Rhea bach

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pterocnemia pennata)
Rhea bach
Pterocnemia pennata

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Rheiformes
Teulu: Rheidae
Genws: Rhea[*]
Rhywogaeth: Rhea pennata
Enw deuenwol
Rhea pennata
Dosbarthiad y rhywogaeth

Mae rhea Darwin (Rhea pennata), a elwir hefyd yn rhea bach, yn aderyn mawr na all hedfan, y lleiaf o'r ddwy rywogaeth o rheaid. Fe'i ceir yn yr Altiplano a Phatagonia yn Ne America.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r rhea bach yn 90 i 100 cm (35–39 mod.) o daldra. Mae ganddo ben a phig bach, a'r olaf yn mesur 6.2 i 9.2 cm (2.4 i 3.6 mod.), ond mae ganddo goesau hir a gwddf hir. Mae ganddo adenydd cymharol mwy na'i chwaer rhywogaethau (yr estrys a'u tebyg), sydd yn ei alluogi i redeg yn arbennig o dda. Gall gyrraedd cyflymderau o 60 km/h (37 mya), gan ei alluogi i ddianc rhag ysglyfaethwyr. Mae ei grafangau miniog ar fysedd ei draed yn arfau effeithiol. Mae eu plu yn debyg i blu'r estrys - nid oes cwilsyn ganddynt. At ei gilydd mae'r plu yn frychni brown a gwyn, ac mae rhan uchaf eu tarsws wedi'i phluo. Mae'r tarsws yn 28 i 32 cm (11 i 13 modfedd) o hyd ac mae ganddo 18 o blatiau llorweddol tua'i ben blaen[1].

Etymoleg[golygu | golygu cod]

Fe'i gelwir yn ñandú petiso, neu ñandú del norte yn yr Ariannin, lle mae'r mwyafrif yn byw. Enwau eraill yw suri a choique. Choique yw ei enw yn iaith y Mapuche (Mapudungun) Daw'r enw ñandú o enw'r rhea yn Guaraní, ñandú guazu, sy'n golygu copyn mawr, o bosibl mewn perthynas â'u harfer o agor a chau eu hadenydd wrth redeg[2].

Rhywogaeth o adar yw'r Rhea bach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: rheaod bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Pterocnemia pennata; yr enw Saesneg arno yw Lesser rhea. Mae'n perthyn i deulu'r Rheidae (Lladin: Rheidae) sydd yn urdd y Rheiformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. pennata, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Ymddygiad[golygu | golygu cod]

Mae'r rhea bach yn llysysydd yn bennaf, gydag anifeiliaid bach megis madfallod, chwilod a chricediaid yn cael eu bwyta ar brydiau. Mae'n bwyta ffrwythau y cacti a halwynlysiau o deulu'r Chenopodiacae) yn bennaf, yn ogystal â glaswelltydd. Maent yn tueddu i fod yn adar tawel, ac eithrio fel cywion pan fyddant yn chwibanu'n alarus, ac fel gwrywod sy'n chwilio am fenyw, byddant yn gwneud swn dwndwr dwfn diasbad[3].

Cynefin a dosbarthiad[golygu | golygu cod]

Mae'r rhea bach yn byw mewn ardaloedd o brysgwydd agored yng nglaswelltiroedd Patagonia ac ar lwyfandir yr Andes (yr Altiplano), drwy wledydd yr Ariannin, Bolivia, Chile, a Pheriw[4].

Hanes darganfod y Rhea Bach[golygu | golygu cod]

Yn ystod ail antur HMS Beagle[5], gwnaeth y naturiaethwr ifanc Charles Darwin lawer o deithiau ar y tir, a thua mis Awst 1833 clywodd gan y gauchos yn ardal Río Negro yng Ngogledd Patagonia am fodolaeth rhea bach, "aderyn prin iawn a alwent yn Avestruz Petise". Parhaodd i chwilio'n ofer am yr aderyn hwn. Hwyliodd y Beagle i'r De, gan lanio yn Port Desire yn ne Patagonia ar 23 Rhagfyr. Ar y diwrnod canlynol, saethodd Darwin gwanaco, gan roi pryd Nadolig iddynt. Yn nyddiau cyntaf mis Ionawr, saethodd un o'i gyd-deithwyr, yr artist Conrad Martens, rhea. Yr oeddent wrthi yn ei fwyta cyn i Darwin sylweddoli mai dyma'r rhea bach y bu'n chwilio mor ddyfal amdano! Llwyddodd i achub y pen, y gwddf, y coesau, un adain, a llawer o'r plu mwy[6].


Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r rhea bach yn perthyn i deulu'r Rheidae (Lladin: Rheidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Safonwyd yr enw Rhea bach gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.