Neidio i'r cynnwys

Pys slwtsh

Oddi ar Wicipedia
Pys slwtsh
Mathpys wedi'u berwi Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmerbys Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae pys slwtsh[1] yn cyd-bryd poblogaidd gyda physgodyn a sglodion. Ei sail yw merbys sych sy'n cael eu socian dros nos mewn dŵr gyda soda pobi, ac yna eu rinsio mewn dŵr ffres, ac ar ôl hynny caent eu mudferwi nes bydd y pys yn meddalu. Ychwanegir wedyn menyn a sesno â halen. Gellir hefyd ychwanegu mintys a lemwn[2] (er nad yw hyn yn gyffredin mewn siopau 'sgod a sglods cyffredin.

Er mai 'pys slwtsh' yw'r enw mwyaf cyffredin Cymraeg ar y saig, ceir sawl enw arall megis, pys potsh (gogledd Sir Benfro)[1] neu pys gleision, pys stwnsh, pys stwmp, a pys mwtrin.[3] Gwelir amrywiad o 'pys slwtsh' fel pys slwj neu pys slwdj, gyda sain ychydig yn wahanol ar ddiwedd y gair.

Cyd-bryd

[golygu | golygu cod]
Bwydlen yn Siop Sgod a Sglods Sglods, Llan-non, Ceredigion yn gweini Pys Slwdj (noder y sillafu)

Anfynych iawn y bwyteir pys slwtsh ar eu pen eu hunain. Cysylltir nhw'n bennaf â physgod a sglodion.

Ledled Lloegr (Gogledd Lloegr a Chanolbarth Lloegr yn arbennig) a Gweriniaeth Iwerddon maent yn gyfeiliant traddodiadol i bysgod a sglodion. Nid ydynt yn ychwanegiad arbennig o draddodiadol yn y cyd-destun hwn yn yr Alban. Yng Ngogledd Lloegr maent hefyd yn cael eu gweini’n gyffredin fel rhan o fyrbryd poblogaidd o’r enw 'pie and peas,' yn debyg i 'floater pie' De Awstralia; ond yn lle cawl pys trwchus y floater, mewn pastai a phys pys stwnsh sy’n cyd-fynd â’r cig pastai ac yn cael eu hystyried yn rhan o fwyd traddodiadol Prydeinig. Weithiau maent hefyd yn cael eu pacio'n bêl, eu trochi mewn cytew, eu ffrio'n ddwfn, a'u gweini fel ffriter pys.[4] Gellir prynu pys wedi'u paratoi'n barod hefyd mewn caniau tun.

Lliwio artiffisial

[golygu | golygu cod]

Mae'r rhan fwyaf o bys stwnsh a gynhyrchir yn fasnachol yn cynnwys lliwyddion artiffisial i'w gwneud yn wyrdd; heb y rhain byddai'r pys yn llwyd tywyll.[5] Yn draddodiadol mae'r lliwydd dadleuol tartrazine (E102) wedi cael ei ddefnyddio fel un o'r lliwiau; fodd bynnag, mor ddiweddar â 2019, roedd gweithgynhyrchwyr mawr yn defnyddio cyfuniad o brilliant blue FCF (E133) a R (E101).[6]

Llysenwau

[golygu | golygu cod]

Fel gwrthgyferbyniad â natur tlotaidd a di-rwysg y bwyd, mae pys slwtsh wedi derbyn lysenwau.

  • Yorkshire Caviar - enw coeglyd.[7]
  • Guacamole y werin[angen ffynhonnell] - ceir sawl stori ar lawr gwlad am wleidyddion neu pobl ffroen uchel yn ceisio dangos eu natur 'werinol' drwy fynd i Siop Sgod a Sglods am fwyd ac, wrth weld pys slwtsh, yn gofyn am guacamole mewn camgymeriad. Mae hyn yn dangos natur bell-o'r-pridd y person a'i chwaeth dosbarth canol neu uwch. Yr enghraifft enwocaf o hyn, os oedd yn wir o gwbl, oedd am yr Aelod Seneddol 'Llafur Newydd', Peter Mandelson yn gofyn am guacamole mewn siop sglodion.[8]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Pys Slwtsh". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 20 Awst 2024.
  2. "Mushy Peas". BBC Good Food. Cyrchwyd 29 Awst 2024.
  3. "Mushy". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 29 Awst 2024.
  4. "Pea fritter". Everything2.com. Cyrchwyd 2 October 2018.
  5. "The Kitchen Thinker: Food colourings". The Telegraph. 7 February 2011. Cyrchwyd 3 April 2018.
  6. "Batchelors Original Mushy Peas 300g". Sainsburys. Cyrchwyd 6 January 2020.
  7. "48 hours in Bristol / Dining with the locals", The Independent, 26 April 2008
  8. "Mandelson slips on the mushy peas". Yr Irish Times. 26 Ionawr 2001.