Porth:Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Croeso i Borth Cymru

Baner Cymru, Y Ddraig Goch
Arfbais Cymru
Map o Gymru gyda'i lleoliad yn y Deyrnas Unedig.
Llwybr(au) brys:
P:CYMRU
P:CYM
P:C

Mae Cymru yn wlad sy'n rhan o'r Deyrnas Unedig ac yn rhanbarth etholedig o'r Undeb Ewropeaidd. Lleolir Cymru yng ngorllewin ynys Prydain Fawr gyda ffin â Lloegr i'r dwyrain, Môr Hafren i'r de, a Môr Iwerddon i'r gorllewin a'r gogledd, a hefyd Afon Dyfrdwy i'r gogledd-ddwyrain. Poblogaeth Cymru ydy tua thair miliwn ac yn ddwyieithog. Cymeradwywyd Mesur yr Iaith Gymraeg 2010 gan y Llywodraeth ar 7 Rhagfyr 2010 drwy bleidlais unfrydol. Wrth gael ei gymeradwyo, y bydd yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru. Ar 9 Chwefror 2011, rhoddwyd i'r mesur hwn Cydsyniad Brenhinol, sy'n golygu bod y frenhines/brenin cyfansoddiadol yn cymeradwyo a chyhoeddi'n ffurfiol y mesur (deddf) Seneddol hwn, felly yn ei wneud yn ddeddf ac yn rhoi statws swyddogol i'r iaith. Mae tua dwy ran o dair o'r boblogaeth yn byw yn y de-ddwyrain o gwmpas dinas fwyaf y wald a'r brifddinas, Caerdydd.

Un o lawer o symbolau cenedlaethol yw baner Cymru (y Ddraig Goch). Dewi Sant yw nawddsant Cymru a Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yw diwrnod cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae ceisiadau i'w wneud yn ŵyl. Mae Cymru'n unigryw i weddill y DU oherwydd nerth hanes a diwylliant Cymru, yn enwedig y Gymraeg.

Machynlleth oedd cartref llywodraeth Owain Glyndŵr yn ystod ei wrthryfel ar ddechrau'r pymthegfed ganrif. Ym 1999, sefydlwyd Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn rhoi i Gymru bwerau o ran gofal iechyd, addysg a phynciau datganoledig. Cynhaliwyd refferendwm ar ymestyn pwerau deddfu y Cynulliad yng Nghymru ar 3 Mawrth 2011. Gofynnodd y refferendwm y cwestiwn hwn: "A ydych yn dymuno i'r Cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?" Cyhoeddwyd canlyniadau'r refferendwm ar 4 Mawrth 2011. Ar y cyfan, pleidleisiodd 63.49% 'ydw', a phleidleisiodd 36.51% 'nac ydw'. 'Ydw' oedd y bleidlais mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol, gyda'r eithriad i Sir Fynwy. Ar y cyfan, pleidleisiodd 35.2% o Gymru. Croesawodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y canlyniad, gan ddywedyd: "Heddiw, fe gafodd hen wlad ei pharch."

Erthygl ddethol

Cymru yn erbyn yr Eidal, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2008. Cymru 47, Yr Eidal 8.

Mae tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru yn cynrychioli Cymru mewn gemau rhyngwladol. Dyma'r tîm sy'n cynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad ac hefyd yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd a gynhelir bob pedair blynedd. Dewisir aelodau o'r tîm hefyd i chwarae gyda'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig.

Enillodd Cymru y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 1893, gan ennill y Goron Driphlyg hefyd. Enillwyd y bencampwriaeth eto yn 1900, gan ddechrau "oes aur" gyntaf rygbi Cymru, oedd i barhau hyd 1911. Wedi cyfnod llai llewyrchus, cafwyd blynyddoedd llwyddiannus eto yn hanner cyntaf y 1950au. Cafwyd trydydd "oes aur" rhwng 1969 a 1982. Yn 1971, cyflawnodd Cymru'r Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 1952. Ystyria llawer mai tîm 1971, oedd yn cynnwys chwaraewyr fel Gareth Edwards, Barry John a J.P.R. Williams, oedd y gorau i gynrychioli Cymru erioed. Cyflawnwyd y Gamp Lawn eto yn 1976 a 1978.

Yn yr 1980au a'r 1990au cafwyd canlyniadau gwael, ond erbyn dechrau'r ganrif newydd roedd arwyddion gwella, a chyflawnwyd y Gamp Lawn yn 2005. Dilynwyd hyn gan berfformiadau siomedig yn y bencampwriaeth yn 2006 a 2007, ond yn 2008 cyflawnwyd y Gamp Lawn eto.

Bywgraffiad dethol

Manic Street Preachers in London during their 2005 tour.
Band roc o'r Coed Duon yn Ne Cymru yw Manic Street Preachers. Ffurfiwyd y band yn Ysgol Gyfun Oakdale, 1986, gan ffrindiau James Dean Bradfield, Sean Moore, Nicky Wire a Flicker. Ym 1988, gadawodd Flicker y grŵp am resymau cerddorol. Ar ôl recordio'r sengl Suicide Alley fel triawd, fe ymunodd gitarydd newydd, Richey Edwards, â'r grŵp. Er nad oedd Edwards yn gallu chwarae'r gitâr yn dda iawn, ei brif gyfraniad oedd ysgrifennu'r geiriau gyda Nicky Wire. Fe ddiflannodd Richey Edwards o'i westy yn Llundain ar y 1 Chwefror 1995. Darganfuwyd ei gar yn ymyl Pont Hafren ond nid oes neb wedi'i weld ers iddo ddiflannu. Bron iddynt orffen y grŵp ar ôl i Edwards adael, ond ail-ffurfiwyd y band fel triawd unwaith eto. Ar ôl diflaniad Edwards, aeth y band ymlaen i fwynhau llwyddiant masnachol ar sgìl llawer mwy nac yr oeddent wedi cyflawni yn eu blynyddoedd cynnar. Maent wedi rhyddhau pum albwm arall, gan gynnwys Everything Must Go (1996), This Is My Truth Tell Me Yours (1998) a aeth i #1 yn y siartiau Prydeinig yn 1998, Lifeblood (2004), a Send Away The Tigers (2007).

A wyddoch chi...

Llun dethol

Dyfyniad dethol

A dyma fi yno. Diolch am fod ar goll
Ymhell o gyffro geiriau’r eithafwyr oll.
Dyma’r Wyddfa a’i chriw; dyma lymder a moelni’r tir;
Dyma’r llyn a’r afon a’r clogwyn; ac, ar fy ngwir,
Dacw’r ty lle’m ganed. Ond wele, rhwng llawr a ne’
Mae lleisiau a drychiolaeth ar hyd y lle.
Rwy’n dechrau simsanu braidd; ac meddaf i chwi,
Mae rhyw ysictod fel petai’n dod drosof i;
Ac mi glywaf grafangau Cymru’n dirdynnu fy mron.
Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.
T. H. Parry-Williams, Cerddi (1931)

Pynciau Cymru

Cynnwys dethol

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Erthyglau i'w creu

Pyrth cysylltiedig

Wikigyfryngau cysylltiedig

Cymru ar Wiciquote     Cymru ar Wicillyfrau     Cymru ar Wicitestun     Cymru ar Wiciadur     Cymru ar Gomin
Dyfyniadau Llawlyfrau a Llyfrau Testunau Diffiniadau Comin
https://cy.wikiquote.org/wiki/Special:Search/CymruWikiquote-logo.svg
https://cy.wikibooks.org/wiki/Special:Search/CymruWikibooks-logo.png
https://cy.wikisource.org/wiki/Special:Search/CymruWikisource-logo.svg
https://cy.wiktionary.org/wiki/Special:Search/CymruWiktionary-logo-cy.png
//cy.wikipedia.org/wiki/Arbennig:Search/Commons:CymruCommons-logo.svg
Beth yw'r pyrth? · Rhestr pyrth · Pyrth dethol

Puro storfa gweinydd