Corryn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pryf cop)
Corynnod/Pryfed cop
Gweddw ddu (Latrodectus mactans)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Arachnida
Urdd: Araneae
Is-urddau

Araneomorphae
Mesothelae
Mygalomorphae

Anifail di-asgwrn-cefn gydag wyth o goesau yw corryn (hefyd: pryf cop, copyn) a gallant gynhyrchu sidan (gweoedd) i ddal pryfed. Mae 'pryfed cop' neu 'gorrod' (weithiau corynnod) (urdd yr Araneae) yn arthropodau sy'n anadlu aer ac sydd ag wyth coes; maent yn droellwyr sy'n allwthio sidanwe i greu gwe (rhwyd o sidanwe), ac sy'n gallu chwistrellu gwenwyn.[1][2] Fel arfer, mae ganddynt hefyd ddau grafangorn (chelicerae) gyda ffangs. Nhw yw'r urdd fwyaf o arachnidau ac maent yn seithfed o ran amrywiaeth o r bywywogaethau o bob urdd o organebau.[3][4] Ceir hyd i bryfed cop ar bob cyfandir ac eithrio Antarctica, ac maent bron wedi ymsefydlu ym mhob math o gynefinoedd tir gwahanol. Yn 2021 cofnodwyd 49,623 o rywogaethau gwahanol mewn 129 o deuluoedd gan dacsonomegwyr.[5] Fodd bynnag, bu anghytuno ynghylch sut y dylid dosbarthu’r teuluoedd hyn i gyd, a gynigiwyd ers 1900.[6]

Yn anatomegol, mae pryfed cop yn wahanol i arthropodau eraill yn yr ystyr bod y segmentau arferol o'r corff yn cael eu hasio'n ddau dagmata, y ceffalothoracs neu'r prosoma, a'r opisthosoma, neu'r abdomen, a'u cysylltu â ffedisel bach, silindrog. Ar hyn o bryd ni cheir tystiolaeth bod pryfed cop erioed wedi cael rhaniad tebyg i thoracs ar wahân, ceir dadl yn erbyn dilysrwydd y term ceffalothoracs, sy'n golygu ceffalon (pen) ymdoddedig, a'r thoracs. Yn yr un modd, gellir ffurfio dadleuon yn erbyn defnyddio'r term abdomen, gan fod opisthosoma pob pry cop yn cynnwys calon ac organau anadlol, organau na chysylltir mohonyn a'r abdomen, fel arfer.[7]

Mae atodiadau'r corryn ar ei abdomen, sydd wedi'u haddasu'n droellwyr sy'n allwthio sidan, gwawn neu sidanwe o chwaren arbenigol. Gall gwe'r pry cop amrywio'n fawr o ran maint, siâp a faint o edau gludiog a ddefnyddir.

Ymddangosodd arachnidau tebyg i bryf copyn gyda'r gallu i allwthio gwe yn y cyfnod Defonaidd tua 386 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP), ond mae'n debyg bod yr anifeiliaid hyn yn brin o nyddynnau (cyfarpar i nyddu'r gwe). Mae pryfed cop go iawn wedi’u darganfod mewn creigiau Carbonifferaidd o 318 i 299 miliwn o flynyddoedd CP, ac maent yn debyg iawn i'r is-urdd mwyaf cyntefig sydd wedi goroesi, sef y Mesothelae. Ymddangosodd y prif grwpiau o bryfed cop modern, y Mygalomorphae a'r Araneomorphae, am y tro cyntaf yn y cyfnod Triasig, cyn 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Disgrifiwyd y rhywogaeth Bagheera kiplingi fel llysysol yn 2008,[8] ond mae pob rhywogaeth hysbys arall yn ysglyfaethwyr, yn bennaf yn ysglyfaethu ar bryfed ac ar bryfed cop eraill, er bod ychydig o rywogaethau o gorynod mawr hefyd yn bwyta adar a madfallod. Amcangyfrifir bod 25 miliwn tunnell o bryfed cop yn y byd yn lladd 400-800 miliwn o dunelli o ysglyfaeth y flwyddyn.[9] Defnyddiant ystod eang o strategaethau i ddal ysglyfaeth: ei ddal mewn gweoedd gludiog, ei laswio â bolas gludiog, dynwared yr ysglyfaeth i osgoi ei ganfod, neu redeg drosto.

Mae'r rhan fwyaf yn canfod ysglyfaeth yn bennaf trwy synhwyro dirgryniadau, ond mae gan yr helwyr mwyaf arbenigol olwg acíwt, ac mae helwyr y genws Portia yn dangos arwyddion o ddeallusrwydd yn eu dewis o dactegau a'u gallu i ddatblygu tachtegau newydd. Gan fod perfedd y pry cop yn rhy gul i gymryd solidau (hy bwyd), maen nhw'n hylifo'u bwyd trwy boeri arno ensymau treulio. Maent hefyd yn malu bwyd gyda gwaelodion eu pedipalps, gan nad oes gan arachnidau y gorfannau (math o ddannedd) sydd gan gramenogion a phryfed.

Er mwyn osgoi cael eu bwyta gan y benywod, sydd fel arfer yn llawer mwy, mae'r pryf cop gwrywaidd yn uniaethu ei hun â darpar gymar trwy amryw o ddefodau caru gymhleth. Gall gwrywod y rhan fwyaf o rywogaethau oroesi wedi iddynt gyplu, ond byr yw oes y rhai hynny hefyd! Mae menywod yn gwehyddu sach sidan i ddal yr wyau, a gall pob sach gynnwys cannoedd o wyau. Gofala benywod llawer o rywogaethau o bryfed cop am eu cywion, wedi iddynt ddeor, er enghraifft trwy eu cario o gwmpas neu trwy rannu bwyd gyda nhw. Lleiafrif iawn sy'n gymdeithasol, yn adeiladu gweoedd cymunedol a all gartrefu rhwng llond llaw a 50,000 o unigolion. O ran ymddygiad cymdeithasol, yma eto mae na gryn amrywiaeth: mae'r pryfed cop gweddw yn ansicr iawn ac nid ydynt yn oddefgar ychwaith! Ond mae eraill yn ddigon parod i gyd-hela a rhannu bwyd. Er bod y rhan fwyaf o bryfed cop yn byw am hyd at ddwy flynedd, gall tarantwla a chorynnod mygalomorph eraill fyw am hyd at 25 blynedd mewn caethiwed.

Er bod gwenwyn ychydig o rywogaethau yn beryglus i bobl, mae gwyddonwyr bellach yn ymchwilio i'r defnydd o wenwyn pry cop mewn meddygaeth ac fel plaladdwyr organig (nad ydynt yn llygru). Mae gwe sidan y pry cop yn darparu cyfuniad clyfar o ysgafnder, cryfder ac ystwythder, sy'n well na deunyddiau synthetig, ac mae genynnau'r sidan hwn wedi'u impio i fewn i famaliaid a phlanhigion i weld a ellir eu defnyddio fel ffatrïoedd i greu sidan. O ganlyniad i'w hymddygiadau amrywiol, mae pryfed cop wedi dod yn symbolau cyffredin mewn celf a mytholeg: amynedd, creulondeb a phwerau creadigol. Gelwir ofn afresymol o bryfed cop yn arachnoffobia.

Geirdarddiad a diffiniad[golygu | golygu cod]

Mae'r cofnod cyntaf o'r gair 'pryf' i'w gael ym Mrut y Tywysogion yn Llyfr Coch Hergest (14g): Rhyw bryfet a ddaeth y flwyddyn honno... Hen Gernyweg: prif, pref; Hen Lydaweg: preff. Clogyn yw cop, ac fe'i defnyddir yn Oll synnwyr pen Kembero ygyd, William Salesbury, a gyhoeddwyd yn 1547. Ar lafar, defnyddir weithia'r Saesnigiad sbeidar, a fenthyciwyd o'r Proto-Germaneg spiner-,sef troellwr, sydd yn ei dro'n dod o'r gwreiddyn Proto-Indo-Ewropeaidd *(s)pen-, "cylchdroi, troelli, ymestyn".[10]

Anifail di-asgwrn-cefn sy'n perthyn i'r dosbarth Insecta yw'r pryf (ll. pryfed neu drychfilod). Y pryfed yw'r dosbarth mwyaf yn y ffylwm Arthropoda sy'n cynnwys mwy nag 800,000 o rywogaethau - mwy nag unrhyw ddosbarth arall o anifeiliaid. Mae gan bryfed chwe choes. Gall fod hyd at ddau bâr o adenydd ganddynt hefyd. Gallant fyw ymhob amgylchedd ar y ddaear, er mai dim ond ychydig o rywogaethau ohonynt sy'n byw yn y môr. Felly nid 'pry' yw pry cop, ac efallai bod y gair corryn, felly'n well gair yn Gymraeg!

Gelwir arthropodau eraill, megis pryfed cantroed, pryfed miltroed, sgorpionau, pryfed lludw, y gwiddon, a throgod weithiau'n bryfed, a hynny'n anghywir, oherwydd gall cynlluniau eu corff ymddangos yn debyg i bryf, gan rannu'n allsgerbwd cymalog. Fodd bynnag, o edrych yn fanylach, mae eu nodweddion yn amrywio'n sylweddol ac yn bur wahanol; yn fwyaf amlwg, nid oes ganddynt y nodwedd chwe choes o bryfed llawndwf.[11]

Mae'r corrod a'r sgorpionau'n aelodau o un grŵp o fewn yr is-ffylwm chelicerate, sef grŵp yr arachnidau.[12] Mae gan crafangyrn (chelicerae) y Scorpionau dair adran ac fe'u defnyddir wrth fwydo.[13] Dwy ran sydd i grafangyrn y corrod ac maent yn terfynu mewn ffangiau gwenwynig fel arfer, ac yn plygu i ffwrdd y tu ôl i'r adrannau uchaf pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Yn gyffredinol, mae gan y hanau hyn o'r corff "flew" trwchus sy'n hidlo lympiau solet allan o'u bwyd, gan mai dim ond bwyd hylif all corrod ei yfed.[14] Mae pedipalpau'r sgorpionau'n ffurfio crafangau mawr ar gyfer dal ysglyfaeth,[13] tra bod atodiadau (appendages) rhai corrod yn weddol fach y mae eu gwaelod hefyd yn gweithredu fel estyniad i'r geg; ar ben hyn, mae rhai pryfed cop gwrywaidd wedi ehangu'r adrannau olaf i drosglwyddo sberm.[14]

Mewn pryfed cop, mae pedicel bach, silindrog yn ymuno â'r seffalothoracs a'r abdomen, sy'n galluogi'r abdomen i symud yn annibynnol wrth gynhyrchu sidan. Gorchuddir wyneb uchaf y cephalothorax gan un carpace amgrwm, tra bod yr ochr isaf wedi'i gorchuddio gan ddau blât eithaf gwastad. Mae'r abdomen yn feddal ac yn siâp wy.[14]

Cylchrediad ac analu[golygu | golygu cod]

Fel arthropodau eraill, mae'r corryn yn un o'r grwp elwir yn ceutiaid lle mae'r ceudod (coelom) yn cael ei leihau i ardaloedd bach o amgylch y systemau atgenhedlu ac ysgarthu. Mae ei le'n cael ei gymryd yn bennaf gan y system gylchredol mewn ceudod sy'n rhedeg y rhan fwyaf o hyd y corff ac mae gwaed yn llifo drwyddo. Tiwb yw'r galon, yn rhan uchaf y corff, gydag ychydig o ostia sy'n gweithredu fel falfiau unffordd sy'n caniatáu i waed fynd i mewn i'r galon o'r hemocoel ond yn ei atal rhag gadael cyn iddo gyrraedd y pen blaen.[15] Fodd bynnag, mewn corrod, dim ond rhan uchaf yr abdomen y mae'n ei feddiannu, ac mae gwaed yn cael ei ollwng i'r hemocoel gan un rhydweli sy'n agor ym mhen ôl yr abdomen a thrwy rydwelïau canghennog sy'n mynd trwy'r pedicel ac yn agor i sawl rhan o'r seffalothoracs. Felly mae gan corrod systemau cylchrediad gwaed agored.[14] Mae gwaed llawer o bryfed cop ysgyfaint arbennig sy'n cynnwys y pigment hemocyanin i wneud cludo'rocsigen yn fwy effeithlon.[12]

Pryf syrffid wedi'i ddal yng ngwe'r corryn

Bwydo, treulio ac ysgarthu[golygu | golygu cod]

Cheiracanthium punctorium, yn arddangos fangiau

Ffangs yw rhanau olaf chelicerae y corryn, a gall y mwyafrif helaeth o gorrod eu defnyddio i chwistrellu gwenwyn i gorff ei ysglyfaeth, o chwarennau gwenwyn yng ngwreiddiau'r chelicerae.[14] Mae'r teuluoedd Uloboridae a Holarchaeidae, a rhai pryfed cop y teulu Liphistiidae, wedi colli eu chwarennau gwenwyn, ac yn lladd eu hysglyfaeth â sidan yn lle hynny.[16] Fel y rhan fwyaf o arachnidau, gan gynnwys sgorpionau,[12] mae gan bryfed cop berfedd cul a all ond ymdopi â bwyd hylifol a dwy set o ffilters i gadw solidau allan.[14] Defnyddiant un o ddwy system dreulio allanol wahanol. Mae rhai'n pwmpio ensymau treulio o ganol y perfedd i'r ysglyfaeth ac yna'n sugno meinweoedd hylifol yr ysglyfaeth i'r perfedd, gan adael plisg gwag yr ysglyfaeth ar ddiwedd y pryd bwyd. Mae corrod eraill yn malu'r ysglyfaeth yn fwydion mân, gan ddefnyddio'r chelicerae a gwaelodion y pedipalps i wneud hynny, tra'n gorlifo ag ensymau ar yr un pryd; yn y rhywogaethau hyn, mae'r chelicerae a gwaelodion y pedipalps yn ffurfio ceudod (sy'n dal y bwyd) lle caiff ei dreulio'n allanol, cyn ei roi yn y ceg.[14]

Mae'r stumog yn y cephalothorax yn gweithredu fel pwmp sy'n anfon y bwyd yn ddyfnach i'r system dreulio. Ceir sawl adran ceca yn y coluddyn dall sy'n tynnu maetholion o'r bwyd; mae'r rhan fwyaf yn yr abdomen, ond mae rhai i'w cael yn y cephalothorax.[14]

Organau synnwyr[golygu | golygu cod]

Mae prif ocelli (pâr canol o lygaid) y pry copyn neidio hwn yn acíwt iawn, ond mae'r pâr allanol yn "llygaid eilradd" ac mae parau eraill o lygaid eilaidd ar ochrau a thopo ei ben.[17]

Mae gan gorrod bedwar prif bâr o lygaid yn bennaf ar flaen uchaf y seffalothoracs, wedi'u trefnu mewn patrymau sy'n amrywio o un teulu i'r llall.[14] Mae'r prif bâr yn y tu blaen o'r math a elwir yn bigment-cwpan llygad syml (weithiau: oseli), sy'n gyfyngedig i allu canfod i ba gyfeiriad y mae golau'n dod yn y rhan fwyaf o arthropodau, gan ddefnyddio'r cysgod sy'n cael ei daflu gan waliau'r cwpan. Fodd bynnag, mewn corrod mae'r llygaid hyn yn gallu ffurfio delweddau.[17][18] Credir bod y parau eraill, a elwir yn llygaid eilradd, yn deillio o lygaid cyfansawdd y corngrafangogion hynafol, ond nid oes ganddyn nhw bellach y ffasedau ar wahân sy'n nodweddiadol o lygad cyfansawdd. Yn wahanol i'r prif lygaid, mewn llawer o gorrod mae'r llygaid eilaidd hyn yn canfod golau a adlewyrchir o tapetum lucidum adlewyrchol.[14]

Mae craffter gweledol rhai corrod neidio yn ddeg gwaith gwell na'r gweision neidr; tipyn o gamp gan mai gan y gwas neidr mae'r golwg gorau o'r holl rywogaethau o bryfed.

Cyflawnir y craffter hwn trwy gyfres deleffotograffig o lensys, retina pedair haen, a'r gallu i droi'r llygaid ac integreiddio delweddau o wahanol gamau yn y sgan.  Yr anfantais yw bod y prosesau sganio ac integreiddio yn gymharol araf.[19]

Cynhyrchu sidan[golygu | golygu cod]

Y pelen wehyddwr yn cynhyrchu sidan o'i droellwyr. Gwnewch y llun yn fwy i weld y gwe

Nid oes unrhyw atodiadau i'r abdomen ac eithrio'r rhai sydd wedi'u haddasu i ffurfio un i bedwar (tri fel arfer) pâr o droellwyr byr, symudol, sy'n allyrru sidan fel y coblyn. Mae gan bob troellwr lawer o dyllau (fel tapiau bach) pob un ohonynt wedi'i gysylltu ag un chwarren sidan. Ceir o leiaf chwe math o chwarren sidan, pob un yn cynhyrchu mathau gwahanol o we.[14]

Mae sidan yn bennaf yn cynnwys protein tebyg iawn i'r hyn a ddefnyddir mewn sidan go iawn. Mae'n hylif i ddechrau, ac mae'n caledu nid trwy amlygiad i aer ond o ganlyniad i gael ei dynnu allan, sy'n newid strwythur mewnol y protein. [20] Mae'n debyg o ran cryfder tynnol i ddeunyddiau neilon a biolegol fel chitin, colagen a seliwlos, ond mae'n llawer mwy elastig . Mewn geiriau eraill, gall ymestyn llawer ymhellach cyn torri neu golli siâp. [14]

Mae hyd yn oed rhywogaethau nad ydynt yn adeiladu gwe i ddal ysglyfaeth yn defnyddio sidan mewn sawl ffordd: fel deunydd lapio ar gyfer sberm ac ar gyfer wyau wedi'u ffrwythloni; fel rhaff diogelwch; ar gyfer adeiladu nythod; ac fel parasiwtiau gan yr ifanc o rai rhywogaethau.[14]

Atgenhedlu a chylch bywyd[golygu | golygu cod]

Mae'r yn atgenhedlu'n rhywiol ac mae ffrwythloni yn digwydd yn fewnol ond yn anuniongyrchol, mewn geiriau eraill nid yw'r sberm yn cael ei fewnosod i gorff y fenyw gan organau cenhedlu'r gwryw ond drwy ddull canolradd. Yn wahanol i lawer o arthropodau sy'n byw ar y tir,[21] nid yw pryfed cop gwrywaidd yn cynhyrchu sbermatoffor parod (pecynnau o sberm), ond yn troelli gweoedd sberm bach y maent yn alldaflu arnynt ac yna'n trosglwyddo'r sberm i strwythurau arbennig, organau palpal, a gludir ar flaenau pedipalpau'r gwrywod. Pan fydd gwryw yn synhwyro fod y fenyw gerllaw mae'n gwirio a yw hi o'r un rhywogaeth ac a yw'n barod i baru; er enghraifft mewn rhywogaethau sy'n cynhyrchu gweoedd ar ffurf "rhaffau diogelwch", gall y gwryw adnabod yr un rhywogaeth a rhyw'r corryn trwy "arogl".[14]

Yn gyffredinol, mae corrod yn defnyddio defodau caru cywrain i atal y benywod mawr rhag bwyta'r gwrywod bach cyn ffrwythloni, ac eithrio lle mae'r gwryw gymaint yn llai fel nad yw'n werth ei fwyta. Ceir gan y gwe-wehydduwyr barymau manwl o ddirgryniadau ar y gwe pry cop, sy'n rhan fawr o'r defodau, tra bod patrymau cyffyrddiadau ar gorff y fenyw yn bwysig gan gorrod sy'n hela, a gallant hypnoteiddio'r fenyw. Ymhlith yr amrywiadau eraill mae ystumiau a dawnsiau'r gwryw gan y corrod sydd â golwg da. Os bydd y defodau caru'n llwyddiannus, yna mae'r gwryw yn chwistrellu ei sberm o'r bylbiau palpal i'r fenyw trwy un neu ddau agoriad ar ochr isaf ei habdomen.[14]

Myrmarachne - y dynwaredwr morgrug

Esblygiad[golygu | golygu cod]

Cofnod ffosil[golygu | golygu cod]

Corryn wedi'i gadw mewn ambr

Er bod y cofnod ffosil o'r corryn yn brin,[22] mae bron i 1000 o rywogaethau wedi'u disgrifio o ffosilau.[23] Oherwydd bod cyrffy corryn yn eithaf meddal, mae mwyafrif helaeth y corrod ffosil stdd wedi goroesi wedi'u cadw mewn ambr.[23] Mae'r ambr hynaf y gwyddys amdano sy'n cynnwys arthropodau ffosil yn dyddio o 130 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP) yn y cyfnod Cretasaidd Cynnar. Yn ogystal â chadw anatomeg y corrod hyn yn fanwl iawn, mae ambr hefyd wedi piclo pryfed cop yn paru, yn lladd ysglyfaeth, yn cynhyrchu sidan ac o bosibl yn gofalu am eu cywion. Mewn rhai achosion, mae ambr wedi cadw sachau wyau pryfed cop a gwe, weithiau gydag ysglyfaeth yndynt;[24] y gwe ffosil hynaf a ddarganfuwyd hyd yn hyn yw gwe 100 miliwn CP.[25] Daw ffosiliau pry cop cynharach o ychydig o leoedd lle roedd amodau'n arbennig o addas ar gyfer cadw meinweoedd gweddol feddal.[24]

Mae'r prif grwpiau o gorrod modern, y Mygalomorffiaid a'r Araneomorffiaid, yn ymddangos gyntaf yn y Triasig ymhell cyn 200 miliwn CP. Mae'n ymddangos bod rhai mygalomorffiaid Triasig yn aelodau o'r teulu Hecsathelidae, ac mae eu troellwyr yn ymddangos wedi'u haddasu ar gyfer adeiladu gweoedd siâp twndis (twmffat) i ddal pryfed neidio. Araneomorffae, y mwyafrif helaeth o gorrod modern, gan gynnwys y rhai sy'n gwehyddu'r gweoedd siâp adnabyddus, cyfarwydd. Mae'r cyfnodau Jwrasig a Cretasaidd yn darparu nifer fawr o gorrod ffosil, gan gynnwys cynrychiolwyr llawer o deuluoedd modern.[26]

Tacsonomeg[golygu | golygu cod]

Rhennir corrod yn ddwy is-drefn, Mesothelae ac Opisthothelae, y mae'r olaf yn cynnwys dwy is-drefn, Mygalomorphae ac Araneomorphae. Cofnodwyd dros 48,000 o rywogaethau byw o gorrod (Araneae) ac yn 2019 roeddent wedi'u grwpio i 120 o deuluoedd a thua 4,100 o genera gan arachnolegwyr.[5]

Pobl[golygu | golygu cod]

Brathiadau[golygu | golygu cod]

Er bod llawer o bobl yn ofni corrod, dim ond ychydig o rywogaethau sy'n beryglus i bobl.[27] Dim ond er mwyn hunanamddiffyn y byddant yn brathu bodau dynol, ac ychydig iawn sy'n cynhyrchu effeithiau gwaeth na brathiad mosgito neu bigiad gwenyn meirch.[28] Byddai'n well gan y rhan fwyaf o'r rhai â brathiadau meddygol difrifol, megis y corryn recluse (o'r genws Loxosceles) a chorrod gweddw (genws Latrodectus), ffoi a brathu dim ond pan fyddant yn gaeth, er y gall hyn godi'n hawdd ar ddamwain.[29][30] Mae tactegau amddiffynnol pryfed cop gwe twndis Awstralia (teulu Atracidae) yn cynnwys arddangos eu ffangs. Mae eu gwenwyn, er mai anaml y maent yn chwistrellu llawer, wedi arwain at 13 o farwolaethau dynol priodol dros 50 mlynedd.[31] Maent wedi cael eu hystyried yn bryfed cop mwyaf peryglus y byd ar sail glinigol y gwenwyn,[27] er bod yr honiad hwn hefyd wedi'i briodoli i'r pry cop crwydro Brasil (genws Phoneutria).[32]

Cafwyd adroddiadau dibynadwy am tua 100 o farwolaethau oherwydd brathiadau pry cop yn yr 20g,[33] o gymharu â thua 1,500 o bigiadau angheuol gan slefrod môr.[34] Gall llawer o achosion honedig o frathiadau pry cop gynrychioli diagnosis anghywir,[35] a fyddai'n ei gwneud yn anoddach gwirio effeithiolrwydd triniaethau ar gyfer brathiadau gwirioneddol.[36] Roedd adolygiad a gyhoeddwyd yn 2016 yn cytuno â’r casgliad hwn, gan ddangos nad oedd 78% o 134 o astudiaethau achos meddygol o frathiadau pry cop tybiedig yn bodloni’r meini prawf angenrheidiol ar gyfer gwirio brathiad pry cop. Yn achos y ddau genera â’r nifer uchaf o frathiadau, Loxosceles a Latrodectus, ni chafodd brathiadau corryn eu dilysu mewn dros 90% o’r adroddiadau. Hyd yn oed ar ôl dilysu, roedd manylion y driniaeth a'i heffeithiau yn aml yn brin.[37]

Gan fod sidan (neu we) ypry cop yn ysgafn ac yn gryf iawn, ceir ymdrechion i'w gynhyrchu mewn llaeth gafr ac mewn dail planhigion, trwy beirianneg genetig.[38][39]

Mae arachnoffobia yn ffobia penodol - yr ofn annormal o bryfed cop neu unrhyw beth sy'n atgoffa rhywun o bryfed cop, fel gwe neu siapiau tebyg i bryfed cop. Dyma un o'r ffobiâu penodol mwyaf cyffredin,[40][41] ac mae rhai ystadegau'n dangos bod 50% o fenywod a 10% o ddynion yn dangos symptomau.[42] Gall fod yn ffurf chwyddiedig o ymateb greddfol a helpodd fodau dynol cynnar i oroesi,[43] neu ffenomen ddiwylliannol sydd fwyaf cyffredin mewn cymdeithasau Ewropeaidd yn bennaf. Neu'r ddau![44]

Fel bwyd[golygu | golygu cod]

Mae tarantwla wedi'i goginio'n cael ei ystyried yn ddanteithfwyd yn Cambodia.

Defnyddir pryfed cop fel bwyd.[45] Ystyrir tarantwla wedi'i goginio'n ddanteithfwyd yn Cambodia,[46] a chan Indiaid Piaroa yn ne Venezuela – ar yr amod bod y blew hynod llidus, prif system amddiffyn y pryfed cop, yn cael eu dynnu'n gyntaf.[47]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cushing P.E. (2008) Spiders (Arachnida: Araneae).
  2. Selden, P.A.; Shear, W.A. (December 2008). "Fossil evidence for the origin of spider spinnerets". PNAS 105 (52): 20781–85. Bibcode 2008PNAS..10520781S. doi:10.1073/pnas.0809174106. PMC 2634869. PMID 19104044. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2634869.
  3. Sebastin, P.A. & Peter, K.V. (eds.) (2009).
  4. Dimitrov, Dimitar; Hormiga, Gustavo (7 January 2021). "Spider Diversification Through Space and Time". Annual Review of Entomology 66 (1): 225–241. doi:10.1146/annurev-ento-061520-083414. ISSN 0066-4170. https://doi.org/10.1146/annurev-ento-061520-083414. Adalwyd 10 December 2021.
  5. 5.0 5.1 "Currently valid spider genera and species". World Spider Catalog. Natural History Museum Bern. Retrieved 2019-07-17.
  6. Foelix, Rainer F. (1996). Biology of Spiders. New York: Oxford University Press. t. 3. ISBN 978-0-19-509593-7.
  7. Shultz, Stanley; Shultz, Marguerite (2009). The Tarantula Keeper's Guide. Hauppauge, New York: Barron's. t. 23. ISBN 978-0-7641-3885-0.
  8. Meehan, Christopher J.; Olson, Eric J.; Reudink, Matthew W.; Kyser, T. Kurt; Curry, Robert L. (2009). "Herbivory in a spider through exploitation of an ant–plant mutualism". Current Biology 19 (19): R892–93. doi:10.1016/j.cub.2009.08.049. PMID 19825348.
  9. Nyffeler, Martin; Birkhofer, Klaus (14 March 2017). "An estimated 400–800 million tons of prey are annually killed by the global spider community". The Science of Nature 104 (30): 30. Bibcode 2017SciNa.104...30N. doi:10.1007/s00114-017-1440-1. PMC 5348567. PMID 28289774. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5348567.
  10. "Spider | Origin and meaning of spider by Online Etymology Dictionary".
  11. "Evolution of insect flight". Malcolm W. Browne. 25 October 1994. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 February 2007. Cyrchwyd 6 May 2009.
  12. 12.0 12.1 12.2 Ruppert, Fox & Barnes 2004
  13. 13.0 13.1 Ruppert, Fox & Barnes 2004
  14. 14.00 14.01 14.02 14.03 14.04 14.05 14.06 14.07 14.08 14.09 14.10 14.11 14.12 14.13 14.14 Ruppert, Fox & Barnes 2004 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "RuppertFoxBarnes2004Spiders" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  15. Ruppert, Fox & Barnes 2004, tt. 527–28
  16. "Spiders-Arañas – Dr. Sam Thelin". Drsamchapala.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-21. Cyrchwyd 31 October 2017.
  17. 17.0 17.1 Ruppert, Fox & Barnes 2004, tt. 532–37
  18. Ruppert, Fox & Barnes 2004, tt. 578–80
  19. Harland, D.P.; Jackson, R.R. (2000). ""Eight-legged cats" and how they see – a review of recent research on jumping spiders (Araneae: Salticidae)". Cimbebasia 16: 231–40. http://www.cogs.susx.ac.uk/ccnr/Papers/Downloads/Harland_Cimb2000.pdf. Adalwyd 2008-10-11.
  20. Vollrath, F.; Knight, D.P. (2001). "Liquid crystalline spinning of spider silk". Nature 410 (6828): 541–48. Bibcode 2001Natur.410..541V. doi:10.1038/35069000. PMID 11279484.
  21. Ruppert, Fox & Barnes 2004, tt. 537–39
  22. Selden, P.A.; Anderson, H.M.; Anderson, J.M. (2009). "A review of the fossil record of spiders (Araneae) with special reference to Africa, and description of a new specimen from the Triassic Molteno Formation of South Africa". African Invertebrates 50 (1): 105–16. doi:10.5733/afin.050.0103.
  23. 23.0 23.1 Dunlop, Jason A.; David Penney; O. Erik Tetlie; Lyall I. Anderson (2008). "How many species of fossil arachnids are there?". The Journal of Arachnology 36 (2): 267–72. doi:10.1636/CH07-89.1. https://www.biodiversitylibrary.org/part/229074.
  24. 24.0 24.1 Penney, D.; Selden, P.A. (2007). "Spinning with the dinosaurs: the fossil record of spiders". Geology Today 23 (6): 231–37. doi:10.1111/j.1365-2451.2007.00641.x.
  25. Hecht, H. "Oldest spider web found in amber". New Scientist. Cyrchwyd 2008-10-15.
  26. Vollrath, F.; Selden, P.A. (2007). "The Role of Behavior in the Evolution of Spiders, Silks, and Webs". Annual Review of Ecology, Evolution, and Systematics 38: 819–46. doi:10.1146/annurev.ecolsys.37.091305.110221. http://homepage.mac.com/paulselden/Sites/Website/ARES.pdf.
  27. 27.0 27.1 Vetter, Richard S.; Isbister, Geoffrey K. (2008). "Medical Aspects of Spider Bites". Annual Review of Entomology 53: 409–29. doi:10.1146/annurev.ento.53.103106.093503. PMID 17877450.
  28. "Spiders". Illinois Department of Public Health. Cyrchwyd 2008-10-11.
  29. "An infestation of 2,055 brown recluse spiders (Araneae: Sicariidae) and no envenomations in a Kansas home: implications for bite diagnoses in nonendemic areas". Journal of Medical Entomology 39 (6): 948–51. 2002. doi:10.1603/0022-2585-39.6.948. PMID 12495200.
  30. Hannum, C.; Miller, D.M. "Widow Spiders". Department of Entomology, Virginia Tech. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-18. Cyrchwyd 2008-10-11.
  31. "Funnel web spiders". Australian Venom Research Unit. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-09. Cyrchwyd 2008-10-11.
  32. "Pub chef bitten by deadly spider". BBC. 2005-04-27. Cyrchwyd 2008-10-11.
  33. Diaz, J.H. (August 1, 2004). "The Global Epidemiology, Syndromic Classification, Management, and Prevention of Spider Bites". American Journal of Tropical Medicine and Hygiene 71 (2): 239–50. doi:10.4269/ajtmh.2004.71.2.0700239. PMID 15306718. http://www.ajtmh.org/cgi/content/abstract/71/2/239.
  34. Williamson, J.A.; Fenner, P.J.; Burnett, J.W.; Rifkin, J. (1996). Venomous and Poisonous Marine Animals: A Medical and Biological Handbook. UNSW Press. tt. 65–68. ISBN 978-0-86840-279-6.
  35. Nishioka, S. de A. (2001). "Misdiagnosis of brown recluse spider bite". Western Journal of Medicine 174 (4): 240. doi:10.1136/ewjm.174.4.240. PMC 1071344. PMID 11290673. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1071344.
  36. Isbister, G.K. (2001). "Spider mythology across the world". Western Journal of Medicine 175 (4): 86–87. doi:10.1136/ewjm.175.2.86. PMC 1071491. PMID 11483545. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1071491.
  37. Stuber, Marielle; Nentwig, Wolfgang (2016). "How informative are case studies of spider bites in the medical literature?". Toxicon 114: 40–44. doi:10.1016/j.toxicon.2016.02.023. PMID 26923161.
  38. Hinman, M.B.; Jones J.A.; Lewis, R. W. (2000). "Synthetic spider silk: a modular fiber". Trends in Biotechnology 18 (9): 374–79. doi:10.1016/S0167-7799(00)01481-5. PMID 10942961. http://www.tech.plym.ac.uk/sme/FailureCases/Natural_Structures/Synthetic_spider_silk.pdf. Adalwyd 2008-10-19.
  39. Menassa, R.; Zhu, H.; Karatzas, C.N.; Lazaris, A.; Richman, A.; Brandle, J. (2004). "Spider dragline silk proteins in transgenic tobacco leaves: accumulation and field production". Plant Biotechnology Journal 2 (5): 431–38. doi:10.1111/j.1467-7652.2004.00087.x. PMID 17168889.
  40. "A Common Phobia". phobias-help.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-02. Cyrchwyd 2009-08-02. There are many common phobias, but surprisingly, the most common phobia is arachnophobia.
  41. Fritscher, Lisa (2009-06-03). "Spider Fears or Arachnophobia". Phobias. About.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-02. Cyrchwyd 2009-08-02. Arachnophobia, or fear of spiders, is one of the most common specific phobias.
  42. "The 10 Most Common Phobias – Did You Know?". 10 Most Common Phobias. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-02. Cyrchwyd 2009-08-02. Probably the most recognized of the 10 most common phobias, arachnophobia is the fear of spiders. The statistics clearly show that more than 50% of women and 10% of men show signs of this leader on the 10 most common phobias list.
  43. Friedenberg, J.; Silverman, G. (2005). Cognitive Science: An Introduction to the Study of Mind. Sage. tt. 244–45. ISBN 978-1-4129-2568-6.
  44. Davey, G.C.L. (1994). "The "Disgusting" Spider: The Role of Disease and Illness in the Perpetuation of Fear of Spiders". Society and Animals 2 (1): 17–25. doi:10.1163/156853094X00045.
  45. Costa-Neto, E.M.; Grabowski, N.T. (2020-11-27). "Edible arachnids and myriapods worldwide – updated list, nutritional profile and food hygiene implications" (yn en). Journal of Insects as Food and Feed 7 (3): 261–279. doi:10.3920/JIFF2020.0046. ISSN 2352-4588. https://www.wageningenacademic.com/doi/10.3920/JIFF2020.0046.
  46. Ray, N. (2002). Lonely Planet Cambodia. Lonely Planet Publications. t. 308. ISBN 978-1-74059-111-9.
  47. Weil, C. (2006). Fierce Food. Plume. ISBN 978-0-452-28700-6.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: