Poulett George Henry Somerset

Oddi ar Wicipedia
Poulett George Henry Somerset
Ganwyd19 Mehefin 1822 Edit this on Wikidata
Bu farw7 Medi 1875 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, milwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadCharles Somerset Edit this on Wikidata
MamLady Mary Poulett Edit this on Wikidata
PriodBarbara Augusta Norah Mytton, Emily Moore Edit this on Wikidata
PlantVere Francis John Somerset, Henry Charles FitzRoy Somerset, Cecily Emily Poulett Somerset Edit this on Wikidata
Gwobr/auCydymaith Urdd y Baddon, Medal Rhyfel y Crimea (Prydain), 4th class, Order of the Medjidie Edit this on Wikidata

Roedd y Cyrnol Poulett George Henry Somerset CB (19 Mehefin 1822 - 7 Medi 1875) yn filwr ac yn wleidydd Prydeinig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Fynwy rhwng 1859 a 1871[1].

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Roedd Somerset yn fab i’r Arglwydd Charles Somerset a’i ail wraig y Ledi Mary Poulett.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a’r Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst

Bu’n briod ddwywaith. Ar 15 Ebrill 1847 priododd Barbara Augusta Norah Mytton), merch John Mad Jack Mytton a Caroline Gifford ei wraig. Bu iddynt dau fab a ddwy ferch gan gynnwys

  • Cecily Mary Caroline Somerset
  • Vere Francis John Somerset
  • Henry Charles FitzRoy Somerset

Bu Barbara marw 4 Mehefin 1870. Ar 10 Medi 1870 priododd ei ail wraig Emily Moore bu iddynt un ferch:

  • Cecily Emily Poulett Somerset

Gyrfa filwrol[golygu | golygu cod]

Medal Rhyfel y Crimea a phedwar clespyn

Ymunodd â'r fyddin ym mis Mawrth, 1839, a bu'n gwasanaethu gyda Gwarchodlu Coldstream. Fe wasanaethodd ar staff yr ymgyrch Dwyreiniol ym 1854 fel aide de-camp i’w ewythr, yr Arglwydd Raglan[2]. Roedd yn bresennol ym mrwydrau Alma, Balaclava, lnkerman (lle cafodd ei geffyl ei ladd gan ffrwydrad), a bu’n rhan o warchae Sebastopol[3].

Am ei wasanaeth yn y Crimea dyfarnwyd iddo fedal a phedwar clespyn ym 1855 a’i godi yn Gydymaith Urdd y Baddon.

Ymddeolodd o'r Gwarchodlu Coldstream ym mis Mawrth, 1854, gan ymadael o'r gwasanaeth trwy werthu ei gomisiwn ym mis Chwefror 1863. Roedd y Cyrnol Somerset hefyd wedi gwasanaethu gyda'r 7fed Ffiwsilwyr a Milisia 1af Durham.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd fel un o gynrychiolwyr Sir Fynwy yn Nhŷ'r Cyffredin o 1859 i 1871 ar y cyd a’i gefnder Charles Octavius Swinnerton Morgan. Ymadawodd a’r Senedd ym 1871 i wneud lle i'w berthynas, yr Arglwydd Henry Somerset[4].

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Dundrum ger Dulyn a chladdwyd ei weddillion yng nghorff Eglwys Gadeiriol Bryste.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 adalwyd 15 Hydref 2017
  2. E. M. Lloyd, ‘Somerset, FitzRoy James Henry, first Baron Raglan (1788–1855)’, rev. John Sweetman, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Sept 2014, adalwyd 15 Hydref 2017]
  3. "DEATH OF COLONEL POULETT SOMERSET - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1875-09-17. Cyrchwyd 2017-10-15.
  4. Obituary The Register adalwyd 15 hydref 2017
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward Arthur Somerset
Aelod Seneddol Sir Fynwy
18591871
Olynydd:
Yr Arglwydd Henry Somerset