Neidio i'r cynnwys

Puppis

Oddi ar Wicipedia
Puppis
Enghraifft o:cytser Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1763 Edit this on Wikidata
Rhan oArgo Navis, hemisffer wybrennol y de Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Puppis. "Puppis" yw'r gair Lladin am "starn llong". Tan 1756 roedd Puppis yn rhan o gytser Argo Navis (llong Iason a'r Argonawtiaid), ond rhannwyd y gytser fawr hwnnw yn dair rhan gan Nicolas Louis de Lacaille yn ei gatalog o sêr y de a gyhoeddwyd yn y flwyddyn honno. Mae Puppis yn cynrychioli starn y llong; yr adrannau eraill oedd Carina, y cilbren, a Vela, yr hwyliau.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Map yn dangos maint y sêr yn Puppis

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Puppis", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 25 Mawrth 2025