Neidio i'r cynnwys

Purdeb ieithyddol

Oddi ar Wicipedia
Purdeb ieithyddol
Enghraifft o'r canlynollanguage attitude, language ideology Edit this on Wikidata
Mathpolisi iaith, linguistic prescription Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae purdeb ieithyddol (hefyd: diffynnaeth ieithyddol neu hylendid Ieithyddol – Saesneg: Linguistic purism / linguistic protectionism / linguistic hygiene[1]) yn derm mewn ieithyddiaeth i ddisgrifio ymdrechion i warchod iaith yn erbyn dylanwad tramor a ystyrir yn 'amhur'.

Pan mae grŵp neilltuol yn poeni am ddirywiad iaith, maent yn aml yn cyfeirio at ddefnydd amrywiolion eraill ar yr iaith honno, neu batrwm o newidiadau sy'n wahanol i’w syniad nhw o’r fersiwn ddelfrydol ohoni. Gallant fod yn anfodlon ag amrywiaeth mewn geirfa ac elfennau gramadegol a defnydd o eiriau benthyg eraill sydd wedi’u dylanwadu gan bwysau iaith gryfach arall. Yn aml, maent hefyd yn dadlau bod yna fersiwn ‘safonol’ y dylid ei siarad neu'i ysgrifennu, fersiwn pur neu un ag iddo ansawdd cynhenid uwch nag amrywiolion eraill.

Weithiau mae mynnu cadw at safon benodol o iaith yn rhywbeth ceidwadol, fel amddiffyniad iaith rhag pwysau ieithoedd eraill neu gadwraeth y genedl. Gall hefyd fod yn rhywbeth arloesol wrth ddiffinio safon newydd sy'n haws ac yn fwy cyfleus i bawb. Weithiau mae'n rhan o bolisi iaith y llywodraeth sy'n cael ei orfodi mewn sawl ffordd. Gweler hefyd ieithyddiaeth disgrifiadol (linguistic descriptivism / prescriptivism).

Mae gwrthwynebiad i burdeb hefyd yn bodoli, gyda geiriau benthyg a ffurfiau eraill yn disodli rhai'r arddull bur. Er enghraifft, yn Almaeneg mae'r Saesneg Notebook a Laptop yn eiriau llawer fwy poblogaidd na Klapprechner[2]. Yn y Gymraeg mae fersiynau o eiriau rhyngwladol fel Ffôn ac Antibiotegs yn cael eu defnyddio'n amlach na'r geiriau sydd wedi'u greu fel Pellseinyr a Gwrthfiotigion.[angen ffynhonnell]

Hanes y cysyniad

[golygu | golygu cod]
Mae'r Académie Française yn Ffrainc yn gyfrifol am gynnal purdeb ieithyddol yr iaith Ffrangeg. Dyma dudalen gyntaf y 6ed argraffiad o'u geiriadur (1835).

Sefydlwyd academïau gyda phurdeb ieithyddol yn nod iddynt. Yn gyntaf yn yr Eidal trwy 'Accademia della Crusca' yn 1572 a daeth yn fodel i sawl gwlad arall trwy Ewrop. Yn aml, roedd eu damcaniaethau'n cael eu gorfodi trwy'r gyfraith.[3]

Datblygodd Purdeb Ieithyddol yn yr Eidal o'r syniad, a ddatblygwyd yn yr 16eg ganrif yn bennaf gan Pietro Bembo a Lionardo Salviati, gyda geiriaduron a gramadeg yn sail iddynt, y dylai defnydd llenyddol efelychu iaith a steil ysgrifennu Fflorens y 14eg ganrif.

Gwrthwynebwyd y farn hon yn ystod Cyfnod yr Oleuedigaeth, a chyflwynwyd y termau purismo (purdeb) a purista (purydd) ar gyfer steil ieithyddol hunan-bwysig neu hynafol. Roedd purdeb Antonio Cesari ac eraill yn y 19eg ganrif yn seiliedig ar edmygu steil y 14eg ganrif, ac roedd yn erbyn geiriau newydd a benthyciadau tramor, yn enwedig o'r Ffrangeg.

Bu cefnogwyr Purdeb Ieithyddol yr Eidal yn yr 20g yn gwrthsefyll benthyciadau o'r Ffrangeg, ac yn ddiweddarach o'r Saesneg, ac roedd ar y mudiad ar ei anterth yn ystod ail hanner y cyfnod Ffasgaidd. Roedd y neopurismo (purdeb newydd) a hyrwyddwyd gan Bruno Migliorini o ddiwedd y 1930au yn ceisio cyfaddawd rhwng anghenion yr Eidal yn y byd modern a chynnal strwythurau clasurol yr iaith.

Ieithoedd agos

[golygu | golygu cod]

Yn aml mae dwy iaith neu ddwy amrywiolion iaith sy'n perthyn yn agos yn cystadlu'n uniongyrchol a'i gilydd, un yn wannach a'r llall yn gryfach. Efallai y bydd siaradwyr yr iaith gryfach yn awgrymu bod yr iaith wannach yn "dafodiaith" o'r iaith gryfach, a dim yn iaith 'go iawn' ar wahân. Wrth ymateb, bydd amddiffynwyr yr iaith arall yn gwneud cryn ymdrech i brofi bod eu hiaith yn bodoli'n annibynnol llawn cystal â'r iaith "gryf".

Yn y cyd-destun hwn, mae Iddeweg ac Iseldireg weithiau wedi cael eu hystyried yn dafodieithoedd Almaeneg. Yn achos Almaeneg Isel, a siaredir yn nwyrain yr Iseldiroedd a gogledd yr Almaen, mae'r ddadl yn dal i fod yn gyfredol, gan y gellid ei hystyried yn dafodiaith Iseldireg, yn dafodiaith Almaeneg, neu'n iaith annibynnol. Enghraifft o iaith gysylltiedig sydd ond wedi cyrraedd statws iaith genedlaethol swyddogol yn ddiweddar yw Lwcsembwrgeg. Gan nad yw gwyddoniaeth ieithyddol yn cynnig ddiffiniad ysgolheigaidd o dafodiaith, ac mae ieithyddion yn amheus o werth diffiniad o'r fath – "Tafodiaith ag iddi byddin a llynges yw iaith," chwedl Max Weinreich, mae'r ddadl yn ymwneud mewn gwirionedd â chwestiynau goddrychol am wleidyddiaeth hunaniaeth, ac ar adegau gall ddeillio o emosiynau ar ddwy ochr.

Mae ieithoedd cysylltiedig yn aml yn tueddu i gymysgu. Un ffordd o atal hyn yw defnyddio gwahanol systemau ysgrifennu neu wahanol systemau sillafu.

Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:

  • Mae Moldofeg a Rwmaneg bron yn union yr un fath ym mhob ffordd ac eithrio bod Moldofa wedi defnyddio system ysgrifennu Cyrilig tan annibyniaeth Moldofa ym 1992 — tra bod Rwmaneg yn defnyddio system ysgrifennu Lladin.
  • Mae Hindi ac Wrdw yn cael eu gwahaniaethu gan eu sgriptiau Devanagari ac Arabeg. Yn ystod y degawdau diwethaf, mae'r ieithoedd wedi symud ymhellach oddi wrth ei gilydd, gyda Hindi yn closio at ei gwreiddiau Sansgrit ac Wrdw yn adlewyrchu dylanwad Arabeg a Pherseg.[4]
  • Mae safonau llenyddol Serbeg a Croateg yn wahanol yn bennaf wrth ddefnyddio'r sgriptiau Cyrilig a Lladin. Maent yn arddangos lefel uchel o gyd-ddealltwriaeth gan eu bod yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union.

Mathau o burdeb ieithyddol

[golygu | golygu cod]

Mae amryw o ysgolheigion wedi dyfeisio ffyrdd i geisio categoreiddio purdeb ieithyddol. Mae'r categoreiddio yn seiliedig ar feini prawf tra amrywiol.

Mae'r ieithydd George Thomas wedi cynnig disgrifiadau o'r wahanol fathau o burdeb ieithyddol, gan gynnwys:[5]

  • Purdeb hynaflyd (Archaizing purism): Mae hyn yn digwydd pan fydd cymuned ieithyddol yn ceisio adfywio iaith oes aur lenyddol, boed hynny'n wirionedd neu'n ddychmygol. Enghreifftiau: Arabeg, Tanittamil Iyakkam yn Tamil, Islandeg, Groeg Hynafol, Katharevousa mewn Groeg Modern, Sansgrit, Lladin (obsesiwn puryddol gyda ffurfiau clasurol ymhlith siaradwyr ieithoedd Romáwns a'r ieithoedd a ddylanwadwyd ganddynt yn ystod y Dadeni).
  • Purdeb ethnograffig: Mae'r ffurf hon ar burdeb yn seiliedig ar ddelfrydu cefn gwlad, straeon gwerin a thafodieithoedd. Enghreifftiau: Nynorsk (Norwyeg Newydd), rhai fersiynau o Groeg Demotig.
  • Purdeb elitaidd: Purdeb sy'n gysylltiedig ag amrywiolyn ffurfiol iawn sy'n gysylltiedig ag elit, iaith llys y brenin er enghraifft.
  • Purdeb Diwygiadol: Y prif nodwedd yma yw torri'r cyswllt gyda'r gorffennol. Enghraifft o hyn yw dileu geiriau Perseg ac Arabeg yn ystod diwygiad yr iaith Twrceg o dan Atatürk er mwyn torri gyda'r iaith Dwrceg Otomanaidd oedd dan ddylanwad Arabeg a Pherseg. Enghreifftiau eraill yw'r ymdrechion puryddol mewn ieithoedd fel Hausa, Swahili a Hindi i dorri gyda gorffennol coloneiddio Ewropeaidd. Yn ogystal, gall polisïau iaith geisio lleihau tebygrwydd rhwng ieithoedd cyd-ddealladwy am resymau gwleidyddol, fel sydd wedi digwydd gyda Daneg/Norweg, Hindwstaneg (Hindi ac Wrdw) a Maleieg / Indoneseg.
  • Purdeb senoffobig: gan gynnwys dileu neu eithrio elfennau tramor. Mae enghreifftiau'n cynnwys Uchel Norwyeg a Coreeg Roedd llawer o awduron Saesneg y 19eg a'r 20fed ganrif yn canmol geiriau Eingl-Sacsonaidd "cryf" fel ar draul geiriau Romáwns "gwan". Mae'r Gymraeg, Almaeneg, Groeg a Latfieg yn adnabyddus am eu ymdrechion i fathu geiriau gan ddefnyddio gwreiddiau brodorol dros fenthyg geiriau tramor; mae rhai yn fwy llwyddiannus nag eraill.[angen ffynhonnell]
  • Purdeb democrataidd: Ei nod yw sicrhau dealltwriaeth o syniadau modern ar gyfer grŵp eang o ddefnyddwyr iaith trwy ddefnyddio geiriau a gramadeg cyffredin, bob dydd.
  • Purdeb uno: Anelu at uno grŵp defnyddwyr cyffredinol iaith yn well trwy leihau rhai nodweddion ieithyddol rhanbarthol neu broffesiynol a allai wahanu agweddau amrywiol ar fywyd, neu hyd yn oed rwystro cydgysylltiad, rhwng unigolion neu is-grwpiau o wahanol brofiad rhanbarthol neu gefndir proffesiynol. Er enghraifft Euskara Batua (Basgeg Unedig).
  • Purdeb amddiffynnol: Anelu at amddiffyn iaith rhag bygythiadau allanol. Yn bennaf, mae'r rhain i'w deall fel mewnlifiad o syniadau tramor y mae grŵp iaith penodol (neu ei system wleidyddol) yn eu casáu neu wedi cael gwared arnynt, neu fewnlifiad o eiriau neu ymadroddion tramor sy'n tueddu i ddisodli geirfa gynhenid, gan leihau neu beryglu cyd-ddealltwriaeth rhwng gwahanol ardaloedd neu wahanol cenedlaethau o fewn ardal iaith neu rhwng ei siaradwyr presennol a gweddillion llenyddol eu cyndeidiau sy'n uchel eu parch, hynny yw, rhyw fath o dreftadaeth "glasurol".

Mae'r term linguistic purism (Purdeb Ieithyddol) neu linguistic hygiene (Hylendid Ieithyddol) hefyd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer atal defnyddio geiriau sarhaus fel rhai hiliol, yn erbyn merched a phobl hoyw.[6][7]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Veisbergs, Andrejs (2010). "Development of the Latvian Language, Purism and Prescriptivism". Linguistic Studies in Latvia (PDF). Vol. 18. University of Latvia. p. 15.
  2. "Notebook" (yn de), Wikipedia, 2024-09-05, https://de.wikipedia.org/wiki/Notebook, adalwyd 2024-09-19
  3. Thomas, George (1991). Linguistic Purism. Studies in Language and Linguistics. Longman. ISBN 9780582037427.
  4. Tariq Rahman: From Hindi To Urdu (OUP 2010) https://archive.org/details/hindiurdu
  5. Thomas, George (1991). Linguistic Purism. Studies in Language and Linguistics. Longman. ISBN 9780582037427.
  6. https://linguisticus.wordpress.com/2015/09/17/language-and-political-correctness-verbal-hygiene-deborah-cameron-1995/
  7. Allan K, Burridge K. Linguistic purism and verbal hygiene. In: Forbidden Words: Taboo and the Censoring of Language. Cambridge University Press; 2006.