Neidio i'r cynnwys

Pontypridd Cynon Merthyr (etholaeth Senedd)

Oddi ar Wicipedia
Pontypridd Cynon Merthyr
Enghraifft o:etholaeth Senedd Cymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Un o etholaethau'r Senedd yw Pontypridd Cynon Merthyr, a ffurfiwyd ar gyfer etholiad 2026. Yr enw Cymraeg a ddefnyddir hefyd yn Saesneg.

Bydd yr etholaeth hon yn ethol chwe Aelod o'r Senedd (AS).

Fe'i cynigiwyd yn dilyn adolygiad 2024 o etholaethau'r Senedd, ac fe'i ffurfiwyd drwy uno dwy o etholaethau Senedd y Deyrnas Unedig, sef Merthyr Tudful ac Aberdâr ar y naill law a Pontypridd ar y llall. Bydd y ffiniau'n cael eu hadolygu eto cyn etholiad 2030.

Ffiniau

[golygu | golygu cod]

Cadarnhawyd y ffiniau a'r enw Cymraeg yn unig yn argymhellion terfynol y comisiwn ym mis Mawrth 2025.[1]

Mae'n cynnwys rhannau o siroedd (hynny yw, prif ardaloedd) Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae'r etholaeth i'w sefydlu erbyn 2026, yn dilyn pasio Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Y ddeddf hon sy'n dod â'r newidiadau i rym, fel ag i greu 16 "uwch-etholaeth" sy'n cyfuno dwy o 32 etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig yng Nghymru bob un. Maent yn defnyddio system bleidleisio gyfrannol newydd, gyda phob etholaeth yn ethol chwe Aelod o'r Senedd (AS) yn hytrach nag un fel a wnaed yn y gorffennol.[2]

Etholiadau

[golygu | golygu cod]

Etholiad 2026

[golygu | golygu cod]
Etholiad Senedd Cymru, 2026: Pontypridd Cynon Merthyr
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Annibynnol Beth Winter
Ceidwadwyr
  1. Adam Robinson
  2. David William Jones
- - -
Plaid Cymru
  1. Heledd Fychan
  2. Lis McLean
  3. Sara Crowley
  4. Ian Gwynne
  5. Farrell Perks
  6. Ioan Bellin[3]
- - -
Democratiaid Rhyddfrydol
  1. Neil Feist

David Seale

- - -
Gwyrdd
  1. Angela Karadog
- - -
Heritage Gill Perry
Llafur
  1. Vikki Howells
  2. Lloyd Watkins
  3. Chris Binding
  4. Mitch Theaker
  5. Mustapha Maohoub
  6. Matthew Dorrance
  7. Anna Williams Price
  8. Jane Gebbie
- - -
Reform UK
  1. Jason O’Connell
  2. Gareth Thomas
  3. Steve Bayliss
  4. Martin Roberts
  5. Mark Lawrence
  6. John Ball[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Price, Emily (2025-03-11). "New Senedd 'super constituencies' confirmed". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-03-11.
  2. Hayward, Will (2024-09-02). "The full details of Wales' 16 new constituencies for Senedd elections". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-02-28.
  3. https://pcm.plaid.cymru/plaid_select_candidates_for_2026
  4. Owen, Rhys (2026-03-26). "Pwy ydi Reformwyr Cymru?". Golwg. Cyrchwyd 2026-03-26.