Neidio i'r cynnwys

Protest Pont Trefechan 1963

Oddi ar Wicipedia
Protest Pont Trefechan 1963
Enghraifft o:protest Edit this on Wikidata
DyddiadChwefror 1963 Edit this on Wikidata
LleoliadPont Trefechan Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Protest dorfol gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd Protest Pont Trefechan, y mae ganddi le pwysig yn hanes yr ymgyrch i ennill statws i'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Ar 2 Chwefror 1963 ataliwyd y traffig ar Bont Trefechan, Aberystwyth, Ceredigion, gan fyfyrwyr o golegau Aberystwyth a Bangor yn bennaf. Digwyddodd hyn flwyddyn ar ôl i ddarlith Tynged yr Iaith Saunders Lewis gael ei darlledu gan y BBC ar 13 Chwefror 1962.

Ymgasglodd y protestwyr gyda'r bwriad o blastro Swyddfa Bost Aberystwyth gyda phosteri gan feddwl y byddai'r heddlu yn rhoi gwŷs iddynt a hwythau wedyn yn mynnu cael gwŷs Gymraeg. Ond anwybyddodd yr heddlu eu gweithredoedd. Er mawr siom i'r protestwyr, penderfynon nhw roi'r gorau iddi gan gasglu yn yr Home Café i drafod beth i'w wneud nesaf. Awgrymwyd y byddai atal y traffic ar y briffordd dros Bont Trefechan, y mynediad deheuol i'r dref, yn ddewis arall effeithiol i'r cynllun gwreiddiol. Ac felly y digwyddodd. Unwaith eto gwrthododd yr heddlu ymyrryd. Er bod llawer o'r protestwyr yn siomedig na wnaethant lwyddo yn eu nod o gael eu harestio, serch hynny cafodd y digwyddiad lawer iawn o gyhoeddusrwydd yn y wasg.[1]

Rhestr o'r protestwyr

[golygu | golygu cod]
  • Guto ap Gwent, cyfreithiwr o Abertawe[2][3][4]
  • Huw Carrod
  • Peter Cross
  • Menna Dafydd
  • Anna Daniel
  • Enid Davies, priod Robat Gruffudd yn ddiweddarach
  • Megan Kitchener Davies, sefydlydd Siop y Pethe (gyda'i gŵr Gwilym Tudur)
  • Geraint Eckley
  • Rodric Evans
  • Catrin Gapper
  • Gareth Gregory
  • Robat Gruffudd, sefydlydd Gwasg Y Lolfa
  • Ann Eirwen Gruffydd
  • Aled Gwyn, un o fois Parc Nest, gweinidog, cyflwynydd ar Radio Cymru.
  • Joy Harries, o Bontyberem, athrawes Gymraeg yn Ysgol Cwm Gwendraeth ac Ysgol Maes yr Yrfa
  • Edgar Humphreys
  • Rachael James, o Sir Benfro, cyfreithwraig
  • Neil Jenkins
  • Eurion John, o Lanelli, masnachwr
  • Hafwen John, o Sir Benfro yn wreiddiol, athrawes Gymraeg yn Ysgol Y Berwyn, Y Bala
  • Morwen John
  • Angharad Jones
  • Ann Eleri Jones
  • Anne Morries Jones
  • Beti Jones, priod Tegwyn Jones yn ddiweddarach
  • Eric Jones
  • Geraint Jones (Twm)
  • Gwyneth Jones
  • John Clifford Jones
  • Llinos Jones, bellach yn briod â Cynog Dafis cyn Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad
  • Penri Jones
  • Tegwyn Jones
  • Tomos Prys Jones
  • Peter Meazey, sefydlydd Siop y Triban, Wyndham Arcade, Caerdydd, tua 1970
  • Ruth Meredith, priod Meic Stephens yn ddiweddarach
  • Giovanni Miseroti
  • Mair Owen
  • Rhiannon Price
  • Dennis Roberts
  • Gareth Roberts, o Dreffynnon, Cynghorydd Sir y Fflint (Plaid Cymru)
  • Rhiannon Silyn Roberts
  • Meic Stephens, llenor, golygydd swyddog Cyngor y Celfyddydau ac athro prifysgol
  • Tegwen Roberts
  • Gwyneth Rhys
  • Dyfrig Thomas, sefydlydd Siop y Werin (Llanelli) 1970 a pherchenog Siop Tŷ Tawe, Abertawe 1988
  • Gwilym Tudur, sefydlydd Siop y Pethe, Aberystwyth (gyda'i wraig Megan Kitchener Davies)
  • Elenid Williams
  • Gwyneth Wiliam
  • Gruffydd Aled Williams, pennaeth Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth
  • Menna Williams

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Atgofion protestwyr Pont Trefechan 50 mlynedd yn ddiweddarach", BBC Cymru Fyw, 3 Chwefror 2013; adalwyd 4 Chwefror 2025
  2. Meic Stephens, Cofnodion (Y Lolfa, 2012), t.76
  3. Y Faner Newydd
  4. Manylion personol gan Dyfrig Thomas am y bobl yn y brotest. Adnabyddiaeth bersonol.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]