Prosopograffeg

Oddi ar Wicipedia

Dull ym maes hanesyddiaeth sydd yn astudio disgrifiadau o olwg, personoliaethau, a gyrfaoedd grŵp o unigolion er mwyn llunio bywgraffiad cydlynol ohonynt yw prosopograffeg.[1] Nod y fath ymchwil yw i ganfod patrymau mewn perthnasau a gweithgareddau cymeriadau hanesyddol drwy ymdrin â gwybodaeth am sawl unigolyn ar yr un pryd. Fel arfer bydd y manylion perthnasol yn dod o gofnodion, dogfennau swyddogol, croniclau, achrestri ac ati. Mae prosopograffeg yn dechneg ddefnyddiol wrth astudio cymdeithasau'r Henfyd neu gyfnodau mewn hanes a chanddynt brinder o ffynonellau cynradd sydd yn goroesi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, "prosopography".
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.