Neidio i'r cynnwys

Qurratulain Hyder

Oddi ar Wicipedia
Qurratulain Hyder
FfugenwAinee Apa Edit this on Wikidata
Ganwyd20 Ionawr 1927 Edit this on Wikidata
Aligarh Edit this on Wikidata
Bu farw21 Awst 2007 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIndia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Indraprastha College for Women Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAag Ka Dariya Edit this on Wikidata
Gwobr/auPadma Bhushan, Gwobr Jnanpith, Gwobr Padma Shri mewn Llenyddiaeth ac Addysg, Gwobr Sahitya Akademi Edit this on Wikidata
llofnod

Llenor, golygydd, ysgolhaig, a chyfieithydd yn yr iaith Wrdw o India oedd Qurratulain Hyder (20 Ionawr 192721 Awst 2007). Priodolir iddi ddyrchafu'r nofel yn ffurf gain yn llenyddiaeth Wrdw, a oedd yn draddodiadol yn canolbwyntio ar farddoniaeth. Ei champwaith mae'n debyg ydy'r nofel hanesyddol epig Aag ka darya ("Afon Dân"; 1959).

Ganed hi yn Aligarh (a leolir heddiw yn Uttar Pradesh), yn y Taleithiau Unedig yng ngogledd India Brydeinig. Astudiodd yng Ngholeg Isabella Thoburn yn Lucknow ac enillodd ei gradd meistr mewn llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Lucknow. Symudodd i Bacistan yn sgil rhaniad India ym 1947, ac yno gweithiodd ar ffilmiau dogfen. Yn y 1950au, symudodd i Loegr a gweithiodd i'r BBC. Dychwelodd i India ym 1961.[1]

Cyhoeddodd 12 nofel a chasgliad o straeon byrion, a chyfieithodd nifer o weithiau Saesneg i'r Wrdw, a gweithiau Wrdw, gan gynnwys ffuglen ei hun, i'r Saesneg. Gweithiodd hefyd fel newyddiadurwraig ar y radio ac i gylchgronau, ac addysgodd mewn sawl prifysgol yn India ac fel darlithydd gwadd yn Unol Daleithiau America.

Derbyniodd Hyder nifer o wobrau llenyddol yn ystod ei hoes, gan gynnwys Gwobr Jnanpith ym 1989, Gwobr y Sahitya Akademi ym 1967 a chymrodoriaeth y Sahitya Akademi ym 1994, yn ogystal â dau o anrhydeddau sifil uchaf Gweriniaeth India, y Padma Shri (1984) a'r Padma Bhushan (2005). Bu farw Qurratulain Hyder yn Noida, Uttar Pradesh, yn 80 oed.[1]

Gweithiau

[golygu | golygu cod]
  • Mere bhi sanamkhane (1948).
  • Aag ka darya (1959).
  • Patjhar ki awaaz (1965).
  • Akhir-i shab ke hamsafar (1994).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Qurratulain Hyder. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Awst 2025.