R. Brinley Jones
| R. Brinley Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | 27 Chwefror 1929 Pen-y-graig |
| Bu farw | 3 Awst 2025 Ysbyty Llanymddyfri |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | academydd, cadeirydd bwrdd gweithredol, athro, darlithydd |
Academydd o Gymru oedd Dr Robert Brinley Jones CBE MA DPhil FSA (27 Chwefror 1929 – 3 Awst 2025).[1][2]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Magwyd ef yn Stryd Mikado, Penygraig, Rhondda. Roedd ei rieni, John Elias Jones a Mary Ann (née Williams) yn hanu o Flaenau Ffestiniog.[3] Yn 9 oed bu farw ei frawd Trevor, oedd naw mlynedd yn hŷn, o'r diciâu tra'n gweithio yn Llundain. Yn 14 mlwydd oed ac wedi gwneud argraff ar ei athrawon, cafodd fynd i'r BBC gan ymddangos ar raglen radio Children's Hour, lle'r oedd yn chwarae rhan gyda Richard Burton.
Wedi graddio o Brifysgol Caerdydd yn 1950 gwnaeth ddiploma mewn addysgu yn 1951. Cafodd gynnig swydd gan gynhyrchydd o'r BBC, Jack James, fel darllenwyr newyddion. Ar gyngor ei fam, parhaodd gyda'i waith academaidd ac aeth i wneud ymchwil yng Ngoleg yr Iesu, Rhydychen, gan gwblhau doethuriaeth yn 1960.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cychwynodd ei yrfa addysgu fel swyddog addysg yn yr RAF yn 1955. Roedd yn athro cynorthwyol yn Ysgol Ramadeg Penaerth rhwng 1958 ac 1960.
Wedi hynny cafodd ei swydd ddelfrydol fel darlithydd Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Abertawe lle daeth o dan adain yr hanesydd adnabyddus Glanmor Williams.[4]
Gwnaeth ymddangosiadau ar deledu a radio yn y 1960au a bu'n gyflwynydd rhaglen Gymraeg ar y celfyddydau. Roedd yn un o ddyfeiswyr y cwrs teledu cynnar ar TWW i ddysgwyr y Gymraeg, Croeso Christine.
Roedd yn gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru rhwng 1969 ac 1976 yna'n warden Coleg Llanymddyfri rhwng 1977 ac 1988.
Bu'n aelod o'r Cyngor Prydeinig a cadeirydd eu Pwyllgor Cymreig rhwng 1987 ac 1996. Roedd yn aelod o Gyngor Safonau Darlledu rhwng 1988 ac 1991.
Roedd yn Gadeirydd Comisiwn Cadeirlannau ac Eglwysi Cymru rhwng 1994 ac 2004. Bu'n gadeirydd Pwyllgor Rheoli Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.[5] Bu'n Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1996 ac 2007.
Detholiad cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]Mae ei waith yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn hanes addysg a dylanwad y Dadeni a'r Diwygiad Protestannaidd ar ddiwylliant Cymru. Roedd yn gyd-olygydd y gyfres Writers of Wales ers ei gychwyn yn 1970.
- The Old British Tongue (1970)
- Astudiaethau ar yr Hengerdd (1978)
- Certain Scholars of Wales (1986)
- William Salesbury (1994)
- Floreat Landubriense (1998)
- The Particularity of Wales (2001)
- World-Wide Wales (2005)
- Rhamant Rhydychen (2016)
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd ei wraig Stephanie Avril Hall yng Ngorffennaf 1969 a cawsant un mab, Rhys. Roedd yn byw yn Fferm Y Porthmyn, Porthyrhyd ger Llanwrda.
Yn 2000, derbyniodd CBE am ei waith dros addysg a diwylliant Cymreig
Bu farw yn 96 mlwydd oed yn Ysbyty Llanymddyfri ar ddydd Sul 3 Awst 2025.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Robert Brinley Jones". prabook.com. Cyrchwyd 2025-08-17.
- ↑ "Hysbysiad marwolaeth Dr. R. Brinley Jones CBE. MA. DPhil. FSA". funeral-notices.co.uk. 2025-08-13. Cyrchwyd 2025-08-16.
- ↑ "Bye bye, Brinley : gwallter" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-16.
- ↑ Harries, Jonathan (2018-05-12). "Profile - Robert Brinley Jones". Shorthand Socials (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-16.
- ↑ WalesOnline (2007-02-15). "Rhondda doctor takes up new post". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-16.