD mewn ieithyddiaeth gymhwysol yn Ysgol Datblygiad Māori a'r Môr Tawel a graddiodd yn 2012.[3]
Adfer iaith
[golygu | golygu cod]Mae NeSmith yn chwarae rhan ganolog yn y mudiad i adfer yr iaith Hawaieg i ddefnydd pob dydd a delio gyda realiti iaith lleiafrifedig. Er fod ei nain a taid ar ochr ei fam yn siaradwyr brodorol ni basiwyd yr iaith ymlaen i'w merch (mam NeSmith). Dysgodd NeSmith yr iaith gan ei nain pan oedd yn ddyn ifanc. Yn ogystal â Saesneg a Hawaieg, mae'n siarad Maorieg a Marceseg (Marquesian - chwaer iaith i'r Hawaieg), Ffrangeg, a Japaneg.[4] Mae wedi bod yn athro sy'n dysgu Hawaieg i bobl.
Tensiwn dros natur yr iaith Hawaieg
[golygu | golygu cod]Mewn llawer o'i waith mae NeSmith yn ystyried y tensiwn dros y fath o Hawaieg a ddysgir ac a siaredir. Mae'n dadlau bod pobl sydd wedi dysgu Hawaieg fel ail iaith yn creu termau a chystrawennau nad sy'n naturiol i'r iaith frodorol naturiol. Mae'n mynd cyn-belled â dweud bod bellach tafodiaith newydd o Hawaieg ("Hawaieg prifysgol" fel byddai ei nain yn ei alw, o bosib)[5] sy'n swnio'n ddiarth i'r Hawaieg naturiol brodorol. Galwa ef y math newydd o Hawaieg yma yn "Neo-Hawaiian". Mae hyn yn ei dŷb ef, yn amrywiaeth ar wahân o Hawäieg. Mae NeSmith yn llywio trafodaeth mewn astudiaethau iaith Hawäi, yn ogystal â materion ehangach mewn adfywio iaith.[6][7][8][9] Mae'n dadlau bod yr Hawaieg a ddysgir mewn ysgolion cyfrwng Hawaieg ac fel iaith newydd i siaradwyr ail-iaith, yn fath wahanol o Hawaieg i'r hyn a siaradwyd ac a siaredir, yn naturiol gan siaradwyr brodorol.[4]
Gellid efallai ystyried y tensiwn o fewn y math newydd o Hawaieg safonnol a ddysgir, i'r drafodaeth a fu dros natur Cymraeg Byw yn yr 1970au wrth drafod diweddaru'r ddarpariaeth dysgu Cymraeg i siaradwyr ail-iaith a hefyd natur a gwead y Gymraeg hynny a ddisgwyd. Cafwyd trafodaethau ar y pryd bod 'Cymraeg Byw' yn dysgu iaith artiffisial neu "Cymraeg llyfr".[10] Ond mae natur mwy brau yr iaith Hawaieg a'r modd y bu bron iddi ddod i ben fel iaith gymunedol, wneud y gwahaniaeth rhwng yr iaith "frodorol" a'r iaith "newydd" yn ddyfnach na'r hyn a wynebodd y Gymraeg.
Cyfieithu
[golygu | golygu cod]Mae wedi cyfieithu nifer o lyfrau plant i'r Hawäieg - erbyn 2023 roedd wedi cyhoeddi 15 o nofelau[11] gan gynnwys Yr Hobyd,[12] The Little Prince, Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud, a chyfres Harri Potter, The Chronicles of Narnia gan C.S. Lewis.[13]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allannol
[golygu | golygu cod]- Dr Keao Nesmith Tudalen Adran Ieithyddyiaeth ar wefan Prifysgol Hawai'i yn Manoa
- Talking Hawaiian Language with Dr. Keao NeSmith, PhD sgwrs ar sianel Youtube Ka Alala (2024)
- "Tutu's Hawaiian and the Emergence of a Neo-Hawaiian Language papur ar adfer iaith a'r tensiwn rhwng iaith siaradwyr brodorol ac iaith siaradwyr ail-iaith gan Richard Keao'opuaokalani NeSmith (2002)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Keao Nesmith". University of Hawai'i at Manoa (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Awst 2024.
- ↑ "Keao NeSmith". Aranui (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-06. Cyrchwyd 2019-03-04.
- ↑ "Keao NeSmith: Keao completed his PhD in applied linguistics at the School of Māori and Pacific Development and graduated in 2012". Prifysgol Waikato. Cyrchwyd 20 Awst 2024.
- ↑ 4.0 4.1 "Talking Hawaiian Language with Dr. Keao NeSmith, PhD". Sianel Youtube Ka Alala. 28 Mai 2024.
- ↑ NeSmith, Richard Keao'opuaokalani (2002), "Tutu's Hawaiian and the Emergence of a Neo-Hawaiian Langauge", University of Hawai'i at Manoa, https://scholarspace.manoa.hawaii.edu/server/api/core/bitstreams/a2ffc57e-231e-4910-b9c5-547050d15379/content
- ↑ NeSmith, Keao. "Tūtū's Hawaiian and the Emergence of a Neo Hawaiian Language" (PDF).
- ↑ Brown, Pamela Varma (2014-09-07). "Keao NeSmith: Saving Grandmother's Hawaiian". The Garden Island (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-03-04.
- ↑ NeSmith, Keao. "The teaching and learning of Hawaiian in mainstream educational contexts in Hawai'i: Time for change?". Cyrchwyd 2020-08-04.
- ↑ NeSmith, Keao. "Take my Word—Mahalo no i to'u Matua Tane". Cyrchwyd 2020-08-04.
- ↑ "Has Welsh changed much in the past 30 years?". Gwefan Reddit. 2023.
- ↑ "Creating a Legacy of Literature for the Lāhui". Ka Wai Ola. 21 Mehefin 2023.
- ↑ "The Road Goes Ever On". Hana Hou!. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-06. Cyrchwyd 2019-03-04.
- ↑ "Meet the Muggle Translating the "Harry Potter" Books into the Hawaiian Language". www.honolulumagazine.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-03-04.