Quis custodiet ipsos custodes?

Oddi ar Wicipedia

Ymadrodd Lladin a geir mewn cerdd gan y bardd Rhufeinig Juvenal yw Quis custodiet ipsos custodes? (sef "Pwy sy'n gwylio'r gwylwyr hwythau?", neu "Pwy fydd yn gardio'r gardiau?").[1]

Yng ngwaith y bardd dychanol Juvenal mae'n gwestiwn rhethregol ac yn cyfeirio at y gwragedd a roddwyd i warchod merched ifainc bonheddig. Ond mae'r dywediad wastad wedi cael ei gymryd ar lefel mwy cyffredinol, yn enwedig mewn cysylltiad â llywodraeth ac awdurdod. Cyfyd y broblem sylfaenol yn Y Wladwriaeth gan Plato. Mae'r gymdeithas berffaith a ddisgrifir gan Socrates yn dibynnu am ei ffyniant ar waith y llafurwyr, y caethion a'r masnachwyr. Dyletswydd y dosbarth dethol o warchodwyr yw gwarchod ac amddiffyn y Ddinas. Gofynnir i Socrates, "Pwy fydd yn gwarchod y gwarchodwyr?" neu, "Pwy fydd yn amddiffyn ni rhag yr amddiffynwyr?". Ateb Plato yw y byddant yn eu gwarchod eu hunain rhag eu hunain. I'r perwyl yna rhaid cael y dosbarth hwnnw i gredu "celwydd nobl", sef mai braint ydyw iddynt gael eu gosod uwchben pawb arall i'w llywodraethu a'u hamddiffyn.

Byth ers hynny mae'n dywediad sy'n cael ei ddyfynnu wrth drafod problem grym mewn gwleidyddiaeth. Mae gwledydd democrataidd yn ceisio gwahanu grym yn y wladwriaeth fel nad yw'n perthyn yn gyfangwbl i un grwp - y llywodraeth ei hun, y corff deddfwriaethol a'r sustem gyfreithiol - yn unig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. James Morwood, A Dictionary of Latin Words and Phrases (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1998), t. 155.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]