Popocatépetl
Gwedd
| Math | stratolosgfynydd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Talaith Mecsico, Puebla, Morelos |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 5,452 metr, 5,454 metr |
| Cyfesurynnau | 19.023386°N 98.623434°W |
| Amlygrwydd | 3,020 metr |
| Cadwyn fynydd | Gwregys Folcanig Traws-Mecsico |
![]() | |
| Deunydd | andesite |
Llosgfynydd ym Mecsico yw Popocatépetl (Nahwatleg: Popōca tepētl, "y mynydd sy'n mygu"). Saif yng nghanolbarth y wlad, ar ffiniau taleithiau Morelos, Puebla a Mecsico a 55 km i'r de-ddwyrain o Ddinas Mecsico.
Popocatépetl yw llosgfynydd ail-uchaf Mecsico, ar ôl Pico de Orizaba. Ers 1354, cofnodir iddo ffrwydro 18 o weithiau. Cofnodir i aelodau o lwyth y Tecuanipas ddringo'r mynydd yn 1289, ac i'r Sbaenwyr dan Diego de Ordás ei ddringo yn 1519. Yn 1994, dynodwyd y mynachlogydd ar ei lethrau yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
