Prifysgol Ynysoedd Ffaro
| Math | prifysgol gyhoeddus |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Tórshavn |
| Sir | Bwrdeistref Tórshavn |
| Gwlad | Ynysoedd Ffaro |
| Cyfesurynnau | 62.01°N 6.78°W |
![]() | |
Mae Prifysgol Ynysoedd Ffaro (Ffaröeg: Fróðskaparsetur Føroya) yn brifysgol wladwriaethol ar gyfer Ynysoedd Ffaro a leolir yn y brifddinas, Tórshavn. Ffaröeg yw prif iaith weinyddol y brifysgol ac addysgir y myfyrwyr mewn Ffaröeg, Daneg a Saesneg.
Ni ddylir ei gymysgu gyda Choleg Trydoddol a Galwedigaethol newydd yr Ynysoedd, Coleg Glasir a agorwyd yn Awst 2018 sydd hefyd wedi lleoli yn y brifddinas.
Hanes
[golygu | golygu cod]
Mae hanes y brifysgol yn estyn nôl at Gymdeithas Wyddonol Ffaro (Føroya Fróðskaparfelag), a sefydlwyd ym 1952.[1] Prif amcan y Gymdeithas oedd i greu canolfan ar gyfer gwyddoniaeth ac ymchwil yn Ynysoedd Ffaro. Ar adeg sefydlu'r brifysgol dim ond un athro oedd: Christian Matras, a fu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Copenhagen.
Heblaw am y cyrsiau blynyddol i fyfyrwyr yn Ffaröeg a hanes naturiol, trefnodd y brifysgol ddarlithoedd cyhoeddus a dosbarthiadau nos yn yr iaith. Dechreuodd Prifysgol Ynysoedd Ffaro hefyd ymwneud â dysgu ac astudio llên gwerin a threftadaeth ddiwylliannol.
Mae'r brifysgol yn cynnig addysg ar lefel PhD, graddedigion ers 1996.
Cyfredol
[golygu | golygu cod]
Mae corff y myfyriwr yn fach, gyda bron i 1,000 o fyfyrwyr. Mae'r brifysgol yn trefnu cystadleuaeth traethawd hir yn agored i bob myfyriwr. Iaith addysgol y brifysgol yw Ffaröeg, gan ei gwneud yn yr unig brifysgol yn y byd i gynnal dosbarthiadau yn swyddogol yn yr iaith honno. Mae'r brifysgol yn cydweithio'n agos â Phrifysgol Copenhagen a Phrifysgol Gwlad yr Iâ ar gyfer prosiectau ymchwil ac mae'n aelod o UArctic (Prifysgol yr Artig).
Ceir pum cyfdran:[2]
- Cyfadran Iaith a Llenyddiaeth Ffaröeg
- Cyfadran Addysg
- Cyfadran Hanes a Gwyddorau Cymdeithasol
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Cyfadran Gwyddor Iechyd
Is-radd
[golygu | golygu cod]- BA Iaith a Llenyddiaeth
- BSc Hanes
- BSc Dadansoddi a Chynllunio Cymdeithasol
- BSc Gwleidyddiaeth a Gweinyddiaeh (gwyddor gweleidyddiaeth)
- Bagloriaeth Addysg mewn Addysg gyda Thystysgrif Ysgol Cynraedd ac Uwchradd
- Bagloriaeth Addysg mewn Addysg Gymdeithasol gyda Thystygrif Gwyddor Addysg
- BSc Nyrsio
- BSc Peirianyddu Meddalwedd
- BSc Bioleg
- BSc Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol
- BA Y Gyfraith
Ôl Radd
[golygu | golygu cod]- MA y Iaith a Llên Ffaröeg
- Meistr yn y Gyfraith
- Gradd Meistr mewn cyd-weithrediad gyda Phrifysgol yr Ynys Las, Prifysgol Akureyri (Gwlad yr Iâ), Prifysgol Gwlad yr Iâ a Phrifysgol Nordland.
- MA/MSc Astudiaethau Gorllewin Nordic, Llywodraethiant a Rheolaeth Hunangynhaliol
Yn 2018 roedd 1,000 o fyfyrwyr, 144 o staff academaidd a gweinyddol a 24 gradd ar gael.
Gwasg Prifysgol Ffaro
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Gwasg Prifysgol Faro - Fróðskapur - yn 2005.[3] Mae'n cyhoeddi gwaith o bob maes gwyddonol yn Ynysoedd Ffaro. Mae'r cyhoeddiadau yn Ffaröeg, Saesneg a Daneg. Mae Wasg yn parhau â thraddodiad cyhoeddi Cymdeithas Gwyddoniaeth a Llythyrau Ffaroaidd o gyfnod 1952-2005. Mae'r Wasg yn eiddo i Brifysgol Ynysoedd Ffaro a Chymdeithas Gwyddoniaeth a Llythyrau Ffaroaidd.
Mae tair cyfres o gyhoeddiadau:
- Annales Societatis Scientiarum Faeroensis - Supplementa. Mae'r gyfres hon yn cynnwys traethawd ymchwil doethurol a chyhoeddiadau eraill sy'n cael eu hadolygu gan arbenigwyr - cyhoeddwyd 59 o lyfrau yn y gyfres hon ers 1952
- Fróðskaparrit - adolygiad blynyddol gydag erthyglau yn Saesneg yn bennaf ym maes gwyddorau naturiol, yn Ffaroeg neu Daneg ym maes y dyniaethau. Mae 60 rhifyn wedi'u cyhoeddi ers 1952
- Cyhoeddiadau eraill - adroddiadau cynhadledd, festschrifts a chyhoeddiadau gwyddonol eraill
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The University: History", Gwefan Fróðskaparsetur Føroya; adalwyd 16 Ionawr 2026
- ↑ "The University: Faculties", Gwefan Fróðskaparsetur Føroya; adalwyd 16 Ionawr 2026
- ↑ "The University: Faroe University Press", Gwefan Fróðskaparsetur Føroya; adalwyd 16 Ionawr 2026
