Prifysgol Twente

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Prifysgol Twente
Universiteit Twente
Staff 3,150 (2019)
Myfyrwyr 11,136 (2019)[1]
Lleoliad Enschede, Yr Iseldiroedd
Cyn-enwau Technische Hogeschool Twente
University of Twente logo - english version.png
Gwefan www.utwente.nl/en

Prifysgol Twente (Iseldireg: Universiteit Twente, abbr. UT) yw brifysgol dechnegol ymchwil gyhoeddus wedi'i lleoli yn Enschede, yr Iseldiroedd.

Mae Prifysgol Twente yn cydweithredu â Phrifysgol Technoleg Delft, Prifysgol Technoleg Eindhoven a Phrifysgol a Chanolfan Ymchwil Wageningen o dan ymbarél 4TU, ac mae hefyd yn bartner yng Nghonsortiwm Prifysgolion Arloesol Ewrop (ECIU).

Cafodd y brifysgol wedi ei gosod o fewn y 500 prifysgol orau yn y byd gan bum prif dabl graddio. Daeth y brifysgol yn 65ain yn rhestr Reuters o'r Prifysgolion Mwyaf Arloesol Ewropeaidd 2017, a daeth 184fed ledled y byd yn 2019 yn ôl cylchgrawn y Times Higher Education.[2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mynedfa Prifysgol Twente

Sefydlwyd y brifysgol ym 1961 fel Technische Hogeschool Twente neu THT. Ar ôl Prifysgol Technoleg Delft a Phrifysgol Technoleg Eindhoven, hi oedd y trydydd sefydliad polytechnig yn yr Iseldiroedd i ddod yn Brifysgol. Ym 1986 ailenwyd y sefydliad yr Universiteit Twente (Prifysgol Twente), o ganlyniad i'r newidiadau yn Neddf Addysg Academaidd yr Iseldiroedd ym 1984.

Un o brif resymau llywodraeth yr Iseldiroedd i leoli trydedd brifysgol dechnegol y wlad yn Enschede, prif ddinas y rhanbarth Twente, oedd oherwydd y diwydiant gweithgynhyrchu cyfoethog yn y rhanbarth (tecstilau, metel, peirianneg drydanol, cemegau). Ystyriaeth bwysig arall oedd y ffaith bod angen hwb ar yr economi leol i wneud iawn am y diwydiant tecstilau oedd yn prinhau; a bod Enschede wedi sicrhau bod yr ystâd Drienerlo ar gael ar gyfer Prifysgol campws gyntaf yr Iseldiroedd.[3]

Campws[golygu | golygu cod y dudalen]

Twr Drienerlo ar y campws

Adeiladwyd Prifysgol Twente ar hen ystâd wledig Drienerlo, rhwng Hengelo ac Enschede. Mae'r ystâd 140 hectar yn cynnwys coetir, dolydd a dŵr. Dyluniodd y penseiri Van Tijen a Van Embden y brifysgol campws Iseldireg gyntaf - a hyd yn hyn yn unig - yn ôl y syniad Americanaidd lle mae myfyrwyr a staff yn byw, gweithio a treulio eu hamser hamdden ar y campws.[4] Mae Undeb y Myfyrwyr, sy'n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan fyfyrwyr, yn rheoli sawl adeilad, gan gynnwys y ganolfan gymdeithasol myfyrwyr yn Enschede.[5]

Cyfadrannau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan y brifysgol bum cyfadran, ac mae pob cyfadran yn ei dro wedi'i threfnu'n sawl adran:

  • Gwyddorau Ymddygiadol, Rheolaeth a Chymdeithasol (BMS) - yn cynnwys astudiaethau cyfathrebu, seicoleg, gweinyddiaeth gyhoeddus, gwyddoniaeth a thechnoleg addysg, astudiaethau Ewropeaidd, rheolaeth amgylchedd ac ynni, a rheolaeth risg.
  • Technoleg Peirianneg (ET) - yn cynnwys peirianneg fecanyddol, peirianneg sifil, peirianneg dylunio ddiwydiannol, a thechnoleg ynni cynaliadwy.
  • Peirianneg Drydanol, Mathemateg a Chyfrifiadureg (EEMCS) - yn cynnwys peirianneg drydanol, mathemateg gymhwysol, technoleg rhyngweithio, gwyddoniaeth a thechnoleg y rhyngrwyd, a gwyddoniaeth gyfrifiadurol.
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg (ST) - yn cynnwys peirianneg gemegol, ffiseg gymhwysol, peirianneg fiofeddygol, gwyddorau iechyd, technoleg uwch, a nanotechnoleg.
  • Cyfadran y Gwyddorau Geo-wybodaeth ac Arsylwad y Ddaear (ITC) - yn cynnwys peirianneg ofodol, cartograffeg, gwyddoniaeth geo-wybodaeth, ac arsylwad y Ddaear.

Ynghyd â'r rhaglenni a weinyddir gan y cyfadrannau uchod, mae Coleg Prifysgol Twente yn cynnig y rhaglen BSc anrhydedd eang mewn Technoleg a'r Celfyddydau a Gwyddorau Breiniol, neu ATLAS yn fyr, ac mae Ysgol Graddedigion Twente yn cynnig addysg ôl-raddedig (PhD a PDEng).[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Facts and Figures from 2010". Cyrchwyd 13 Awst 2019.
  2. Editorial, Reuters. "Top 100 European Innovative Universities Profile". U.S. (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Ionawr 2018.
  3. "History of the University of Twente". Archifwyd o y gwreiddiol ar 3 Chwefror 2014. Cyrchwyd 26 Ionawr 2014.
  4. "Life at the University | Campus Life | MSc University of Twente". Universiteit Twente. Cyrchwyd 14 Ionawr 2017.
  5. "The Student Union". Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2016.
  6. "University of Twente, Faculties". Cyrchwyd 22 Awst 2019.