Psycho (ffilm 1960)
Trailer | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Alfred Hitchcock |
Cynhyrchydd | Alfred Hitchcock |
Ysgrifennwr | Nofel: Robert Bloch Sgript: Joseph Stefano Samuel A. Taylor |
Serennu | Anthony Perkins Janet Leigh Vera Miles John Gavin Martin Balsam John McIntire |
Cerddoriaeth | Bernard Hermann |
Sinematograffeg | John L. Russell |
Golygydd | George Tomasini |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | 1960–1968: Paramount Pictures 1968-presennol: Universal Pictures |
Amser rhedeg | 109 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae Psycho (1960) yn ffilm o'r Unol Daleithiau a gyfarwyddwyd gan Alfred Hitchcock yn seiliedig ar sgript gan Joseph Stefano. Mae'n seiliedig ar nofel o'r un enw gan Robert Bloch, a gafodd ei ysbrydoli gan droseddau llofrudd o Wisconsin o'r enw Ed Gein. Darlunia'r ffilm gyfarfyddiad rhwng ysgrifenyddes, Marion Crane (Janet Leigh), sydd yn cuddio mewn motel wedi iddi ddwyn wrth ei chyflogwr, a pherchennog y motel, Norman Bates (Anthony Perkins), a'r hyn sy'n digwydd wedi iddynt gyfarfod.