Popeth Cymraeg

Oddi ar Wicipedia
Popeth Cymraeg
Enghraifft o'r canlynolcwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1991 Edit this on Wikidata
SylfaenyddIoan Talfryn Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
PencadlysDinbych Edit this on Wikidata

Cwmni cyfyngedig elusenol ydy Popeth Cymraeg, gyda'r nôd o ddarparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion. Mae'r cwmni wedi ei leoli yn Ninbych, Sir Ddinbych.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ym 1988, lansiwyd apêl gan David Jones, maer Dinbych ar y pryd a hefyd dysgwr Cymraeg, efo syniad o sefydlu Canolfan Iaith Clwyd. Ffurfiwyd ymddiriodolaeth, a pherswadiwyd Cyngor Sir Clwyd i drosglwyddo adeilad hen lyfrgell Dinbych i ddwylo'r ymddiriedolaeth er mwyn gartrefu'r ganolfan. Yn ystod 1990, codwyd £105,000 i adnewyddu'r adeilad. Sicrhawyd grant blynyddol o £20,000 gan Y Swyddfa Gymreig ym 1991, ac agorwyd y Ganolfan yn swyddogol.

Ym 1996, arwyddwyd cytundeb ffranseis gyda thri Choleg Addysg Bellach lleol - Coleg Llandrillo, Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Celyn - i redeg dosbarthiadau Cymraeg yn y gymuned ar eu rhan - o Saltney ar y ffin draw i Benmaenmawr. Ym 1997, cynhaliwyd cwrs 'Accelerated Learning' Cymraeg cyntaf, yn defnyddio techneg a adwaenir erbyn hyn fel Dadawgrymeg. Creuwyd y dechneg - Suggestopedia yn Saesneg - gan Georgi Lozanof ym Mwlgaria ac mae cyfarwyddwr Popeth Cymraeg, Ioan Talfryn wedi dysgu'r techneg efo Mr Lozanof.

Canolfan Iaith Clwyd, Pwll y Grawys, Dinbych

Enillwyd grant o £187,000 gan y Loteri Genedlaethol ym 1997 i adeiladu estyniad i'r ganolfan a chyflogi mwy o staff. Sefydlwyd Menter Dinbych-Conwy y flwyddyn wedyn gyda chyllid gan Fwrdd Yr Iaith Gymraeg, Cyngor Colwyn a chynllun Cadwyn, a chyflogwyd dau swyddog newydd. Ym 1999 newidiwyd enw'r ymddiriedolaeth i 'Popeth Cymraeg / Welsh Unlimited' a daeth y gwmni cyfyngedig elusennol.

Agorwyd arddangosfa barhaol ar hanes Popeth Cymraeg yn y ganolfan yn 2004. Yn 2007, sefydlwyd Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, ac ariannir Popeth Cymraeg yn uniongyrchol bellach, yn hytrach na thrwy'r colegau.

Yn 2008, agorodd Dr John Davies Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau yng Nghanolfan Iaith Clwyd, yn dangos hanes radio yng Nghymru, gan gynnwys radios o gasgliad y diweddar David Jones. Roedd radio yn un o'i brif ddiddordebau.

Agorodd Popeth Cymraeg ganolfan iaith arall yn Y Tanerdy, Llanrwst yn 2009.[1]

Heddiw[golygu | golygu cod]

Mae Popeth Cymraeg yn cynnal cyrsiau Cymraeg i oedolion dros rannau helaeth o ogledd Cymru, rhai ohonynt yn defnyddio Dadawgrymeg. Cynigir yn achlysurol gyrsiau hyfforddiant yn nhechneg Dadawgrymeg.

Mae Ioan Talfryn wedi cydweithio efo cwmni teledu Fflic ar ei raglen Hwb ar gyfer S4C a defnyddir y techneg Dadawgrymeg ar y rhaglen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Canolfan: Teyrnged i arloeswr Gwefan Newyddion BBC Cymru

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Popeth Cymraeg