Neidio i'r cynnwys

Prano Bailey-Bond

Oddi ar Wicipedia
Prano Bailey-Bond
Ganwyd1982 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, golygydd ffilm, ysgrifennwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.pranobaileybond.com/ Edit this on Wikidata

Mae Prano Bailey-Bond (ganwyd 1982) yn gyfarwyddwr ffilmiau ac awdur a aned yn Aberystwyth, Ceredigion. Cafodd ei ffilm nodwedd gyntaf, Censor, ei rhyddhau yn 2021 gan Vertigo Releasing.[1]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Bailey-Bond ym 1982[2] a magwyd hi ym Mhenuwch, Ceredigion.[3] Symudodd i Lundain yn 18 mlwydd oed i astudio Ffilm yng Ngholeg Argraffu Llundain.[4]

An image of Prano Bailey-Bond in 2017
Prano Bailey-Bond yn 2017

Cyfarwyddodd Bailey-Bond ei fideo cerddoriaeth gyntaf yn 2010, gan ddechrau ei gyrfa gyda fideos cerddoriaeth a ffilmiau byrion.[4]

Yn 2018 dewisiodd Screen International hi yn un o'i 'Stars of Tomorrow'.[5]

Cafodd ei ffilm nodwedd gyntaf fel awdur a chyfarwyddwr, y ffilm arswyd seicolegol Censor, ei dangos am y tro cyntaf yn y byd yng Ngŵyl Ffilm Sundance 2021[6] a'i rhyddhau i sinemâu ym Mhrydain gan Vertigo Releasing yn Awst 2021.[7] Derbyniwyd y ffilm 9 enwebiad yng ngwobrau BIFA 2021.[8]

Ffilmograffiaeth

[golygu | golygu cod]

Ffilmiau Byrion[9]

[golygu | golygu cod]
  • Short Lease (2010) - cyfarwyddwyd ar y cyd gyda Jennifer Eiss
  • Man vs Sand (2012)
  • The Trip (2013)
  • Nasty (2015)
  • Shortcut (2016)

Ffilmiau nodwedd

[golygu | golygu cod]
  • Censor (2021) – cyfarwyddwyd gan Bailey-Bond, cyd-ysgrifenwyd gan Bailey-Bond ac Anthony Fletcher [10] [11]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Vertigo - Censor". Vertigo Releasing. 2025-11-28. Cyrchwyd 2025-11-28.
  2. Romney, Jonathan (6 Rhagfyr 2021). "Film-maker Prano Bailey-Bond: 'People think horror is just exploding heads'". The Guardian. Cyrchwyd 24 Awst 2024.
  3. "Developing Horror". Film Hub North. 19 Chwefror 2021. Cyrchwyd 24 Awst 2024.
  4. 1 2 Hopkinson, Jay Louis (2021-08-12). "National Treasure". Massive Cinema. Cyrchwyd 2025-11-28.
  5. "Stars of Tomorrow 2018 - Prano Bailey-Bond". Screen International. 2025-11-28. Cyrchwyd 2025-11-28.
  6. "Sundance 2021: which films might break out this year?". The Guardian. 28 Ionawr 2021. Cyrchwyd 2021-07-02.
  7. "Vertigo - Censor". Vertigo Releasing. 28 Tachwedd 2025. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2025.
  8. "Censor - BIFA - British Independent Film Awards". BIFA. 2025-11-28. Cyrchwyd 2025-11-28.
  9. "Short - Prano Bailey-Bond". Prano Bailey-Bond. 2025-11-28. Cyrchwyd 2025-11-28.
  10. Greenwood, Douglas (22 Ebrill 2021). "Every horror movie coming in 2021". The Independent. Cyrchwyd 2021-07-02.
  11. "Censor review – disturbing descent into video nastiness". The Guardian. 29 Ionawr 2021. Cyrchwyd 2021-07-02.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]