Neidio i'r cynnwys

Prif afonydd y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia

Dyma restr o brif afonydd y Deyrnas Unedig, yn bennaf ar sail eu hyd. Dylid cofio, serch hynny, nad oes fawr o gydsyniad ynghylch hyd afonydd, nac ychwaith yr hyn a olygir wrth "afon". Felly gellir cyfrif Afon Ure ac Afon Ouse fel un rhwydwaith afonydd neu ddwy afon ar wahân.

AfonHyd (milltir)Hyd (km)Gwlad
1Afon Hafren220354Cymru/Lloegr
2Afon Tafwys215346Lloegr
3Afon Trent185297Lloegr
4Afon Gwy155250Cymru/Lloegr
5Afon Great Ouse143230Lloegr
6Afon Ure/Afon Ouse (Swydd Efrog)129208Lloegr
7Afon Tay117188Yr Alban
8Afon Clud109176Yr Alban
9Afon Spey107172Yr Alban
10Afon Nene100161Lloegr
11Afon Bann / Lough Neagh99159Gogledd Iwerddon
12Afon Tuedd96155Yr Alban/Lloegr
13Afon Avon (Swydd Warwick)96154Lloegr
14Afon Eden (Cumbria)90145Lloegr
15Afon Dee (Swydd Aberdeen)87140Yr Alban
16Afon Witham82132Lloegr
17Afon Tefeidiad81130Cymru/Lloegr
18=Afon Don (Swydd Aberdeen)80129Yr Alban
18=Afon Foyle80129Gogledd Iwerddon/Iwerddon
20Afon Wysg78125Cymru
21Afon Teifi76122Cymru
22=Afon Tywi75121Cymru
22=Afon Ribble75120Lloegr
22=Afon Avon (Bryste)75120Lloegr
25=Afon Tyne73118Lloegr
25=Afon Swale73118Lloegr
27Afon Derwent (Swydd Efrog)72115Lloegr
28=Afon Aire71114Lloegr
28=Afon Nith71114Yr Alban
30=Afon Tees70113Lloegr
30=Afon Medway70113Lloegr
30=Afon Merswy70113Lloegr
33=Afon Dyfrdwy70112Cymru/Lloegr
33=Afon Don (Swydd Efrog)70112Lloegr

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]