Prifysgol Gatholig Louvain (1835–1968)

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol Gatholig Louvain
MathCatholic university Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 8 Tachwedd 1834 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLeuven Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Belg Gwlad Belg
Cyfesurynnau50.87786°N 4.70064°E Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganPab Grigor XVI Edit this on Wikidata

Prifysgol Gatholig hanesyddol yn Leuven, Gwlad Belg, oedd Prifysgol Gatholig Louvain neu Brifysgol Gatholig Leuven. Rhannodd y brifysgol yn ddwy ym 1968 ar sail iaith, a bellach lleolir y sefydliad Fflemeg (Katholieke Universiteit te Leuven) yn Leuven a'r brifysgol Ffrangeg (Université catholique de Louvain) yn Louvain-la-Neuve.

Sefydlwyd yr hen brifysgol ym 1425 gan y Pab Martin V ar gais Jean IV, Dug Brabant. Seiliwyd ei gyfansoddiad ar Brifysgol Paris. Sefydlwyd ei Goleg Teirieithog ym 1517, er astudiaeth Groeg, Lladin, a Hebraeg. Roedd y brifysgol yn ganolfan i ysgolheigion y Gwrth-Ddiwygiad yn ystod yr 16g.

Ym 1797 cafodd ei darostwng dan agenda wrth-grefyddol y Chwyldro Ffrengig. Ail-sefydlwyd y brifysgol ym 1835 gan esgobaeth Gwlad Belg, fel athrofa Babyddol ei ffydd a Ffrangeg ei hiaith.

Llosgwydd y llyfrgell gan yr Almaenwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dechreuodd y brifysgol addysgu gyrsiau drwy gyfrwng y Fflemeg yn y 1930au. Yn sgil protestiadau ac ymgyrchoedd ym 1968, cafodd y brifysgol ei haildrefnu'n adran Fflemeg ac adran Ffrangeg. Derbyniodd y ddwy adran statws ar wahân ym 1970, a chodwyd safle newydd i'r brifysgol Ffrangeg yn Louvain-la-Neuve, tua 24 km i dde Leuven.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Catholic University of Leuven. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ebrill 2018.