Portobelo

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Portobelo (dinas))
Portobelo
Mathdinas â phorthladd, Corregimientos of Panama Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolFortifications on the Caribbean Side of Panama: Portobelo-San Lorenzo Edit this on Wikidata
SirPortobelo District Edit this on Wikidata
GwladBaner Panama Panama
Cyfesurynnau9.5544°N 79.655°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethrhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Amddiffynfeydd Portobelo

Dinas a phorthladd yng ngogledd Panama yw Portobelo, hefyd Portobello. Saif yng nhalaith Colón, gerllaw Camlas Panama.

Sefydlwyd y ddinas yn 1597 gan y Sbaenwr Francisco Velarde y Mercado. Datblygodd i fod yn un o borthladdoedd pwysicaf Is-deyrnas Granada Newydd. Cipiwyd Portobelo gan Henry Morgan yn 1668, a threuliodd ei wŷr 14 diwrnod yn ei hysbeilio. Yn 1739, fe;i cipiwyd gan y llynghesydd Prydeinig Edward Vernon yn ystod Rhyfel Clust Jenkins. Cipiwyd y ddinas yn ôl gan y Sbaenwyr yn fuan wedyn.

Erbyn heddiw. mae'r boblogaeth yn llai na 3,000. Cyhoeddwyd amddiffynfeydd y ddinas, gyda rhai Caer San Lorenzo gerllaw, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.