Qaboos, Swltan Oman

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Qaboos, Swltan Oman
Omani Qaboos bin Said Al Said (cropped).jpg
Ganwyd 18 Tachwedd 1940 Edit this on Wikidata
Salalah Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Oman Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth brenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swydd Sultan of Oman Edit this on Wikidata
Tad Said bin saif Edit this on Wikidata
Mam Mazoon al-Mashani Edit this on Wikidata
Priod Sayyid Edit this on Wikidata
Llinach Al Said Edit this on Wikidata
Gwobr/au Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Coler Urdd Isabella y Catholig, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Gwobr Urdd y Goron a'r Frenhiniaeth, Maleisia, Grand Cordon of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Order of the Nile, Cadwen Frenhinol Victoria, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Supreme Order of the Chrysanthemum with collar, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol Edit this on Wikidata

Swltan Oman ers 1970 yw Qaboos bin Said al Said (Arabeg: قابوس بن سعيد آلسعيد‎, IPA:  [ˈqaːbuːs bɪn ˈsaʕiːd ʔaːl ˈsaʕiːd]; ganwyd 18 Tachwedd 1940). Mae'n aelod o frenhinllin Al Bu Sa'id, ac yn gwasanaethu fel pennaeth y wladwriaeth a'r llywodraeth yn Oman.

Ganwyd yn Salalah, Dhofar, yn Swltanaeth Muscat ac Oman, yn unig fab i'r Swltan Said bin Taimur a'i wraig Mazoon al-Mashani. Aeth i Loegr am ei addysg, mewn ysgol breifat yn Bury St Edmunds, Suffolk, ac yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Gwasanaethodd am un flwyddyn yn swyddog y Cameroniaid (Reifflwyr Albanaidd) yn y Fyddin Brydeinig. Dychwelodd i'w famwlad yn 1965, a chafodd ei gadw'n gaeth gan ei dad am chwe mlynedd. Cipiodd Qaboos rym ar 23 Gorffennaf 1970 mewn coup d'état, gyda chefnogaeth y Deyrnas Unedig. Cafodd y coup ei gynllunio gan MI6, y Weinyddiaeth Amddiffyn, a'r Swyddfa Dramor, a'i ganiatáu gan y Prif Weinidog Harold Wilson.[1]

Cychwynnodd Qaboos ar ymgyrch i foderneiddio'i wlad, gan adeiladu ffyrdd, ysbytai, ysgolion, porthladdoedd, a rhwydweithiau cyfathrebu.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Ian Cobain, The History Thieves (Llundain: Portobello Books, 2016). t. 87.
  2. (Saesneg) Qaboos bin Said. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Mehefin 2019.