Pretty Baby

Oddi ar Wicipedia
Pretty Baby
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Genreffilm erotig, ffilm ddrama, ffilm ramantus Edit this on Wikidata
Prif bwncputeindra Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithNew Orleans Edit this on Wikidata
Hyd110 munud, 109 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrLouis Malle Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrLouis Malle Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuParamount Pictures Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJelly Roll Morton Edit this on Wikidata
DosbarthyddParamount Pictures Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddSven Nykvist Edit this on Wikidata

Mae Pretty Baby yn ffilm ddrama ffuglenol, Americanaidd a gyhoeddwyd yn 1978, a gyfarwyddwyd gan Louis Malle, ac sy'n serennu Brooke Shields, Keith Carradine, a Susan Sarandon. Ysgrifennwyd y sgrinlun gan Polly Platt. Mae'r plot yn canolbwyntio ar gam-drin rhywiol merch 12 oed yn ardal golau coch New Orleans ar droad yr 20g.

Mae teitl y ffilm wedi'i ysbrydoli gan gân Tony Jackson, "Pretty Baby", a ddefnyddir yn y trac sain. Er bod y beirniaid, ar y cyfan, wedi canmol y ffilm, cafwyd peth dadlau oherwydd ei bod yn darlunio puteindra plant ac yn cynnwys golygfeydd noethlymun o Brooke Shields, a oedd yn 12 oed.

Plot[golygu | golygu cod]

Ym 1917, yn ystod misoedd olaf puteindra cyfreithiol yn Storyville, ardal golau coch New Orleans, Louisiana, mae Hattie yn gweithio mewn puteindy cain, sy'n cael ei redeg gan yr hen Madame Nell, sy'n drewi o cocên. Mae gan Hattie ferch 12 oed, Violet, sy'n byw gyda hi yn y puteindy crand. Daw'r ffotograffydd Ernest J. Bellocq ar ymweliad gyda'i gamera ac mae'n tynnu lluniau rhai o'r menywod. Dim ond ar ôl iddo gynnig talu y mae Madame Nell yn cytuno i hyn.

Mae weithgareddau Bellocq, a'i dechnoleg newydd, yn cyfareddu Violet, er ei bod ar y dechrau'n credu ei fod yn cwympo mewn cariad â'i mam, ac mae hyn yn ei gwneud hi'n genfigennus. Mae Violet yn blentyn aflonydd a bywiog ac yn ddiamynedd gyda'r dechneg o dynnu lluniau yr amser honno; proses y mae'n rhaid i Bellocq fynd drwyddi er mwyn cymryd y ffotograffau.

Mae Nell yn penderfynu bod Violet ei mherch yn ddigon hen i'w morwyndod gael ei roi ar ocsiwn i gwsmeriaid y puteindy. Caiff ei phrynu gan gwsmer tawel ac mae'n ymddangos ei bod yn dechrau mwynhau ei gwaith fel putain. Yn y cyfamser, mae Hattie, ei mam, yn bwriadu dianc o'r puteindy, priodi a pharchuso. Gwnaiff hynny, ac mae'n gadael am St Louis heb ei merch. Mae Hattie yn addo dychwelyd am Violet, unwaith y bydd wedi setlo ac wedi torri'r newyddion i'w phriod newydd.

Mae'r ffotograffydd hefyd yn gadael y puteindy, ac mae Violet yn ei ddilyn, wedi iddi gael ei chwipio. Mae'n ymddangos ar stepen drws Bellocq ac yn gofyn iddo gysgu gyda hi a gofalu amdani. Mae'n gwrthod i ddechrau, ond yna mae'n mynd â hi i mewn ac yn dechrau cael perthynas rywiol gyda'r plentyn Violet. Mewn sawl ffordd, mae eu perthynas yn debyg i un rhwng rhiant a phlentyn, gyda Bellocq yn cymryd rol y fam absennol. Pryna ddol iddi, gan ddweud wrthi "y dylai pob plentyn gael dol". Mae harddwch, ieuenctid ac wyneb ffotogenig Violet yn parhau i swyno Bellocq ond mae hi'n rhwystredig oherwydd ymroddiad Bellocq i'w waith.

Cyn hir dychwela Violet i buteindy Nell ar ôl ffraeo â Bellocq, ond mae grwpiau diwygio cymdeithasol yn gorfodi puteindai Storyville i gau. Ond daw Bellocq at Violet, a phrioda'r ddau, heb ganiatad ei mam.

Bythefnos ar ôl y briodas, mae Hattie a'i gŵr yn cyrraedd o St Louis i gasglu Violet, gan honni bod ei phriodas yn anghyfreithlon heb ei chaniatâd hi. Nid yw Bellocq eisiau gadael i Violet fynd. Ond mae Violet yn gofyn iddo fynd gyda hi a'i theulu. Oherwydd ei bod hi wir eisiau mynd gyda'i mam a'i gŵr, mae Bellocq yn gadael iddi fynd hebddo, gan sylweddoli y bydd addysg a bywyd mwy confensiynol o fudd mawr iddi. Diwedda'r ffilm, ac ni wyddom a ddilynodd Bellocq hi ai peidio.

Prif gast[golygu | golygu cod]

  • Brooke Shields fel Violet
  • Keith Carradine fel E J. Bellocq
  • Susan Sarandon fel Hattie
  • Frances Faye fel Nell
  • Antonio Fargas fel Professor
  • Matthew Anton fel Red Top
  • Diana Scarwid fel Frieda
  • Barbara Steele fel Josephine
  • Seret Scott fel Flora
  • Cheryl Markowitz fel Gussie
  • Susan Manskey fel Fanny
  • Laura Zimmerman fel Agnes
  • Miz Mary fel Odette
  • Gerrit Graham fel Highpockets
  • Mae Mercer fel Mama Mosebery

Noethni a beirniadaeth[golygu | golygu cod]

Derbyniodd Pretty Baby sgôr R yn yr Unol Daleithiau, sgôr X yn y Deyrnas Unedig, a sgôr R18 + yn Awstralia, oherwydd noethni a chynnwys rhywiol. Arweiniodd dadleuon parhaus ynghylch golygfeydd noethlymun Shields at wahardd y ffilm yn nhaleithiau Canada Ontario a Saskatchewan ond newidiwyd y penderfyniad hwn ym 1995. Galwodd y colofnydd Rona Barrett y ffilm yn " bornograffi plant ", a phardduwyd y cyfarwyddwr Louis Malle ganddi gan fynegi fod y ffilm yn gyfuniad o Lolita ' Humbert Humbert a gwaith y cyfarwyddwr dadleuol Roman Polanski ".[1]

Yn yr Ariannin, gwaharddwyd y ffilm, oherwydd y cynnwys "pornograffig". Am bum mlynedd, gwaharddwyd y ffilm hefyd yn nhrefn apartheid gwlad De Affrica .

Felly, ni chafodd y ffilm ei gwahardd yn yr UDA na'r rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin (gan gynnwys y DU) er fod sawl golygfa o ferch 12 oed noeth yn y ffilm.

[1] Yn wreiddiol, sensrodd y BBFC ddwy olygfa ar gyfer rhyddhau sinema'r ffilm yn y DU i gael gwared ar noethni, ond rhyddhawyd y fersiwn lawn ar DVD yn 2006.

Derbyniad[golygu | golygu cod]

Cymerodd Pretty Baby $ 5.8 miliwn yn yr Unol Daleithiau.[2]

Derbyniad beirniadol[golygu | golygu cod]

Derbyniodd y ffilm adolygiadau cadarnhaol ar y cyfan gan feirniaid ffilm. Mae Rotten Tomatoes yn rhoi 70% (gan 27 beirniad) adolygiad cadarnhaol i'r ffilm, gyda chyfartaledd graddio o 6.87 / 10, sy'n llawer uwch na'r cyffredin.[3]

Rhoddodd beirniad ffilm Chicago Sun-Times, Roger Ebert, dair seren allan o bedair i'r ffilm, a mynegodd sut ". . . ymosodwyd ar Pretty Baby gan rai fel pornograffi plant. Nid yw. Mae'n fynegiad o amser a lle a phennod drist o America. " [4] Canmolodd berfformiad Shields hefyd, gan ysgrifennu ei bod "... wir yn creu cymeriad yma; mae ei chynildeb a'i dyfnder yn rhyfeddol."

Ar y llaw arall, ysgrifennodd Variety fod "y ffilm yn olygus, y chwaraewyr bron i gyd yn effeithiol, ond mae uchafbwyntiau'r stori wedi'u cyfyngu o fewn ystod gul o ddramateiddio ho-hum." [5] Dywedodd beirniad Mountain Xpress, Ken Hanke, wrth edrych ar y ffilm o safbwynt 2003, am Pretty Baby : "Roedd yn sioc ac yn ddiflas ar un adeg. Nawr mae'n ddiflas yn unig. " [3]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Enillodd y ffilm y Wobr Fawr Dechnegol yng Ngŵyl Ffilm Cannes 1978 .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 McMurran, Kristen. "Pretty Brooke" Archifwyd 2016-09-25 yn y Peiriant Wayback., People (May 29, 1978).
  2. Pretty Baby, Internet Movie Database. Accessed May 6, 2010.
  3. 3.0 3.1 "Pretty Baby (1978)". Rotten Tomatoes. Retrieved July 13, 2019.
  4. Ebert, Roger. "Pretty Baby," Archifwyd 2012-10-10 yn y Peiriant Wayback. Chicago Sun-Times (June 1, 1978).
  5. Variety Staff. "Pretty Baby" Variety (January 1, 1978). Accessed May 6, 2010.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]