Prosiect Enwau Lleoedd Gogledd Iwerddon
Gwedd
| Enghraifft o: | prosiect |
|---|---|
| Rhan o | Prifysgol y Frenhines, Belffast |
| Dechrau/Sefydlu | 1987 |
| Pencadlys | Belffast |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig, Gogledd Iwerddon |
| Rhanbarth | Belffast |
| Gwefan | https://placenamesni.org/ |
| Dynodwyr | |
Prosiect ymchwil sy'n canolbwyntio ar enwau lleoedd yng Ngogledd Iwerddon, yw Prosiect Enwau Lleoedd Gogledd Iwerddon (Saesneg: Northern Ireland Place-Name Project; Gwyddeleg: Tionscadal Logainmneacha Thuaisceart Éireann). Fe'i lleolir ym Mhrifysgol y Frenhines, Belffast. Sefydlwyd y prosiect ym 1987 pan ddarparodd Adran yr Amgylchedd (Gogledd Iwerddon) gyllid i Adran Astudiaethau Gwyddelig a Cheltaidd y brifysgol. Rhwng 1992 a 2004, cyhoeddwyd canlyniadau'r ymchwil mewn wyth cyfrol.[1] Erbyn heddiw, mae cronfa ddata'r prosiect, sy'n cynnwys gwybodaeth am dros 30,000 o enwau lleoedd, ar gael ar wefan.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Place-names of Northern Ireland, 8 cyf. (Belffast:Prifysgol y Frenhines, Belffast, 1992–2004)