Pennaeth (ysgol)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Prifathro (ysgol))
Jump to navigation Jump to search

Arweinydd ysgol ydy'r Pennaeth, Prifathro neu Brifathrawes, sydd erbyn heddiw yn gyfrifol am sawl agwedd ar reolaeth y sefydliad, yn cynnwys materion cyllidol. Caiff ei benodi gan Gorff Llywodraethol yr ysgol ac yn gyfrifol am reoli'r ysgol ar eu rhan. Tan yr 1980au y gair a ddefnyddiwyd oedd "prifathro" ar ddyn a "phrifathrawes" ar ddynes. Caiff ei gyflogi i baratoi dogfennau, polisiau, prospectws a llythyrau rhieni ond yn bennaf er mwyn sicrhau fod anghenion addysgol y disgyblion yn cael eu cwrdd.

Ceir pennaeth ar ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae rhai penaethiaid, yn enwedig ysgolion bach, yn dysgu yn ogystal a rheoli a bod yn gyfrifol am yr ochr fugeiliol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Nuvola apps bookcase.svg Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato