R. Ifor Parry

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
R. Ifor Parry
Ganwyd 1908 Edit this on Wikidata
Caergybi Edit this on Wikidata
Bu farw 18 Rhagfyr 1975 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth gweinidog yr Efengyl, athro Edit this on Wikidata

Roedd Robert Ifor Parry (190818 Rhagfyr 1975, gan amlaf R. Ifor Parry neu Ifor Parry) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, athro yn Aberdâr ac enillydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Parry yn Longford Terrace, Nghaergybi, Ynys Môn, yn fab i Benjamin Parry, a gyflogwyd fel peiriannydd ar longau yn hwylio o Gaergybi i Iwerddon.[1] Addysgwyd ef yn Ysgol Sir Caergybi, cofrestrodd yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, lle enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Hanes ym 1929 ac MA ym 1931 am draethawd ymchwil ar agwedd Annibynwyr Cymru at symudiadau dosbarth gweithiol rhwng 1815-1870.[1] O ystyried hanes Aberdâr, efallai fod ei ddiddordebau ymchwil wedi bod yn ffactor wrth iddo dderbyn galwad gan gapel Siloa, Aberdâr, lle cafodd ei ordeinio ym mis Mehefin 1933. Dim ond y trydydd gweinidog yn hanes yr eglwys ydoedd, yn dilyn David Price (1843–78) a D. Silyn Evans (1880-1930). Ym 1940, priododd â Mona Morgan, yr oedd ei thad, Richard, yn ddiacon yn Siloa.[1] Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn athroniaeth Karl Barth.

Siloa, Aberdâr[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillodd Parry enw da fel pregethwr yn Aberdâr, er bod ei farn fodern ar ddiwinyddiaeth a dysgeidiaeth y Beibl, yn gwrthdaro â safbwyntiau mwy traddodiadol cenhedlaeth hŷn.[1] Gwahoddwyd ef i bregethu ledled Cymru ac mewn cyfarfodydd blynyddol o'i enwad ei hun a sefydliadau eraill.[1] Cyhoeddodd Parry hefyd nifer o lyfrau ac erthyglau, yn Gymraeg, yn bennaf ar wahanol agweddau ar hanes anghydffurfiaeth.[1] Roedd hefyd yn hanesydd lleol nodedig, a ysgrifennodd golofn ar gyfer y papur lleol, yr Aberdare Leader.[1]

Eisteddfod Genedlaethol a Chyhoeddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n fuddugol ar gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont, 1948 (a ddyfarnwyd yn 1951)[2] ar ei draethawd, ‘'Diwinyddiaeth Karl Barth’'.[2] Cyhoeddwyd y traethawd fel llyfr ym 1949.[3]

Cyhoeddodd y llyfr Cymraeg safonol, Ymneilltuaeth, ym 1962 i ddathlu Trichanmlwyddiant 1662. Ysgrifenodd hefyd i gyhoeddiadau megis y Y Dysgedydd, Y Cofiadur a'r Traethodydd. Gwahoddwyd ef i annerch Undeb Bedyddwyr Cymru ym 1962 ar "Seiliau Diwinyddol Anghydffurfiaeth".

Yn ddiweddarach mewn bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

O bosib oherwydd dirywiad yn yr aelodaeth, daeth gofalaeth hir Parry yn Siloa i ben ym 1964, pan ddaeth yn Bennaeth Astudiaethau Crefyddol yn Ysgol Ramadeg Bechgyn Aberdâr. Bu farw Ifor Parry ar 18 Rhagfyr 1975, deufis wedi marwolaeth ei wraig, Mona. Gadawodd swm sylweddol o arian i Ysgol Ramadeg Bechgyn Aberdâr i waddoli Cronfa Ymddiriedolaeth Mona ac Ifor Parry, yr oedd yr incwm i'w ddefnyddio, yn rhannol, i ddyfarnu gwobr flynyddol am hanes lleol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 "Robert Ifor Parry". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 25 Awst 2019.
  2. 2.0 2.1 https://eisteddfod.cymru/amdanom-ni/enillwyr-yr-eisteddfod/enillwyr-y-fedal-ryddiaith
  3. https://www.librarything.com/work/20002896