Vladimir Putin

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Putin)
Владимир Путин
Vladimir Putin
Vladimir Putin


Deiliad
Cymryd y swydd
7 Mai 2012
Rhagflaenydd Dmitry Medvedev
Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2000 – 7 Mai 2008
Rhagflaenydd Boris Yeltsin
Olynydd Dmitry Medvedev

Cyfnod yn y swydd
8 Mai 2008 – 7 Mai 2012
Rhagflaenydd Viktor Zubkov
Olynydd Viktor Zubkov

Geni 7 Hydref 1952
Leningrad
Priod Ludmila Putina
Llofnod

Gwleidydd Rwsaidd ac Arlywydd Ffederasiwn Rwsia ers 2012 a chyn hynny o Fai 2000 hyd Fai 2008 yw Vladimir Putin (trawslythreniad amgen: Fladimir Pwtin[1]; Rwsieg: Влади́мир Влади́мирович Пу́тин) (ganed 7 Hydref 1952). Fe ddaeth yn arlywydd gweithredol ar 31 Rhagfyr 1999, yn olynydd i Boris Yeltsin, ac fe'i arwisgwyd yn arlywydd ar ôl etholiadau ar 7 Mai 2000. Yn 2004, fe'i ail-etholwyd am ail dymor a ddaeth i ben ar 2 Mawrth 2008; cafodd ei olynu gan Dmitry Medvedev. Yn ôl y cyfansoddiad ar y pryd, ni allai gael ei ail-ethol drachefn. Serch hynny, datganodd y byddai yn sefyll dros sedd yn y Duma fel ymgeisydd cyntaf ar restr etholiadol plaid Rwsia Unedig (Edinaya Rossiya). Agorodd hynny y posibilrwydd iddo gymryd swydd Prif Weinidog Rwsia o dan yr arlywydd newydd: un o benderfyniadau cyntaf Medvedev oedd cynnig y swydd honno iddo.

Mae swyddogion llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi honni ei fod e wedi arwain ymyrraeth Rwsiadd yn Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2016 yn erbyn Hillary Clinton ac mewn cefnogaeth i Donald Trump, ond mae Putin wedi gwadu a beirniadu hyn sawl gwaith.[2]


Blynyddoedd cynnar a gyrfa gyda'r KGB[golygu | golygu cod]

Ganed Putin yn Leningrad (St Petersburg heddiw) ar 7 Hydref 1952.

Graddiodd Putin o gangen ryngwladol Adran Cyfraith Prifysgol Wladwriaethol Leningrad ym 1975, ac ymunodd â'r KGB. Yn y brifysgol, daeth yn aelod o'r blaid gomiwnyddol, ac fe fu'n aelod tan fis Awst 1991.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Rhieni Putin, Vladimir Spiridonovich Putin a Maria Ivanovna Putina (née Shelomova)

Ei gyfnod yn brif weinidog a'i dymor cyntaf yn arlywydd[golygu | golygu cod]

Tsietsnia[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Ail Ryfel Tsietsnia.

Wcráin[golygu | golygu cod]

Ym mis Chwefror 2022, gorchmynnodd Putin filwyr Rwseg i oresgyn Wcráin.[3] Arweiniodd Rhyfel Rwsia ar Wcráin ar golli bywydau miloedd o filwyr Rwsaidd, a chreu oddeutu 10 miliwn o ffoaduriaid Wcreinaidd.[4]

Materion Tramor[golygu | golygu cod]

Safbwyntiau[golygu | golygu cod]

Mae Putin yn arddel safbwynt geidwadol ar faterion cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol. Mae gwaith yr athronydd ffasgaidd Ivan Ilyin yn ddylanwad arno.[1] Mae sawl wedi dadansoddi yr hyn a elwir yn Pwtiniaeth sef credo wleidyddol a gweithredol Putin fel Arlywydd a Phrif Weinidog Ffederasiwn Rwsia.

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Baner RwsiaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Yr athronydd yn y Cremlin". pedwargwynt.cymru. Cyrchwyd 2022-03-01.
  2. "Putin says claims of Russian meddling in U.S. election are 'just some kind of hysteria'". Los Angeles Times. 2 June 2017.
  3. "Ukraine conflict: Russian forces invade after Putin TV declaration". BBC News (yn Saesneg). 2022-02-24. Cyrchwyd 24 February 2022.
  4. "Russia's war in Ukraine 'causing £3.6bn of building damage a week'". The Guardian. 3 Mai 2022.