Prif Weinidog Cymru
| Gwlad | Cymru |
|---|---|
| Rhan o | Cabinet Cymru, Llywodraeth Cymru |
| Dechrau/Sefydlu | 12 Mai 1999 |
| Rhagflaenwyd gan | Eluned Morgan |
| Lleoliad cyhoeddi | Senedd Cymru |
| Deiliad presennol | Rhun ap Iorwerth |
| Deiliaid a'u cyfnodau | |
| Aelod o'r canlynol | Plaid Cymru |
| Incwm | £148,575 |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Gwefan | http://wales.gov.uk/about/firstminister/?lang=en |
| Dynodwyr | |
Arweinydd Llywodraeth Cymru yw Prif Weinidog Cymru (Saesneg: First Minister for Wales). Fel rhan o broses datganoli, crëwyd y swydd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn wreiddiol dan y teitl Prif Ysgrifennydd Cymru (First Secretary for Wales), gan fod gan Gymru gynulliad ar y pryd oedd â llai o rymoedd na Gogledd Iwerddon a'r Alban. Hefyd, mae'r term Cymraeg Prif Weinidog yn gallu cyfieithu i'r Saesneg fel Prime Minister, gallai fod wedi achosi camddealltwriaeth â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Newidiwyd y teitl ar ôl ffurfio llywodraeth glymbleidiol rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Lafur yn y Cynulliad fis Hydref 2000. Yn ôl Mesur Seneddol Llywodraeth Cymru (2006) rhoddir caniatâd i ddefnyddio'r teitl Prif Weinidog yn swyddogol.
Prif Weinidog presennol Cymru yw Rhun ap Iorwerth, Plaid Cymru.
Apwyntiad swyddogol
[golygu | golygu cod]
Yn gyntaf, bydd aelodau newydd y Senedd yn cael eu cadarnhau ac yna bydd cyfarfod Senedd llawn. Rhaid i'r Senedd enwebu Aelod i'w benodi'n Brif Weinidog o fewn 28 diwrnod ar ôl etholiad y Senedd. Os oes mwy nag un enwebiad i fod yn Brif Weinidog, bydd aelodau'r Senedd yn pleidleisio er mwyn dewis arweinydd. Mae'n rhaid i'r enillydd gael mwy o bleidleisiau na chyfanswm y lleill. Os nad yw hyn yn digwydd, yna bydd yr enwebiad lleiaf poblogaidd yn cael ei dynnu o'r rhestr, a bydd y Senedd yn pleidleisio eto tan fod un yn fuddugol.[3]
| Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
|
Cymru o fewn y Deyrnas Unedig
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
|
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.gov.wales/rhun-ap-iorwerth-elected-first-minister-wales.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/news/articles/cq5dd7y9vqxo.
- ↑ "Sut mae Prif Weinidog Cymru yn cael ei enwebu?". senedd.cymru. Cyrchwyd 2026-03-29.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Llywodraeth Cymru | Cabinet a Gweinidogion Archifwyd 2010-12-13 yn y Peiriant Wayback
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru | Swyddogaethau a Chyfrifoldebau Archifwyd 2010-07-06 yn y Peiriant Wayback