Prifysgol Gwlad y Basg
Gwedd
| Arwyddair | Eman ta zabal zazu |
|---|---|
| Math | prifysgol, cyhoeddwr, cyhoeddwr mynediad agored |
| Enwyd ar ôl | Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 43.331406°N 2.970606°W |
![]() | |
Prifysgol Gwlad y Basg (Basgeg: Euskal Herriko Unibertsitatea; Sbaeneg: Universidad del País Vasco) yw'r unig brifysgol gyhoeddus yng nghymuned ymreolaethol Gwlad y Basg. Mae gan y brifysgol sawl campws ym mhob un o dair talaith y gymuned.
Crëwyd Prifysgol Gwlad y Basg yn 1980, pan newidiodd Prifysgol Bilbao ei henw. Yn nhalaith Bizkaia, mae campws yn Portugalete, Lejona-Erandio, Bilbo a Barakaldo; yn nhalaith Guipúzcoa yn Donostia (San Sebastián) ac Éibar, ac yn nhalaith Araba yn Vitoria-Gasteiz. Roedd 50.869 o fyfyrwyr yn y flwyddyn academaidd 2005-06.
Gellir astudio 43% o gyrsiau'r brifysgol trwy gyfrwng yr iaith Fasgeg.

