Neidio i'r cynnwys

Pris y Farchnad

Oddi ar Wicipedia
Pris y Farchnad
Enghraifft o:cyfres ddrama deledu Gymraeg
AwdurWil Roberts
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg
Cysylltir gydaDavid Lyn a Tim Lyn
Dechreuwyd1990 Edit this on Wikidata
LleoliadSir Gaerfyrddin
Cyfarwyddwr/wyrDavid Lyn Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cyfres ddrama deledu Gymraeg a ddarlledwyd ar S4C yn y 1990au oedd Pris y Farchnad. Ysgrifennwyd y gyfres gan Wil Roberts, a Ffilmiau Penadur oedd yn gyfrifol am ei chynhyrchu. Roedd y gyfres wedi'i lleoli yn Sir Gaerfyrddin ac yn ymwneud â theulu a busnes arwerthu "John Aston-Davies".[1] Cafwyd sawl cyfres rhwng 1992 a 1997 ac enwebwyd y gyfres am sawl Gwobr BAFTA Cymru.[2] Ymysg actorion a fu yn y gyfres roedd David Lyn, Sharon Morgan, Richard Lynch, Wyn Bowen Harries, Christine Pritchard, Catherine Tregenna ac Eluned Jones a enillodd Wobr yr actores orau gan BAFTA Cymru ym 1994, am ei phortread o "Enid Protheroe".[3] David Lyn oedd hefyd yn cyfarwyddo'r cyfresi cynnar, cyn i'w fab Tim Lyn ei gynorthwyo.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]

Actorion eraill fu yn y gyfres : Janet Aethwy, Christine Pritchard,

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]

Ray Orton oedd yng ngofal y gwaith camera, Dwynwen Berry fel golygydd y sgript a Catrin Edwards yng ngofal y Gerddoriaeth.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Pris y Farchnad. S4C. 1992.
  2. "Screenwriter: Welsh". Bafta (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-26.
  3. "Actress". Bafta (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-26.