Neidio i'r cynnwys

Pwca

Oddi ar Wicipedia
Pwca
Enghraifft o:grwp ethnig chwedlonol Edit this on Wikidata
Pwca fel y'i darluniwyd yn Wirt Sikes, British Goblins: Welsh Folk-lore, Fairy Mythology, Legends and Traditions (Llunain:1880)

Mae'r pwca (lluosog: pwcaod) yn greadur o lên gwerin Celtaidd, Seisnig ac Ynysoedd y Sianel. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn nodi coblyn, ellyll, bwci ac ysbryd yn gyfystyron.[1] Credid eu bod yn dod â lwc dda a lwc ddrwg, ac y gallent helpu neu rwystro cymunedau gwledig a morol. Gall pwcaod fod â ffwr neu wallt tywyll neu wyn. Dywedwyd bod y creaduriaid yn gallu newid eu gwedd, gan gymryd ffurf ceffylau, geifr, cathod, cŵn, neu ysgyfarnogod. Gallant hefyd edrych fel pobl, ond gyda nodweddion anifeiliaid, fel clustiau neu gynffon.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  pwca. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Mai 2025.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]